Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
18.04.07
Cyngor i dargedu gwerthiant alcohol i bobl ifanc dan oed
Mae pobl ifanc sy’n yfed alcohol dan oed yn cael eu targedu yn Wrecsam er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Mae Cyngor Wrecsam wedi penodi swyddog arbenigol i gynyddu’r camau gorfodi yn erbyn gwerthiannau dan oed mewn siopau trwyddedig ar draws y fwrdeistref sirol. Ariennir y swydd yn rhannol gan y Swyddfa Gartref a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Mae’n anghyfreithlon i werthu alcohol i bobl dan 18 oed. Mae’n drosedd i staff a dalwyr trwyddedau adeiladau werthu alcohol i unrhyw un dan yr oedran hwn. Bydd yr Adran Safonau Masnach yn cynyddu eu gwiriadau mewn siopau trwyddedig trwy ofyn i wirfoddolwyr 15 ac 16 oed geisio prynu alcohol o siopau ledled Wrecsam.
Os bydd alcohol yn cael ei werthu i bobl ifanc dan oed, gall y cosbau gynnwys erlyn daliwr trwydded yr adeilad a goruchwylydd penodedig yr adeilad, rhoi dirwy o £80 i’r aelod o staff a werthodd yr alcohol ac yn y pen draw, gall arwain at ddiddymu trwydded yr adeilad. Mewn rhai rhannau o’r wlad, mae rhai trwyddedau eisoes wedi’u tynnu’n ôl a siopau wedi’u cau.
Dywed Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam, Andy Lewis:
Mae’r Cyngor yn cymryd y mater hwn o ddifrif ac yn rhybuddio manwerthwyr i gymryd camau i sicrhau bod staff wedi cael hyfforddiant digonol i ofyn i brynwyr brofi eu hoed a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.
Mae Adran Safonau Masnach Wrecsam yn rheoli’r cynllun Profi Eich Oed yn Wrecsam i helpu manwerthwyr i wirio oedran cwsmeriaid. Mae’r mwyafrif o bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed wedi derbyn cardiau 16+ neu 18+ sy’n dangos dyddiad geni’r unigolyn ynghyd â’i enw a’i lun. Dylai staff wirio oedran eu cwsmeriaid iau bob amser a gofyn iddynt brofi eu hoed. Os na allant wneud hynny, y neges syml yw PEIDIWCH Â GWERTHU.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gyfraith mewn perthynas â gwerthu nwyddau sy’n gyfyngedig o ran oedran neu gynllun Profi Eich Oed Wrecsam, ffoniwch Ceri Martin ar 01978 296060.
|