Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
24 Hydref 2007
Bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio yn costio £10,000 i Tesco Wrecsam
Ar 11 Hydref 2007 bu i Ynadon Wrecsam roi dirwy o £7,600 i Tesco Stores Limited a’u gorchymyn i dalu £2,191 o gostau’r yn dilyn yr erlyniad am werthu bwyd a oedd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio yn eu siop ar Ffordd y Cilgant, Wrecsam.
Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam ddaeth â’r erlyniad yn erbyn Tesco yn dilyn ymweliadau i’r siop gan Swyddogion Safonau Masnach. Ar 17 Tachwedd 2006 bu i Swyddog Safonau Masnach brynu chwech o eitemau oedd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio. Ar 29 Rhagfyr 2006, bu i swyddogion ymweld â’r siop unwaith eto a chanfod 67 o eitemau a oedd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio. Bu i’r cwmni bledio’n euog i un cyhuddiad yn ymwneud â toffw a brynwyd ar 17 Tachwedd 2006 a oedd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio o saith niwrnod a dau gyhuddiad a oedd yn ymwneud â rholiau selsig a ganfuwyd ar 29 Rhagfyr 2006 a oedd wedi mynd heibio’r dyddiad defnyddio o chwe diwrnod.
Bu i’r ynadon ddatgan y bu diffyg diwydrwydd difrifol a arweiniodd at berygl sylweddol i gwsmeriaid.
Rydym yn ystyried diogelwch bwyd yn ddifrifol iawn a dywedodd Andy Lewis, Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd “Mae ein Swyddogion yn archwilio adeiladau ledled Wrecsam yn rheolaidd. Gobeithiaf y bydd yr achos hwn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i fusnesau bwyd roi gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol.”
|