Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
13 Mai 2008
Pencampwr Olympaidd yn ymweld â Wrecsam
Bydd enillydd medal aur Olympaidd a Chadeirydd Pwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd a Para-olympaidd Llundain, Sebastian Coe, yn ymweld â Wrecsam ar 13eg Mai i gyfarfod a thasglu Wrecsam ar gyfer Gemau 2012 Llundain. Bydd hefyd yn cyflwyno Rhaglen Addysg Llundain 2012 sydd gerllaw.
Drwy raglen rhanbarthau a chenhedloedd Llundain 2012 bydd Seb yng ngogledd Cymru am ddiwrnod i ddysgu mwy am gynlluniau’r rhanbarth i sicrhau manteision gemau 2012 cyn cyfarfod â phobl ifanc ac unigolion perthnasol eraill o’r maes addysg lleol yn Wrecsam.
Dywedodd Sebastian Coe: “Rydym am i gemau 2012 ysbrydoli pobl ifanc i wneud pethau nad ydynt erioed wedi eu gwneud o’r blaen. Er mwyn cyflawni hyn mae’n rhaid i ni weithio’n agos gyda’r rheiny sy’n adnabod pobl ifanc orau - eu teuluoedd a’u hathrawon. Yn ogystal â chwaraeon, rydym am i gemau 2012 gyffroi gwe-ddylunwyr ifanc, newyddiadurwyr ifanc, a thrydanwyr dan hyfforddiant. Mae llawer iawn i’w rannu a chydweithio i’w gyflawni.”
Bydd rhaglen Addysg Llundain 2012, sy’n cael ei lansio'r hydref hwn yn un ffordd y gall plant a phobl ifanc ledled Cymru a gweddill y DU fod ynghlwm wrth gemau 2012 Llundain. Bydd y rhaglen yn cynnig cyfle dysgu unwaith mewn cenhedlaeth i bobl ifanc.

Bydd ymweliad Seb i Wrecsam yn mynd i’r Cae Ras, un o wersylloedd hyfforddi Wrecsam cyn y gemau yn 2012. Y ddau arall yw Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway a Chanolfan Chwaraeon NEWI.
|