Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
26 Mehefin 2008
Wrecsam yn Llwyddo i Sicrhau £5.2m ar gyfer Prosiectau mewn Ardaloedd Gwledig
Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi cyhoeddi bod Wrecsam wedi llwyddo yn ei gais am werth £5.2m o gyllid i gyflwyno 28 prosiect yn ardaloedd gwledig y Fwrdeistref Sirol.
Crëwyd y 28 prosiect gan amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol. Cawsant eu cydlynu a’u cynorthwyo drwy’r broses cais drwyadl gan Ogledd Gororau Cymru ar ran Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dywed Cyng. Aled Roberts, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Rwyf wrth fy modd bod y 28 prosiect a gyflwynwyd gan gymuned wledig Wrecsam wedi llwyddo i gael cyllid. Gwn fod y staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn ymwneud â hyn eisoes wedi gwneud llawer o waith caled ac mae’r newyddion hyn yn golygu y byddant nawr yn gweld eu syniadau yn dwyn ffrwyth.”
Mae’r prosiectau a gynhwysir yn y cyflwyniad yn amrywio o gynlluniau Cyngor Cymuned Holt i wneud gwelliannau amgylcheddol i’w pentref i fwriad Groundwork i ddatblygu taith gerdded ar lannau Afon Dyfrdwy a phrosiect adrodd storïau digidol Coleg Iâl sy’n anelu at gasglu rhywfaint o wybodaeth werthfawr am dreftadaeth ddiwydiannol yr ardaloedd gwledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Aiff y Cyng. Roberts ymlaen: “Mae ystod y prosiectau hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gan sefydliadau partneriaethol yn cydweithio ac rwy’n falch bod CBS Wrecsam wedi chwarae rhan mor fawr yn sicrhau’r cyllid hanfodol hwn i rannau gwledig y sir.”
Mae newyddion am y cais llwyddiannus am gyllid yn dilyn y cais llwyddiannus blaenorol gan y Strategaeth Datblygiad Lleol (SDLl) a gyflwynwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru fis Mawrth 2007. Crëwyd y SDLl gan Ogledd Gororau Cymru ar ran Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r strategaeth yn adlewyrchu strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill sy’n ceisio gwneud ardaloedd gwledig yn fwy atyniadol ac at wyrdroi’r tueddiadau tuag at ddirywiad economaidd a chymdeithasol a diboblogi yng nghefn gwlad. Arweiniodd cael sêl bendith ar y SDLl Ogledd Gororau Cymru i ddatblygu cynllun busnes i gyflawni’r strategaeth ac mae’r 28 prosiect hyn yn rhan o’r cynllun busnes hwnnw.
Mae’r cynllun busnes i redeg tan fis Chwefror 2011 ac mae ganddo gyfanswm gwerth o £5.2m, sef cyllid grant o £3.7m drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG) gyda’r gweddill yn dod o arian cyfatebol neu amser gwirfoddolwyr.
Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’r prosiectau cysylltwch ag Allan Forrest, Rheolwr Gogledd Gororau Cymru ar 01978 298380.
|