skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


02 Mehefin 2008

Pencampwriaeth Iau'r Byd - Yr Etifeddiaeth Barhaol

Mae dros 400 o blant ysgol cynradd o Wrecsam yn cymryd rhan mewn dathliad o rygbi wrth arwain at y dwrnamaint byd-eang mwyaf y flwyddyn.

Mae’r 16 tîm gorau yn y byd ar lefel dan 20 oed yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Iau'r Byd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yng Nghymru ar 6ed Mehefin gyda De Affrica, Samoa, Yr Alban ac UDA yn chwarae eu gemau rhagbrofol yn Wrecsam

Cynhelir pum diwrnod o gemau yn y Cae Ras trwy gydol mis Mehefin gan sicrhau rygbi o’r safon uchaf i deuluoedd a chefnogwyr rygbi ledled gogledd Cymru.

Bydd plant, hyfforddwyr a chlybiau yn elwa o raglen etifeddiaeth a ddyfeisiwyd gan URC i sicrhau bod y twrnamaint yn gadael effaith barhaol ar Gymru ar lawer lefel.

Anogir dros 3,000 o blant ysgol ledled Cymru i ‘fabwysiadu gwlad’, gan ddysgu am iaith, diwylliant ac etifeddiaeth un o’r 16 gwlad sy’n cymryd rhan mewn menter a fydd yn galluogi plant i gyfarfod â chwaraewyr rhyngwladol sy’n aros, hyfforddi a chwarae yn eu hardal leol. Byddant hefyd yn cael tocynnau am ddim i wylio’u ‘gwlad fabwysiedig’ yn chwarae a chânt gyfle i ennill gwobrau ychwanegol.

Bydd eraill fydd yn elwa o’r rhaglen yn cynnwys hyfforddwyr cymunedol ac elît, a fydd yn gallu crafu pennau'r hyfforddwyr rhyngwladol fydd yn dod i Gymru, mewn sesiynau hyfforddi agored a fforwm hyfforddi elît ym mhob rhanbarth.

Dewiswyd pymtheg clwb rygbi yng Nghymru yn benodol i fod yn glybiau ‘gwesteiwr’ ar gyfer y timau rhyngwladol. Byddant yn elwau o ddau gyfeiriad - cânt y cyfle i gadw amrywiaeth o offer hyfforddiant Rhino a pheli Webb Ellis a ddefnyddiwyd gan y timau - unwaith y bydd y timau wedi gadael Cymru. Byddant hefyd yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng y tîm rhyngwladol elît a’r gymuned leol.

Mae gwyl rygbi bythefnos o hyd wedi dechrau nawr i nodi lansio’r rhaglen gymunedol hon yn Wrecsam, gan greu etifeddiaeth barhaol i bawb sy’n ymwneud â’r fenter.

Mae plant o ysgolion ledled y sir yn cymryd rhan mewn cwpan y byd mini yn dechrau gyda gwyliau cyfeillgar yn arwain at gemau cystadleuol ac yn gorffen gyda thwrnamaint cwpan y byd gyda phob ysgol yn cynrychioli gwlad ym Mhencampwriaeth y Byd Dan 20 oed y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.

Dywedodd Marc Roberts, Swyddog Datblygu Rygbi Wrecsam, "Mae’r rhaglen hon wedi dal dychymyg athrawon a phlant fel ei gilydd a dod â Rygbi’r Undeb i’r amlwg mewn ardal, mae’n rhaid i ni gyfaddef, lle mae pêl-droed yn ben. Mae’r plant yn mwynhau’r heriau y mae’r wyl hon yn ei gynnig ac maent eisoes wedi cyffroi am ddyfodiad y carfannau cenedlaethol a’r cyfle i gyfarfod, holi a gwylio sêr y dyfodol yn chwarae.

Am fwy o fanylion am y twrnamaint ffoniwch 01978 262129 lle gallwch hefyd neilltuo eich tocynnau!

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint