Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
01 Mai 2008
Rygbi Gorau'r Byd i ddod i Wrecsam
Mae twrnamaint rhyngwladol i’r rhai dan 20 oed cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru ac mae’r tocynnau nawr ar werth!
Bydd y 16 tîm gorau dan 20 oed yn dod i Gymru am 3 wythnos mis Mehefin a chynhelir y gemau ar y Cae Ras yn ogystal ag yng Nghasnewydd, Abertawe a Chaerdydd.
Mae’r tocynnau nawr ar gael ar gyfer y digwyddiad am £2 (a ffi neilltuo lle) i blant, ac £8 (a ffi neilltuo lle) i oedolion am bob diwrnod gêm. Bydd pob diwrnod yn cynnwys o leiaf dwy gêm o’r safon uchaf. Mae pecynnau lleoliadau a thimau hefyd ar gael am £8 (a ffi neilltuo lle) i blant a £30 (a ffi neilltuo lle) i oedolion ac yn cynnwys cyfanswm o 10 gêm yr un.
Bydd De Affrica, yr Alban, yr UDA a Samoa wedi eu lleoli yn Wrecsam; Lloegr, Awstralia, Canada a Fiji yn chwarae eu gemau cyntaf yng Nghasnewydd, Seland Newydd, yr Iwerddon, yr Ariannin a Tonga yn chwarae yng Nghaerdydd a bydd Cymru yn chwarae Ffrainc, yr Eidal a Siapan yn Stadiwm Liberty, Abertawe.
Neilltuwch yn awr ar gyfer twrnamaint sy’n darogan i fod yn anhygoel ac sy’n dangos y gorau o’r talent ifanc. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld sêr yfory!
Mae’r tocynnau ar gael o’r Cae Ras neu o’r wefan ganlynol: www.ticketweb.co.uk/INFO/JUNIORRUGBYWORLDCUP/
I neilltuo grwpiau o 8 neu fwy, cysylltwch â’r adran i grwpiau ar 0844 844 2121.
|