| Dyddiad |
Newyddion |
| 31.12.07 |
Llawer o ymateb i Ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol
Mae’r Cyngor wedi derbyn ymatebion lu gan y cyhoedd yn dilyn cam cyntaf yr ymgynghoriad am Gynllun Datblygu Lleol Wrecsam. |
| 24.12.07 |
Gweithgarwch Pur (Mae’r 100 cyntaf yn arbed £25!)
Os ydych awydd dod yn heini neu golli pwysau yn y flwyddyn newydd, ewch draw i’ch canolfan hamdden a gweithgareddau leol i sicrhau eich bod yn arbed £25! |
| 24.12.07 |
Teithio'nSiŵr - Gweithio i gynnal System Cludiant Cyhoeddus Diogel i Wrecsam
Mae Teithio'nSiŵr yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a chwmnïau bysiau lleol i sefydlu trefn i adrodd am achosion trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y rhwydwaith cludiant cyhoeddus. |
| 21.12.07 |
Diogelwch Bwyd dros y Nadolig
Gyda thymor y Nadolig yn agosáu a’n meddyliau’n troi tua hwyl yr wyl mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i breswylwyr dreulio ychydig funudau yn ystyried eu gwastraff - a sut y byddant yn cael gwared ohono i gyd. |
| 20.12.07 |
Gwiriwch eich Sticeri Bin,, Newidiadau Gwyl Banc y Nadolig
Gyda thymor y Nadolig yn agosáu a’n meddyliau’n troi tua hwyl yr wyl mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i breswylwyr dreulio ychydig funudau yn ystyried eu gwastraff - a sut y byddant yn cael gwared ohono i gyd. |
| 13.12.07 |
Ardal chwarae newydd i blant Bers
Bellach mae gan bobl ifanc ardal Bers rywle diogel a dymunol i chwarae ynddo yn dilyn agor ardal chwarae newydd sbon ger Canolfan Treftadaeth Bers. |
| 04.12.07 |
Prif Wobr i Brentis Modern Wrecsam
Enwyd Rebecca Jones yn Brentis Modern y Flwyddyn Cyngor Wrecsam yn y Diwrnod Cydnabod Cyflawniad blynyddol a gynhaliwyd yn y Neuadd Goffa. Cyn ymuno â Chyngor Wrecsam roedd Rebecca’n ddisgybl yn Ysgol Clywedog yn Wrecsam. |
| 30.11.07 |
Gwybod Eich Hawliau y Nadolig Hwn
Gyda’r Nadolig yn nesáu’n gyflym, mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi crynhoi ychydig o gyngor tymhorol i’ch helpu osgoi problemau gyda siopa Nadolig. |
| 30.11.07 |
Zoot Serious and the Bellyful of Bop
Cynhelir dawns Nadoligaidd arbennig gyda’r grŵp poblogaidd 'Zoot Serious and the Bellyful Of Bop' yn y Neuadd Goffa ar 15fed Rhagfyr. |
| 28.11.07 |
Cyfleuster newydd yn rhoi camddefnyddwyr ar y ffordd i wella
Mae prosiect sy’n cynorthwyo oedolion i wynebu’u trafferthion gyda chyffuriau ac alcohol wedi’i agor yn swyddogol heddiw gan Faer Wrecsam, Cyngh. Mrs Joan Lowe. |
| 23.11.07 |
Cyngor Wrecsam yn Enwi Gyrrwr y Flwyddyn
Bu i Dave Maybury, gyrrwr ysgubwr sy'n gweithio yn Adran Strydoedd o Fri Gwasanaethau'r Amgylchedd yng Nghyngor Wrecsam gael ei enwi fel enillydd gwobr 'gyrrwr y flwyddyn' y Cyngor mewn seremoni a gynhaliwyd yn ddiweddar. |
| 22.11.07 |
Lansio Pwyntiau Gwybodaeth i Rieni
Er mwyn gwella mynediad at wybodaeth am faterion gofal plant a materion sy’n ymwneud â phlant, mae’r Ganolfan Gwybodaeth am Blant ar hyn o bryd yn rhoi sgriniau cyffwrdd sy’n bwyntiau gwybodaeth i rieni ar brawf mewn gwahanol leoliadau yn Wrecsam. |
| 21.11.07 |
Targedu Cludwyr Gwastraff Anghyfreithlon
Mae ymgyrch amlasiantaeth wedi bod yn targedu pobl sy’n cludo gwastraff yn anghyfreithlon yn ddiweddar yn ardal Wrecsam. Bu i Swyddogion Gorfodaeth Amgylcheddol Wrecsam ymuno â Swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd a Heddlu Gogledd Cymru i stopio cerbydau a oedd yn debygol o fod yn cludo gwastraff masnachol. |
| 15.11.07 |
Parcio a Theithio dros y Nadolig yng nghanol tref Wrecsam
Unwaith eto eleni bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithredu gwasanaeth Parcio a Theithio i wasanaethu canol y dref y Nadolig hwn. |
| 14.11.07 |
Agoriad Swyddogol Ysgol Clawdd Wat
Croesawodd Ysgol Clawdd Wat, Garden Village ei gyn-bennaeth i’r ysgol i nodi’n swyddogol cwblhad cytundeb ailfodelu ac adnewyddu gwerth £575,000. |
| 12.11.07 |
Gwaith Ffordd Ar-lein
Gall preswylwyr ac ymwelwyr â Wrecsam nawr gael gwybodaeth gywir am waith ffordd yn eu hardal yn dilyn gwelliannau i wefan y Cyngor. Wrecsam yw’r sir gyntaf yng Nghymru i roi gwybodaeth fel hyn ar gael "ar y pryd". |
| 09.11.07 |
"Pwy sydd eisiau chwarae?" – Rhwydwaith Chwarae Wrecsam
Cynhelir digwyddiad gan Rwydwaith Chwarae Wrecsam yn yr Oriel NEWI ddydd Iau, 15fed Tachwedd. Bydd sesiynau'r rhwydwaith yn rhedeg o 1pm tan 2.30pm ac wedyn o 6pm tan 7.30pm. |
| 06.11.07 |
Grant Parc Acton o Gronfa Treftadaeth y Loteri
Mae Cyngor Wrecsam, ar y cyd â Chyngor Cymuned Acton, wedi llwyddo yn eu cais am grant o £47,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri dan y pennawd "Parciau i’r Bobl". |