skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cygnor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Tachwedd 2006 - Rhagfyr 2006

Dyddiad Newyddion
27.12.06

Seren Rygbi’n Hybu Byw’n Iach

Cychwynnodd seren Cymru Kevin Morgan gam diweddaraf ymateb Undeb Rygbi Cymru i Her Iechyd Cymru trwy ymweld ag Ysgol Morgan Llwyd yn ddiweddar i helpu pobl ifanc i ymdrin â materion iechyd.

19.12.06

Cyswllt Trosedd yn cyfrannu at leihau trosedd yng nghanol y dref

Clywodd Partneriaeth Cyswllt Trosedd Wrecsam yn ei chyfarfod cyffredinol blynyddol y mis hwn pa mor effeithiol y mae’r fenter wedi bod wrth gyfrannu at leihau trosedd yng nghanol y dref dros y flwyddyn ddiwethaf.

14.12.06

Partneriaeth lwyddiannus yn dod â thai fforddiadwy i Rostyllen

Trwy weithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Cynghorydd Mark Pritchard, aelod lleol Esclusham, mae’n bleser gan Grwp Tai Pennaf gyhoeddi bod gwaith wedi dechrau ar safle Depo Brittania yn Rhostyllen i ddymchwel hen ddepo cynnal a chadw’r Cyngor.

12.12.06

Lloches nos newydd yn agor yn Wrecsam

Mae lloches nos newydd wedi agor dros dro yn Wrecsam i roi cyfle i hyd at ddeg o drigolion Wrecsam sy’n wynebu gorfod cysgu ar y stryd yn y misoedd nesaf gael noson dda o gwsg.

06.12.06

Gwiriwch y sticer ar eich bin - mae gwyliau'r banc ar y ffordd

Wrth i dymor y Nadolig nesáu ac wrth i ni baratoi ar gyfer yr hwyl a'r miri, mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i breswylwyr dreulio ychydig funudau yn ystyried eu gwastraff - a sut y maent yn bwriadu cael gwared arno i gyd.

05.12.06

Lansio Ymgyrch “Galw Amser ar Droseddau Treisiol” 2006

Wrth i’r gwyliau nesáu a phawb yn cynllunio nosweithiau allan i ddathlu’r Nadolig, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn brysur yn sicrhau bod pawb yn cael amser da a bod canol y dref yn parhau i fod yn lle diogel.

05.12.06

Ydych chi’n ymwybodol fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig gwiriadau diogelwch tân yn y cartref, yn rhad ac am ddim?

Dylai pobl gysylltu â’r rhif rhadffon 0808 100 2863, gan adael enw a rhif ffôn cyswllt, neu gallwch e-bostio: CFS@nwales-fireservice.org.uk  Bydd aelod o’r Tim Diogelwch Cymunedol yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i ymweld â’r cartref.

04.12.06

Clwb Yn Gosod Allan Gweledigaeth Ar Gyfer Dyfodol y Cae Ras

Datgelwyd GLASBRINT ar gyfer dyfodol Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam yn y clwb ei hun heddiw. Mae’r cynllun saith mlynedd sy’n ymestyn i 2012 yn amlinellu potensial y clwb fel lleoliad amlddefnydd o ansawdd uchel lle bydd pêl-droed yn parhau i ffurfio rhan hanfodol yn ei ail-ddyfeisiad.

01.12.06

Parcio a Theithio’n Dychwelyd i Wrecsam y Nadolig hwn

O ddydd Sadwrn, 2 Rhagfyr tan 23 Rhagfyr, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithredu gwasanaeth parcio a theithio bob dydd Sadwrn o faes parcio’r Adran Tai ar Ffordd Rhuthun.

30.11.06

Byddwch yn barod i gael mwy!

Bydd cerdyn hamdden Pur Adran Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael ei lansio ar 1 Rhagfyr 2006. Gallwch arbed arian yn yr holl ganolfannau hamdden a chwaraeon, ynghyd â siopau lleol, ennill pwyntiau ffyddlondeb a chael blaenoriaeth wrth neilltuo lle ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd – a hyn oll am £5 yn unig (mae gostyngiadau ar gael hefyd).

30.11.06

Ysgol ffydd gymysg gyntaf Cymru yn croesawu Jane Davidson, Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Croesawodd Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, ysgol ffydd gymysg gyntaf Cymru, Jane Davidson, y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes i'r ysgol heddiw i'w hagor yn swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio eang gwerth dros £8 miliwn.

29.11.06

Chwe chyngor gogledd Cymru’n cydweithio i helpu pobl sy'n symud ty

Mae lansiad chwiliadau eiddo electronig yn helpu cynghorau i baratoi ar gyfer cyflwyno pecynnau gwella cartrefi'r flwyddyn nesaf.

28.11.06

Bwyta Allan?  Ewch i Safonau Ar-Lein

Mae Tîm Diogelwch Bwyd Wrecsam wedi lansio menter newydd sy’n rhoi cyfle i bobl weld safonau diogelwch bwyd eu hoff fwyty yn gyflym iawn.

24.11.06

Cadw Plant Wrecsam yn Ddiogel

Disgwylir i drefniadau i amddiffyn plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed rhag camdriniaeth gael eu goruchwylio gan gorff statudol newydd a lansir yn Wrecsam yn ddiweddarach y mis hwn.

17.11.06

Plant yn gweld eu bwyd yn mynd o'r fferm i'r fforc

Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Brynteg yn cael blas ar gynnyrch cartref wedi iddynt ddilyn siwrnai eu bwyd o ffermydd lleol i'w platiau cinio. Cynhelir y fenter ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Partneriaeth Broughton a Tîm Strategaeth Broughton a Chanolfan Organig Cymru er mwyn ceisio annog plant i ddeall o ble daw eu bwyd.

17.11.06

Lansio Uned Lleihau Tanau Bwriadol Wrecsam

Mae partneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, y Tîm Lleihau Tanau Bwriadol a'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi arwain at fenter arloesol newydd sy'n herio perchnogion ceir i wella diogelwch eu cerbydau.

15.11.06

Mae angen eich pleidlais ar Fangor

Heno (15fed Tachwedd) am 6.00pm ar raglen "ITV Wales Tonight" mae Bangor Is-coed yn cystadlu am arian y loteri. Ynghyd â’r Ymddiriedolaeth Groundwork, eu nod yw clirio llystyfiant sydd wedi gordyfu mewn ardal ar hyd glan yr afon rhwng y ddwy bont.  Ar ôl gwneud hynny, byddant yn creu teithiau cerdded a mannau picnic i’w defnyddio gan y gymuned.

14.11.06

Gwaith yn Dechrau ar Ad-Drefnu Ysgolion Rhos

Datgelwyd cynlluniau cyffrous heddiw wrth i waith gychwyn ar safle’r hen waith brics yn Rhos a fydd yn gartref i’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, Ysgol Hooson. Bydd yr ysgol yn dal hyd at 240 o ddisgyblion cynradd a meithrin a disgwylir iddi agor ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi 2007.

09.11.06

Cae Chwarae Aml-ddefnydd (M.U.G.A) a Chyrtiau Tennis Newydd

Mae Canolfan Chwaraeon a Gweithgareddau Gwyn Evans yn gyfleuster bach dau ddefnydd sydd wedi'i adeiladu ar dir Ysgol Uwchradd Bryn Alun yng nghanol Gwersyllt.

08.11.06

Ysgol cyfrwng Cymraeg yn ailagor ar ôl gwaith ailwampio

Cymerodd ymroddiad Cyngor Wrecsam i wella safonau addysgol gam ymlaen heddiw pan ailagorodd Ysgol Bryn Tabor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf mewn chwe mis yn dilyn ailwampiad helaeth.

07.11.06

Yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol 6 - 12 Tachwedd 2006

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn galw ar bobl i gymryd y cam cyntaf i fabwysiadu plentyn. Mae angen teuluoedd parhaol yn arbennig ar gyfer plant hyn a grwpiau o ddau neu dri o frodyr a chwiorydd.

06.11.06

Dechrau Disglair i’r Nadolig

Mae gweithgareddau canol y dref eleni’n dechrau’n dda ar nos Iau, 16 Tachwedd pan fydd goleuadau’r Nadolig yn cael eu cynnau ar Sgwâr y Frenhines.

03.11.06

Cyngor pwysig gan Safonau Masnach

Mae Is-adran Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn cynghori tenantiaid tai’r Cyngor i fod yn ofalus wrth ystyried prynu eu cartrefi dan y cynllun “Hawl i Brynu” sy’n caniatáu tenantiaid i brynu’r ty y maent yn byw ynddo.

03.11.06

Buddiolwyr Cronfa Deddfau Eglwys Cymru

Ym mis Medi 2006, cymeradwyodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 25 o grantiau sy’n gyfanswm o £7,200, ar ran Cronfa Deddfau Eglwys Cymru.

02.11.06

Tân gwyllt – Peidiwch â chwarae â thân!

Mae swyddogion Safonau Masnach yn Wrecsam yn rhybuddio’r cyhoedd y gallent droi Noson Tân Gwyllt yn drasiedi neu’n fatsien wleb os na fyddant yn prynu tân gwyllt gan fusnesau sydd wedi ennill eu plwyf.

02.11.06

Marciau llawn i Brentis Modern y Flwyddyn Wrecsam

Enwyd Shelley Smith, 18 oed, yn Brentis Modern y Flwyddyn Cyngor Wrecsam mewn digwyddiad Byd Dysgu yn y Neuadd Goffa yng nghanol tref Wrecsam yn ddiweddar.

30.10.06

Nawr Gall Preswylwyr Newid Mwy Na Dim Ond y Sianel!

Mae gwasanaeth teledu digidol rhad ac am ddim newydd SBON wedi’i lansio’n swyddogol heddiw. Dyma’r gwasanaeth teledu digidol rhyngweithiol cyntaf ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n darparu ffordd hawdd i breswylwyr gael gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau lleol trwy gyfrwng eu teledu.

30.10.06

Triciau Newydd ar gyfer Calan Gaeaf

Ei mwynhau neu ei chasáu, mae Calan Gaeaf yma unwaith eto ac mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam wedi llunio ymgyrch newydd i gadw pawb yn hapus yn ystod y cyfnod traddodiadol o ‘gast neu geiniog’?

27.10.06

Dewch i weld Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC!

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dychwelyd i Neuadd William Aston yn Wrecsam ddydd Sul 5 Tachwedd am 3.00pm i berfformio detholiad o gerddoriaeth gyffrous gan gyfansoddwyr gorau’r byd.

26.10.06

Arddangosfa Paul Sandby, Syr Watkin a Thirwedd Gogledd Cymru yn Amgueddfa Wrecsam

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa!

25.10.06

Dol Yr Eryrod Yn Dechrau Ymffurfio

Mae datblygiad Dôl yr Eryrod, sef canolfan siopa a hamdden newydd Wrecsam, yn dechrau ymffurfio dim ond dwy flynedd ers i Wilson Bowden Developments lofnodi cytundeb partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

24.10.06

Cryno ddisg hanesyddol yn dod â chymuned Bangor at ei gilydd

Mae Maer Wrecsam, y Cynghorydd George James, wedi lansio cryno ddisg am ddim sy’n rhoi gwybodaeth am fywyd lleol ym Mangor hyd at 40 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y digwyddiad yn Eglwys Sant Dunawd, Bangor Is-coed, yn dathlu lansiad y cryno ddisg sy’n dwyn y teitl "Pontio’r Blynyddoedd".


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint