| Dyddiad |
Newyddion |
| 20.12.05 |
Dathlwyr Wrecsam i Gael Budd o Ymateb Cyflym
Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn un o’r prysuraf ar gyfer y gwasanaethau meddygol brys ond bydd peth o’r pwysau’n cael ei leddfu eleni gyda chyflwyniad cyfleuster meddygol dros dro newydd yng nghanol y dref |
| 20.12.05 |
Lleihau Tirlenwi – Wrecsam yw un o’r pump gorau yng Nghymru
Mae ffigyrau diweddar a ryddhawyd gan Gynulliad Cymru yn dangos bod Wrecsam wedi anfon 26% yn llai na’i lwfans o dan y Cynllun Lwfans Tirlenwi i safleoedd tirlenwi eleni sy’n golygu mai Wrecsam yw’r pumed sir gorau yng Nghymru. |
| 16.12.05 |
Dod i Ben â Throseddau Treisgar
Dathlu Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda heb ofidio am ymosodiadau yw prif amcan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint, fel rhan o’u menter “Galw Amser ar Droseddau Treisgar”. |
| 13.12.05 |
Cynllun llwyddiannus Shopmobility yn dathlu carreg filltir
Dathlodd y cynllun llwyddiannus Shopmobility, sydd wedi’i leoli yng nghanol tref Wrecsam, ei ben-blwydd yn 10 oed yr wythnos hon a chynhaliwyd ymgynulliad Nadoligaidd i’r aelodau yn Eglwys y Drindod. Roedd y Dirprwy Faer, y Cynghorydd George James, hefyd yn bresennol. |
| 09.12.05 |
Arddangosfa Ail-greu: y digwyddiad mwyaf poblogaidd erioed yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae amser yn prysur dod i ben i’r rhai hynny ohonoch sydd am weld Mantell yr Wyddgrug cyn iddi ddychwelyd i Lundain. Hoffai staff Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi dod i weld yr arddangosfa hynod lwyddiannus Ail-greu: Delweddu ein Gorffennol. |
| 07.12.05 |
Siôn Corn yn ymweld â'r dref
Mae’r paratoadau ar gyfer y Nadolig yn parhau, a bydd y diwrnod mawr yn teimlo’n nes fyth y nos Iau hon wrth i Siôn Corn gyrraedd canol tref Wrecsam a chymryd ei le traddodiadol yn y Groto ar Sgwâr y Frenhines.
|
| 02.12.05 |
Ymwelydd pigog yng nghanol tref Wrecsam y penwythnos hwn
Caiff pobl sy’n ymweld â thafarnau a chlybiau Wrecsam eu synnu’r penwythnos hwn, pan ddaw’r draenog sinistr “Spike” i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n gysylltiedig ag ymyrryd â diodydd. |
| 01.12.05 |
Canolfan Arbed Ynni Wrecsam yn Agor yn Swyddogol
Gall trigolion sy’n byw yn y fwrdeistref sirol gymryd mantais o ganolfan ynni newydd sbon yng nghanol tref Wrecsam a fydd yn cynnig cyngor i drigolion am sut i gadw eu cartrefi’n gynnes.
|
| 01.12.05 |
Defnyddiwch y traed ‘na!
Beth am fanteisio ar y tywydd braf a mynd am dro bach cyflym yn ystod amser cinio? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Walkabout Wrexham a reolir gan Groundwork Wrexham & Flintshire wedi lansio cynllun o’r enw Urbanwalks er mwyn helpu pobl i wneud 30 munud o weithgaredd corfforol o leiaf 5 diwrnod yr wythnos yn unol â’r argymhelliad cenedlaethol.
|
| 25.11.05 |
Lansio’r Uned Diogelwch Cymunedol Newydd
Mae gweithio gyda’i gilydd i leihau troseddu a gofidion pobl am droseddu eisoes wedi bod yn flaenoriaeth i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam. Nawr mae ‘cydweithio’ yn golygu hynny wrth i’r Uned Diogelwch Cymunedol newydd yn Hightown gael ei hagor yn swyddogol gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Mike Edwards. |
| 24.11.05 |
Diolch yn fawr
Dymuna Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddiolch i bawb a aeth i'r cyngerdd Plant mewn Angen nos Wener. Roedd y noson yn gyfle gwych i weddill y DU weld pa mor hael a chefnogol y gall pobl Wrecsam fod.
|
| 24.11.05 |
Cyngor Wrecsam yn Paratoi ar gyfer y Tywydd Oer
Wrth i'r daroganwyr tywydd ragweld eira trwm a gaeaf caled hir, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn paratoi ei hun. Nod y Cyngor yw sicrhau bod ffyrdd pwysig yn cael eu grudio fel mater o flaenoriaeth cyn i'r rhew ffurfio.
|
| 17.11.05 |
Tîm Y Gyfraith Yn Llwyddo Am Y Pumed Tro'n Olynol!
Mae tîm Gwasanaethau’r Gyfraith wedi llwyddo i gadw eu hachrediad sicrwydd ansawdd Lexcel am y bumed flwyddyn yn olynol. Dyfernir y marc ansawdd pwysig hwn i sefydliadau cyfreithiol sydd wedi bodloni meini prawf ansawdd a safonau rheoli caeth a osodwyd gan Gymdeithas y Gyfraith.
|
| 15.11.05 |
Pwyllgor Archwilio i Edrych ar Ganlyniadau Cyfnod Allweddol Disgyblion 7 - 14 oed
Yn ei gyfarfod nesaf (16.11.05) bydd aelodau o Bwyllgor Archwilio Plant a Phobl Ifanc Wrecsam yn derbyn gwybodaeth am asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol disgyblion 7, 11 a 14 oed y fwrdeistref sirol a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn. |
| 11.11.05 |
Sioe Deithiol Menter Gymdeithasol Gogledd Gororau Cymru
Mae gwasanaeth newydd i sefydliadau yn Wrecsam wledig yn cael ei lansio gan Ogledd Gororau Cymru fel rhan o’i raglenni adfywio gwledig. |