skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cygnor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Tachwedd 2004 - Rhagfyr 2004

Dyddiad Newyddion
24.12.04

Y Cynllun Datblygu Unedol yn cael ei gymeradwyo

Daeth Cynllun Datblygu Unedol Wrecsam gam yn agosach at gael ei fabwysiadu ddoe (22.12.04) pan roddodd y Cyngor ganiatâd i symud ymlaen a’i fabwysiadu.

24.12.04

Pleidiwr i Bobl Hyn Wrecsam

Mae Bwrdd Gweithredol Wrecsam wedi penodi Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Neil Rogers fel “Pleidiwr i Bobl Hyn”.

23.12.04

Ardal Gadwraeth Ddynodedig Cefn Mawr

Cydnabyddwyd cymeriad ardal arbennig Cefn Mawr sy’n un o bentrefi mwyaf hanesyddol Wrecsam gan aelodau Bwrdd Gweithredol Wrecsam wrth iddynt ddynodi rhan o’r pentref yn ardal gadwriaeth.

20.12.04

Tîm Allanol Acton Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cyflwyno ‘Brwydr y Bandiau’ y Nadolig’

Llun o Brwydr y BandiauYn dilyn llwyddiant y ‘Brwydr y Bandiau’ diwethaf a gynhaliwyd ym mis Hydref, lle bu i bedwar band ifanc lleol frwydro o flaen 250 o bobl ifanc yn Central Station i ennill y gystadleuaeth, mae’r digwyddiad wedi’i drefnu eto.

20.12.04

Cyrraedd Adref yn Ddiogel

Llun o tacsi duAnogir y rheini fydd yn gloddesta yn Wrecsam i wirio os fydd y tacsis fyddant yn teithio ynddynt yn ystod tymor y Nadolig yn ddiogel. Nid yw'r unigolion sy'n teithio mewn cerbydau heb eu trwyddedu wedi eu hyswirio rhag damwain ac ni fydd y car wedi pasio'r prawf i dacsis ac sy'n eu gwneud yn addas i'r ffordd fawr.

17.12.04

Cais cynllunio wedi’i dderbyn i adeiladu Canolfan Adfer Adnoddau

Mae Adran Gynllunio Cyngor Wrecsam wedi derbyn cais cynllunio i adeiladu Canolfan Adfer Adnoddau ar ran o gyn safle Gwaith Sychu Owens ar Lôn y Bryn, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.

14.12.04

Rhewgam – i'w weld ar draws y byd

Llun o 'Icecam'Agorwyd llawr sglefrio iâ Wrecsam yn swyddogol. Mae gwegam gyda'r llysenw 'Rhewgam' wedi ei osod uwchben y llawr sglefrio. Mae pwynt ar du allan y llawr lle y gellwch sefyll er mwyn i'r byd i gyd eich gweld.

03.12.04

2,000 yn mewngofnodi ar gyfer Cyngerdd Plant Mewn Angen

Caniataodd gwegam fyw ar wefan Cyngor Wrecsam i 2,000 o bobl ychwanegol wylio’r cyngerdd Plant Mewn Angen, a ddarlledwyd yn fyw o Lawnt Llwyn Isaf, Wrecsam ar y we. Yn dwyn yr enw “Pudseycam” ar gyfer y digwyddiad, mae’r camera yn profi’n nodwedd boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr â gwefan Wrecsam.

02.12.04

Diogelwch Bwyd dros y Nadolig

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto. Bydd yr oergell yn orlawn o fwyd ar gyfer dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac mae paratoi bwyd ar gyfer nifer fawr o bobl bob amser yn her. Rhoddir mwy o bwysau ar y sawl sy’n coginio, ac mae’r perygl o wenwyn bwyd yn cynyddu’n sylweddol.

01.12.04

Y Bartneriaeth yn lansio teclyn i atal ymyrryd â diodydd dros y Nadolig

Mae ymgyrch newydd i atal pobl mewn tafarnau a chlybiau yn Wrecsam rhag ymyrryd â diodydd er mwyn eu cryfhau wedi’i lansio heddiw.

01.12.04

Siôn Corn yn dod i Wrecsam

Bydd Siôn Corn yn cyrraedd Wrecsam ar nos Iau (2il Rhagfyr) mewn sled brydferth sydd wedi’i gwneud â llaw, wedi’i thynnu gan Queenie y carw ynghyd â llusernau a thros 200 o glychau.

29.11.04

Marchnad Nadolig y Ffermwyr yn Wrecsam

Cynhelir Marchnad y Ffermwyr olaf yn 2004 yn Wrecsam ar 17eg Rhagfyr, ac mae’n addo gwledd o fwyd Nadoligaidd a gweithgareddau llawen.

25.11.04

Y Maer yn annog y cyhoedd i helpu OCC fel gwirfoddolwyr

Llun o Y MaerWrth i apêl bocsys esgidiau Operation Christmas Child eleni ddirwyn i ben, mae Maer Wrecsam, y Cynghorydd David Rogers yn apelio am wirfoddolwyr i ddod i helpu’r elusen sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam.

24.11.04

Mae Opera Genedlaethol Cymru'n dod i dref ger chi...

Ym mis Ionawr 2005 bydd Opera Genedlaethol Cymru yn teithio 475 milltir aruthrol i berfformio 14 cyngerdd anhygoel mewn 7 diwrnod!

24.11.04

Rhyddhau Balwns yn Amlygu Camdriniaeth yn y Cartref

Bydd 147 o falwns gwyn, sy’n cynrychioli nifer y merched a’r plant sydd wedi dianc rhag camdriniaeth yn y cartref ac sydd wedi cael cymorth gan noddfa i ferched yn Wrecsam eleni, yn cael eu rhyddhau o Sgwâr y Frenhines brynhawn dydd Iau (25 Tachwedd).

23.11.04

Eich Cyfle Olaf i Weld Arddangosfa Bwysig…

Beth am gyfuno eich siopa Nadolig ag ychydig o ddiwylliant?

Mae arddangosfa am un o oreuon chwaraeon Cymru’n dod i ben yn Wrecsam ddydd Sadwrn, 18 Rhagfyr. Mae’r ‘Cawr Addfwyn: John Charles a Dyfodol Pêl-Droed’ yn canolbwyntio ar fywyd ac oes John Charles, pêl-droediwr a enillodd ei barch drwy’r gêm ac a fu farw’n ddiweddar yn 72 oed.

22.11.04

Parti i Pudsey

Llun o Bryan AdamsDymuna Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddiolch i bawb a ddaeth i'r cyngerdd Plant mewn Angen nos Wener. Roedd y noson yn gyfle gwych i weddill y DU weld pa mor hael a chefnogol mae pobl Wrecsam.

18.11.04

Taith Routes yn Dirwyn i Ben

Hoffai'r tîm Routes o lyfrgell Wrecsam ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect dwy flynedd hwn, a ddaeth i ben ar ddiwedd mis Hydref.

15.11.04

Cyfle i Dynnu Llun – Disgybl Disglair Prifysgol y Plant

Roedd gan un ferch ifanc o Ysgol Babyddol y Santes Fair yn Wrecsam ddigonedd i wenu amdano heddiw. Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf i ennill y Wobr Aur yng Nghymru gan Brifysgol y Plant.

03.11.04

Y Bwrdd Gweithredol i drafod newidiadau i’n gwasanaeth tai yn y dyfodol

Mewn cynnig gan Gyngor Wrecsam i gydbwyso ei gyfrif refeniw tai ac ailwampio'r gwasanaeth tai argymhellir cynnwys rhad-ffôn newydd sbon ar gyfer atgyweiriadau, mwy o bwyntiau talu a mannau trafod tai arbennig.

02.11.04

Pudsey ar ei ffordd i Wrecsam!

Llun o PudseyYn eu hymddangosiad teledu cyntaf ers ailffurfio, bydd y grwp pop Wet Wet Wet yn rocio Wrecsam ochr yn ochr â sawl grwp arall yn y Parti i Pudsey, cyngerdd Plant Mewn Angen y BBC yn Wrecsam ar 19 Tachwedd. Gwnaeth BBC Cymru'r cyhoeddiad hwn ddydd Gwener, 29 Hydref wrth i linellau ffôn agor i'r cyhoedd neilltuo eu tocynnau.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint