skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Medi 2006 - Hydref 2006

Dyddiad Newyddion
30.10.06

Nawr Gall Preswylwyr Newid Mwy Na Dim Ond y Sianel!

Mae gwasanaeth teledu digidol rhad ac am ddim newydd SBON wedi’i lansio’n swyddogol heddiw. Dyma’r gwasanaeth teledu digidol rhyngweithiol cyntaf ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n darparu ffordd hawdd i breswylwyr gael gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau lleol trwy gyfrwng eu teledu.

30.10.06

Triciau Newydd ar gyfer Calan Gaeaf

Ei mwynhau neu ei chasáu, mae Calan Gaeaf yma unwaith eto ac mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam wedi llunio ymgyrch newydd i gadw pawb yn hapus yn ystod y cyfnod traddodiadol o ‘gast neu geiniog’?

27.10.06

Dewch i weld Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC!

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dychwelyd i Neuadd William Aston yn Wrecsam ddydd Sul 5 Tachwedd am 3.00pm i berfformio detholiad o gerddoriaeth gyffrous gan gyfansoddwyr gorau’r byd.

26.10.06

Arddangosfa Paul Sandby, Syr Watkin a Thirwedd Gogledd Cymru yn Amgueddfa Wrecsam

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa!

25.10.06

Dol Yr Eryrod Yn Dechrau Ymffurfio

Mae datblygiad Dôl yr Eryrod, sef canolfan siopa a hamdden newydd Wrecsam, yn dechrau ymffurfio dim ond dwy flynedd ers i Wilson Bowden Developments lofnodi cytundeb partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

24.10.06

Cryno ddisg hanesyddol yn dod â chymuned Bangor at ei gilydd

Mae Maer Wrecsam, y Cynghorydd George James, wedi lansio cryno ddisg am ddim sy’n rhoi gwybodaeth am fywyd lleol ym Mangor hyd at 40 o flynyddoedd yn ôl. Roedd y digwyddiad yn Eglwys Sant Dunawd, Bangor Is-coed, yn dathlu lansiad y cryno ddisg sy’n dwyn y teitl "Pontio’r Blynyddoedd".

03.10.06

Yn galw ar holl blant a phobl ifanc Wrecsam

Mae gan blant a phobl ifanc tan ddydd Gwener 3ydd Tachwedd i gystadlu am gyfle i ennill rhai o’r gwobrau arbennig sydd ar gael yng nghylchgronau newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i blant a phobl ifanc.

03.10.06

Lleihau’r peryglon a gwneud noson tân gwyllt yn fwy diogel

Mae asiantaethau sy’n rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn gweithio gyda’i gilydd i leihau’r risg o danau a llosgi bwriadol yn ystod y cyfnod sy’n arwain at noson tân gwyllt. Bydd Cyngor Wrecsam yn cael gwared ar unrhyw goelcerthi a adeiladir ar dir cyhoeddus cyn 3ydd Tachwedd a bydd hefyd yn cael gwared ar goelcerthi ar ôl y dyddiad hwnnw os bydd yr heddlu neu’r gwasanaeth tân yn credu eu bod yn beryglus.

03.10.06

Teithiau Cerdded Newydd ar Wefan y Cyngor

Mae manylion tair taith gerdded arall yn fyw ar wefan y Cyngor erbyn hyn. Mae'r teithiau'n dechrau o Goedpoeth, Bwlchgwyn a Rhosllannerchrugog ac maent rhwng 4 a 6 milltir o hyd. Mae'r canllawiau'n cynnig taith gerdded hawdd a digon o wybodaeth am hanes a bywyd gwyllt yr ardaloedd.

20.09.06

Cyngor yn Gweithio gyda Total Fitness i Gyrraedd Safonau Uchel o Iechyd a Diogelwch

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am gychwyn partneriaeth iechyd a diogelwch gyda Total Fitness UK Ltd, cwmni canolfannau iechyd a ffitrwydd yn y gogledd-ddwyrain.

15.09.06

Ceisiadau Cynllunio Cyngor Wrecsam Ar-Lein

Mae Adran Gynllunio Cyngor Wrecsam wedi cyflwyno meddalwedd newydd i’w gwefan i ganiatáu ceisiadau cynllunio i gael eu gwneud yn gyflym ac yn effeithiol ar-lein.

15.09.06

Oes gennych chi awydd ymweld â Mur Hadrian?

Ar 13 Hydref 2006, bydd Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam yn cynnal taith unigryw i gofeb ryfeddol Mur Hadrian.

01.09.06

Gwyl Ddysgu Wrecsam yn cyhoeddi rhaglen weithgareddau lawn

Bydd Gwyl Ddysgu gyntaf Wrecsam yn cynnig rhaglen lawn o sesiynau blasu dysgu mewn ystod eang o ddiddordebau. Daw’r prif ddarparwyr dysgu a hyfforddi lleol at ei gilydd ar Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam ddydd Sadwrn yma (9fed Medi) rhwng 10.00am a 3.00pm.

01.09.06

Cyswllt i blant a phobl ifanc Wrecsam

Mae dau gylchgrawn newydd i blant a phobl ifanc sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael eu lansio heddiw. Mae Cyswllt i Blant, sydd i blant rhwng 4 ac 11 oed, a Cyswllt Pobl Ifanc, sydd i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, yn ddau gylchgrawn newydd sbon a gynhyrchwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint