skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cygnor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Medi 2005 - Hydref 2005

Dyddiad Newyddion
31.10.05

Perfformiadau o weithiau clasurol cerddorfaol y meistri yn Neuadd William Aston!

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn dychwelyd i Wrecsam fel rhan o'u taith o amgylch gogledd Cymru i berfformio detholiad o gerddoriaeth bryfoclyd gan gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd y byd nos Sadwrn 5 Tachwedd am 7.30pm. Yng ngofal y baton am y noson fydd yr arweinydd rhagorol o Rwsia, Vasily Petrenko, sydd newydd ei benodi y cyfarwyddwr cerddoriaeth ieuengaf erioed gyda RLPO ac yntau ond yn 29 oed.

14.10.05

Ffair Nawdd yn Cynnig Dewisiadau Nawdd i Gymunedau

Bydd grwpiau cymunedol lleol yn cael y cyfle i archwilio pa ffynonellau nawdd sydd ar gael iddynt yn y Ffair Nawdd a gynhelir yng Nghanolfan Goffa Brynteg. Amcan y digwyddiad a gynhelir rhwng 10am-4pm ar ddydd Iau 20 fed Hydref, yw rhoi cyngor a gwybodaeth i grwpiau lleol am ffynonellau nawdd a sut i gael cyfle i ymgeisio amdanynt.

05.10.05

Cynllun Grantiau Cymunedau Cynaliadwy 2005

Cynllun i helpu grwpiau cymunedol gyda'u prosiectau lleol. Mae gennym nifer o grantiau bach (hyd at £500 yr un) ar gael i grwpiau cymunedol lleol i wella ansawdd bywyd eu hardaloedd.

26.09.05

Agor Arddangosfa Ail-Greu

Heddiw am y tro cyntaf ers bron i 170 o flynyddoedd, bydd mantell yr Wyddrug yn cael ei harddangos i’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru. Daethpwyd o hyd i’r fantell yn 1833 mewn pentwr claddu o’r Oes Efydd Gynnar a phrynwyd hi gan yr Amgueddfa Brydeinig dair blynedd yn hwyrach.

21.09.05

Dadorchuddio Cerflun i Ddathlu Hanes Cyn Bwll ym Mharc Gwledig Bonc yr Hafod

Bydd cerflun i ddathlu blynyddoedd mwyngloddio diwydiannol y cyn waith glo yn cael ei ddadorchuddio ym Mharc Gwledig Bonc yr Hafod ar 21ain Medi am 4.00 pm gan Faer Wrecsam, Y Cynghorydd Mike Edwards.

15.09.05

Protocol newydd i fynd i’r afael â galwyr ffug

Mae Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru a Dŵr Dyffryn Dyfrdwy’n lansio’r protocol cenedlaethol ar gyfer galw ar garreg y drws yn ddiwahoddiad ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ar 15 Medi 2005. Y nod yw amddiffyn pobl sy’n agored i niwed yn well ac atal gweithgareddau galwyr ffug diegwyddor sy’n bwrglera.

08.09.05

Canlyniadau Arolwg Tenantiaid

Mae arolwg diweddar o denantiaid y Cyngor wedi rhoi mewnwelediad diddorol i’r materion sy’n bwysig iddynt. Cyflwynir y darganfyddiadau gan ORC International i aelodau’r Bwrdd Gweithredol mewn cyfarfod ddydd Mawrth, 20 Medi, 2005.

07/09/05

Hoffech Chi Leisio'ch Barn yn y Ddal am Ddyfodol Mynediad Cyhoeddus Yng Ngheen Gwlad?

Mae YFforwm Mynediad Lleol Wrecsam wedi bod yn cyfarfod ers 3 blynedd ac erbyn hyn mae gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hysbysebu am aelodau addas i wasanaethu’r Fforwm am y 3 blynedd nesaf o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Gall aelodau presennol wneud cais am dymor arall.

05.09.05

Lansio'r Rhaglen Deithiol Trawiad

Bydd sioe deithiol o’r enw “Trawiad” sy’n dangos y niwed y gall y corff ei ddioddef yn ystod gwrthdrawiad â char arall ei lansio ar Sgwâr y Frenhines, Wrecsam ar ddydd Sadwrn 3ydd Medi am 11.30.

05.09.05

Gwefan Wrecsam yn Ennill Eto!

Mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cipio dwy wobr bwysig arall mewn cystadleuaeth gref yn erbyn sefydliadau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol am ei bod mor rhwydd i bobl ag anableddau ei defnyddio a chael mynediad ati.

02.09.05

Arddangosfa Cofio’r Ail Ryfel Byd

Bydd pen-blwydd diwedd yr Ail Ryfel Byd drigain mlynedd yn ôl yn cael ei ddathlu â chymorth arddangosfa newydd ddyfeisgar – Eu Gorffennol Eich Dyfodol – i’w harddangos yng Nghanolfan Gelf Wrecsam rhwng 10 Medi a 22 Hydref.

01.09.05

Strategaeth Datblygu Stryd Fawr Rhiwabon - Ymgynghoriad Cyhoeddus

Mae ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam wedi bod yn gweithio yn Rhiwabon i lunio
strategaeth ddatblygu ar gyfer y pentref. Byddwch wedi gweld yr
ymgynghorwyr yn cynnal eu gwaith ymchwil yn ystod yr
wythnosau diwethaf.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint