| Dyddiad |
Newyddion |
| 30.08.07 |
Cyfnod Newydd i’r Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yn Wrecsam
Mae trigolion Wrecsam yn mynd i dderbyn Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd gwell a symlach o hyn allan, a bydd staff a’r adnoddau’r tîm yn cael eu defnyddio’n llawer mwy effeithiol wedi i’r tîm symud dan un to. |
| 29.08.07 |
Dathlu yn Wrecsam wrth i safon pasio TGAU godi
Mae safonau addysg yn Wrecsam yn gwella. Mae ffigurau TGAU heddiw wedi dangos gwelliant ar ffigurau 2006 a oedd eu hunain yn sylweddol well na chanlyniadau 2005. |
| 24.08.07 |
Diweddariad Am Glwy’r Traed A’r Genau
Ganol nos 23ain Awst 2007 cafodd cyfyngiadau Clwy’r Traed a’r Genau yng Nghymru eu llacio. Nid yw hyn yn golygu bod popeth yn dychwelyd i’r arfer â’r masnachu arferol fodd bynnag. Mae gwyliadwriaeth a lefelau bioddiogelwch uchel yn parhau’n flaenoriaethau pwysig. |
| 22.08.07 |
Canlyniadau Lefel A 2007 Wrecsam
Mae myfyrwyr Wrecsam wedi ennill canlyniadau lefel A ac AS ardderchog unwaith eto. |
| 21.08.07 |
Gwyl Ddysgu Wrecsam – mwy a gwell!
Mae Gwyl Ddysgu Wrecsam yn dychwelyd am ei hail flwyddyn ac mae llwyddiant yr wyl y llynedd yn golygu ei bod yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen! |
| 17.08.07 |
Strategaeth Goed
Gofynnir am farn trigolion yn Wrecsam ynghylch sut y dylid gofalu am goed y fwrdeistref sirol. Yn awr, mae holiadur gan Adran Gwasanaethau’r Amgylchedd Cyngor Wrecsam ar gael ar wefan Wrecsam. |
| 08.08.07 |
Enillwyr Cystadleuaeth Tafarndai Wrecsam yn ei Blodau
Tafarn y Red Withers ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth frwd i ennill tlws yr “Arddangosfa Flodau Gorau” i dafarndai yng nghystadleuaeth Wrecsam yn ei blodau. |
| 15.08.07 |
Clwy’r Traed a’r Genau
Gan ei bod yn ymddangos fel petai’r clwy’ wedi ei gyfyngu yn yr ardaloedd diogelu a gwyliadwriaeth yn Surrey, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lliniaru ychydig eto ar y rheolau sy’n gymwys o fewn yr ardaloedd a gyfyngir. |
| 02.08.07 |
Hwylddydd ym Masn Trefor - Ddydd Sadwrn 4 Awst
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y llynedd, bydd yr Hwylddydd i Deuluoedd yn dychwelyd i Fasn Trefor a Dyfrbont Pontcysyllte ddydd Sadwrn 4 Awst. |
| 01.08.07 |
Dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng nghanol tref Wrecsam
Bydd Wrecsam yn dathlu’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol trwy gynnal digwyddiad ar Sgwâr y Frenhines o 11.00am ymlaen ar 1 Awst. |
| 01.08.07 |
Taith gerdded weundirol newydd i Graig y Forwyn i gerddwyr profiadol!
Mae pobl wedi bod yn gofyn i Gyngor Wrecsam am daith gerdded hunan dywysedig hirach ers tro. Mae’r tîm Hawliau Tramwy yn falch o gael lansio taith gerdded hirbell sy’n cynnwys mynydd, rhostir a mwynglawdd. Dylai pob cerddwr hirbell fod yn fodlon â’r daith gerdded hon. Nid yn unig yw’r daith yn hir, mae’n uchel hefyd gan ddringo i 565 metr (1853 troedfedd). |
| 01.08.07 |
Wrecsam yn ennill Gwobr Meysydd Chwarae Cymru
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw enillydd Gwobr Diogelu Meysydd Chwarae Cymru yn 2006 sy’n cael ei noddi gan y Post Brenhinol. |
| 31.07.07 |
Gwaith yn dechrau ar adeiladu’r sinema newydd
Bydd gwaith i godi fframwaith dur ychwanegol i’r adeilad yn Nôl yr Eryrod yn dechrau, yn dilyn y cyhoeddiad mai Odeon Cinema yw’r busnes diweddaraf i ymuno â’r datblygiad. |
| 30.07.07 |
Lansio’r Cynllun Plentyn Diogel yn Wrecsam
Mae cynllun newydd sy’n ceisio helpu plant sy’n cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni wrth siopa, yn cael ei lansio yn Wrecsam y mis hwn. |
| 25.07.07 |
Cynnal Cystadleuaeth Cwpan y Byd Mini
Yn ystod gwyliau haf yr ysgol bydd dros 200 o bobl ifanc o Fwrdeistref Sirol Wrecsam yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth bêl-droed. Noddir y twrnamaint gan HSBC a PACT ac mae’n cael ei drefnu gan Dîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Wrecsam a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. |
| 24.07.07 |
4ydd Seremoni Gwobrau Aur Prifysgol y Plant, dydd Mercher 18fed Gorffennaf am 1pm yn Neuadd William Aston, NEWI
Bu 2007 yn flwyddyn arbennig i Brifysgol y Plant Wrecsam gyda’r nifer mwyaf yn ennill gwobrau. Bydd pob myfyriwr sy’n derbyn gwobr heddiw yn derbyn y wobr uchaf sydd ar gael ym Mhrifysgol y Plant, Coleg y Plant a Gwobr Aur Prifysgol y Plant a Diploma Uwch, Prifysgol yr Ieuenctid. |
| 18.07.07 |
Dathliadau Pen-blwydd Ty Mawr yn 21ain
Bydd un o hoff barciau gwledig Wrecsam yn dathlu ei ben-blwydd yn 21ain ar 25ain Gorffennaf a gwahoddir pawb i helpu’r ceidwaid i ddathlu. |
| 13.07.07 |
Swyddogion Gorfodi’n gwneud gwaith cudd
Mae’r ymgyrch ddiweddar i leihau’r achosion o adael baw cwn wedi darganfod bod ymddygiad anghyfrifol yn parhau yn un o barciau taclusaf Wrecsam. Mae Parc Gwledig Dyfroedd Alun, sy’n gobeithio ennill statws y Faner Werdd unwaith eto eleni, wedi’i dargedu gan swyddogion o Dîm Gorfodaeth Amgylcheddol y Cyngor. |
| 13.07.07 |
‘Pontio’r Blynyddoedd’ yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Bydd Amgueddfa Wrecsam yn arddangos ‘Pontio’r Blynyddoedd’ sef arddangosfa treftadaeth gymunedol sydd wedi ei chreu gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Sant Dunawd a thrigolion Bangor Is-coed. |
| 12.07.07 |
Cae ffyrdd oherwydd achos brys – Datblygiad Dôl yr Eryrod
Bydd angen codi craen symudol sy’n pwyso 500 tunnell ar ffordd ogleddol Ffordd Smithfield (tuag at Gilgant San Siôr) er mwyn galluogi gwaith trwsio brys i gael ei wneud ar un o’r craeniau twr ar ddatblygiad Dôl yr Eryrod. |
| 11.07.07 |
Cyfleusterau Newydd yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown
Mae pobl ifanc yn ardal Johnstown yn mynd i fanteisio ar gyfleusterau newydd a gwell yng nghanolfan gymunedol yr ardal. Cafodd y ganolfan ei hagor yn swyddogol gan Mark Hughes, OBE, Rheolwr tîm pêl-droed Blackburn Rovers a chyn chwaraewr Manchester United a seren Cymru ac ymunwyd ag ef yn yr agoriad gan ddisgyblion ysgol fabanod ac iau Johnstown. |
| 10.07.07 |
Fforwm Lesddalwyr
Gwahoddir preswylwyr yn Wrecsam sydd wedi prynu eu fflat gan Gyngor Wrecsam gyda’r cynllun Hawl i Brynu i fynychu cyfarfod a gynhelir nos Fawrth (10.07.07) am 6.30 pm yn yr Adran Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. |
| 04.07.07 |
6 Wythnos o Gadw’n Heini dros yr Haf
Mynediad o 30 diwrnod i ystafelloedd ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd, sawna a phyllau nofio a llawer mwy yn holl gyfleusterau chwaraeon a hamdden Wrecsam am £20. |
| 04.07.07 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus ynghylch Safle Treftadaeth y Byd Arfaethedig Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte
Gofynnir i’r cyhoedd gyflwyno sylwadau ynghylch enwebu Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte fel Safle Treftadaeth y Byd. |