skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Gorffennaf 2006 - Awst 2006

Dyddiad Newyddion
24.08.06

Canlyniadau ardderchog i famau oedran Ysgol

Mae Cyfle yn falch iawn o gyhoeddi bod pob un o’n disgyblion a safodd arholiadau wedi llwyddo i gael o leiaf 5 TGAU yr un. Llwyddodd un o’n disgyblion (Allanah Wright o Queen’s Park) ennill 8 TGAU ac roedd 3 ohonynt yn raddau C.

24.08.06

Wrecsam yn Dathlu Wrth I Gyfraddau Pasio Arholiadau Gynyddu

Mae ffigyrau arholiadau TGAU a ryddhawyd heddiw yn dangos bod cynnydd wedi bod yn safonau addysgol Wrecsam. Mae’r ffigyrau heddiw yn dangos mai’r rhain yw’r ffigyrau gorau erioed i Wrecsam – testament i waith caled a phenderfyniad disgyblion ac athrawon.

22.08.06

Gêm Derfynol Twrnamaint Cwpan Mini’r Byd

Daw twrnamaint sydd wedi dod â mwy na 200 o bobl ifanc y sir at ei gilydd ers mis Gorffennaf i ben ar 26 Awst pan gynhelir gêm derfynol Twrnamaint Cwpan Mini’r Byd yn y Cae Ras ar Ffordd yr Wyddgrug.

22.08.06

Gwobr y Faner Werdd i Ty Mawr a Pharc Gwledig Dyfroedd Alun

Mae Adran yr Amgylchedd, Parciau, Parciau Gwledig a Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi derbyn tair gwobr baner werdd eleni.  Roedd y gwobrau ar gyfer Y Parciau, Tŷ Mawr (a dderbyniodd wobrau y llynedd hefyd) a Pharc Gwledig Dyfroedd Alun a dderbyniodd wobr eleni.

17.08.06

Canlyniadau Rhagorol i Fyfyrwyr y Chweched Dosbarth

Heddiw mae myfyrwyr yn Wrecsam wedi cael canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Lefel A ac AS.

10.08.06

Cynnig i Bobl Ifanc Deithio ar Fysiau am Hanner Pris

Gwahoddir pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i Orsaf Fysiau Wrecsam ddydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Awst rhwng 10am a 2pm i ddarganfod mwy am y cynllun arloesol a fydd yn eu galluogi i deithio ar fysiau lleol am hanner pris.

31.07.06

Lansio Gweithred Gingerbread yn Wrecsam

Wrth i'r gwyliau ysgol ddechrau, mae menter newydd yn cael ei lansio yn Wrecsam i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol i adeiladau ysgolion. Bydd "Gweithred Gingerbread" yn cynnwys swyddogion cefnogaeth gymunedol yr heddlu mewn cerbydau’n patrolio ysgolion gyda’r nos. Cyflogwyd gwasanaeth diogeledd hefyd i batrolion ysgolion yr ardal.

28.07.06

Llai o Siarad a Mwy o Gerdded!

Ydych chi’n teimlo fel pe na bai gennych amser i gadw’n heini?  Beth am gymryd mantais o’r tywydd da a mynd am dro cyflym amser cinio? Os nad ydych am gerdded ar eich pen eich hun, dewch i un o’n grwpiau cerdded yng nghanol y dref bob amser cinio am 12.30pm  yn ystod yr wyythnos sy’n dechrau ar 31 Gorffennaf. Bydd unrhyw un sy’n dod ar daith yn ystod yr wythnos hon yn cael eu rhoi mewn lotri i ennill 1 o 20 o bedofesurwyr!

20.07.06

Cyflyru eich Corff ar gyfer yr Haf

Rhowch gynnig ar y cynnig gwych hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n para 6 wythnos. Mynediad at yr ystafelloedd ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd, sawna a phyllau nofio ym mhob un o’r cyfleusterau chwaraeon a hamdden ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam am 30 diwrnod am £20 yn unig!

18.07.06

Twrnamaint Cwpan y Byd 5 bob ochr yn dechrau yn Wrecsam

Os oeddech yn meddwl bod twrnamaint pêl-droed Cwpan y Byd wedi hen orffen cewch eich synnu’r wythnos hon wrth i gyffro’r gêm ail-ddechrau yn Wrecsam mewn twrnamaint Cwpan y Byd 5 bob ochr a ddechreuodd ddoe yng Nghanolfan Chwaraeon Rhosnesni, Lôn Rhosnesni, Wrecsam.

18.07.06

Gweithiwr Cymdeithasol o Wrecsam yn cael ei alw’n ‘Rhagorol’ yn swyddogol

Mae Gweithiwr Cymdeithasol o Wrecsam wedi ennill Gwobr Gwaith Cymdeithasol cenedlaethol am “greu hanes a bod yn weithiwr cymdeithasol rhagorol”.

17.07.06

Anabledd – Mae’n amser gwneud gwahaniaeth

Cynhelir digwyddiad anabledd sef “Anabledd - mae’n amser gwneud gwahaniaeth” ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf ar Sgwâr y Frenhines yng nghanol tref Wrecsam rhwng 11.00am a 3.00pm.

04.07.06

Agor Ysgol Penygelli, Coedpoeth yn Swyddogol

Bydd Maer Wrecsam, y Cynghorydd George James, yn agor yr ysgol cyfrwng Saesneg newydd yng Nghoedpoeth am 9.30 am ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf 2006. Fe’ch gwahoddir i anfon gohebwyr/camerâu/ffotograffwyr i’r achlysur.

03.07.06

Costau rheoli plâu yn codi

Mae Cyngor Wrecsam yn cynghori trigolion y bydd ei gostau rheoli plâu a chostau’r gwasanaeth wardeiniaid cwn yn codi o 1af Gorffennaf ymlaen. Mae’r codiad yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth a’r angen i wneud gwelliannau effeithlonrwydd yn ystod 2006.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint