skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cygnor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Gorffennaf 2005 - Awst 2005

Dyddiad Newyddion
25.08.05

Canlyniadau TGAU 2005

Bydd bron i 1400 o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn Wrecsam yn derbyn canlyniadau eu harholiadau heddiw.

19.08.05

Myfyrwyr Chweched Dosbarth yn Disgleirio

Mae myfyrwyr yn ysgolion Wrecsam wedi derbyn canlyniadau Lefel A ac AS ardderchog. Er nad yw’r holl ganlyniadau wedi eu dadansoddi eto, dengys yr awgrymiadau cynnar bod y raddfa basio yn gyffredinol yn 96.8% sef cynnydd o 1.4% ar raddfa basio gyffredinol 2004 ac sy’n uwch na’r raddfa basio genedlaethol o 96.8% yng Nghymru a 96.2% yn y DU.

17.08.05

Gwelliannau Amgylcheddol yng Nglan yr Afon / Stryt y Bont

Bydd Cyngor Wrecsam yn ymgymryd â gwaith ail-wynebu yng Nglan yr Afon a Stryt y Bont yn Wrecsam o 26ain Awst fel rhan o’r cynllun gwelliant amgylcheddol.

11.08.05

Edrychwch beth ddaeth allan i weld yr haul!

Mae’r Adran Diogelu’r Cyhoedd yn Wrecsam yn gweithio’n galed bob haf i geisio cyfyngu ar y nifer o heintiau a phlâu all fod yn boendod ar yr adegau gorau, ac yn yr achosion gwaethaf beryglu iechyd.

11.08.05

Anrhydeddu’r Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Wrecsam yn wen o glust i glust heddiw ar ôl ennill un o’r anrhydeddau cyntaf erioed i Gyngor Gofal Cymru ei ddyfarnu am wella eu cyfraddau recriwtio a chadw staff er mwyn sicrhau gofal cyson.

09.08.05

Llwncdestun i Thomas Telford

Cynhelir un o uchafbwyntiau’r dathliadau ar gyfer deucanmlwyddiant Traphont Ddwr Pontcysyllte’r mis hwn pan fydd gorymdaith o gerbydau a cheffylau’n cynnig llwncdestun i lwyddiannau Thomas Telford.

01.08.05

Gwobr y Faner Werdd i’r Parciau a Thy Mawr

Roedd y baneri’n chwifio yn Adran yr Amgylchedd, Cyngor Wrecsam wrth iddi dderbyn nid un ond dwy Faner Werdd gan yr Ymddiriedolaeth Ddinesig!

01.08.05

Mae Trwyddedau’r Sir Bron â Dirwyn i Ben!

Mae Adran Drwyddedu CyngorWrecsam yn gwneud apêl brys ar yr unigolion hynny sy’n ddalwyr trwyddedau yn y fwrdeistref sirol wneud cais am drwydded alcohol newydd os ydynt yn bwriadu gwerthu alcohol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

28.07.05

Agor Canolfan Addysg Amgylcheddol Dyfroedd Alun yn Swyddogol

Agorwyd Canolfan Addysg Amgylcheddol Dyfroedd Alun yn swyddogol gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Mike Edwards. Cynlluniwyd yr adeilad drwy ddefnyddio’r dulliau mwyaf cyfoes a chynaliadwy sydd ar gael er mwyn peidio ag effeithio gormod ar yr amgylchedd.

28.07.05

Nod Siarter ar gyfer y Gwasanaeth Mynwentydd ac Amlosgfa

Roedd staff o Wasanaeth Mynwentydd ac Amlosgfa Wrecsam yn wen o glust i glust pan glywsant eu bod wedi derbyn y Nod Siarter gan y Swyddfa Gartref. Rhoddir y Nod Siarter am ragoriaeth mewn gwasanaeth i gwsmeriaid ac mae’n unigryw o ran ei fod yn ystyried y gwasanaeth o safbwynt y cwsmeriaid.

27.07.05

Dyfrbont Pontcysyllte’n Ceisio Ymuno â Chofebau Rhestredig y Byd

Cymerwyd y camau nesaf tuag at ystyried Dyfrbont Pontcysyllte ar gyfer statws treftadaeth y byd gan UNESCO gyda phenodiad ymgynghorwyr i werthuso pwysigrwydd hanesyddol y ddyfrbont.

25.07.05

Hwyl y Rali yng Ngwaith Haearn y Bers!

Dewch i’r Rali Hen Beiriannau yng Ngwaith Haearn y Bers ddydd Sul, 7 Awst o 12 canol dydd tan 4pm.

25.07.05

Pwyllgor Archwilio’n Argymell Arolwg o Ddarpariaeth Gynradd Wrecsam

Yn ei gyfarfod diwethaf, trafododd Pwyllgor Archwilio Plant a Phobl Ifanc Cyngor Wrecsam ddarpariaeth addysg gynradd yn Wrecsam.

14.07.05

Mantell Yr Wyddgrug i’w gweld yng ngogledd ddwyrain Cymru

Bydd y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh, yn cyhoeddi heddiw bod Mantell Yr Wyddgrug, un o drysorau’r Amgueddfa Brydeinig, yn dod i ogledd ddwyrain Cymru am y tro cyntaf ers iddi gael ei darganfod, ar gyfer arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

11.07.05

Y Cyngor yn datgan mai nawr yw’r amser ar gyfer y cyswllt ffordd hanfodol

Mae aelodau o Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo ffordd a fydd yn rhoi bywyd newydd i un o ystadau diwydiannol mwyaf Ewrop.

08.07.05

Ysgolion yn dod at ei gilydd ar gyfer y 4ydd Gŵyl Tapestri Bywyd a Ffydd

Ysgolion yn dod at ei gilydd ar gyfer y 4ydd Gŵyl Tapestri Bywyd a Ffydd.

05.07.05

Gwobr Busnesau Diogelach – y Cyntaf yng Nghymru!

Mewn seremoni arbennig heddiw daeth Wrecsam y dref gyntaf i dderbyn y Wobr Busnesau Diogelach am siopa yng nghanol y dref.

04.07.05

Mae Hwyl Hurt yr Haf bron â chyrraedd!

Ydych chi'n casáu meddwl am orfod diddanu eich plant yn ystod y gwyliau haf hir? Peidiwch â phoeni, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam unwaith eto wedi llunio canllaw defnyddiol sy'n rhestru gweithgareddau plant a gynhelir yn ystod yr haf.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint