skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Mai - Mehefin 2008

Dyddiad Newyddion
26.06.08

Wrecsam yn Llwyddo i Sicrhau £5.2m ar gyfer Prosiectau mewn Ardaloedd Gwledig

Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi cyhoeddi bod Wrecsam wedi llwyddo yn ei gais am werth £5.2m o gyllid i gyflwyno 28 prosiect yn ardaloedd gwledig y Fwrdeistref Sirol.

17.06.08

Arddangosfa yn Llyfrgell Wrecsam ar Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Cynhelir arddangosfa yn Llyfrgell Wrecsam yr wythnos hon i nodi Wythnos Ffoaduriaid. Ynddi, mae’r ffotograffydd o Wrecsam, Chris Ryder, yn tanseilio sawl myth am ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac mae paneli megis Ffaith neu Ffug yn disgrifio’r prosesau a’r cyfyngiadau y mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu.

17.06.08

Arddangosfa newydd yn agor yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam

‘Gwell Angau na Chywilydd: O’r Crimea i’r Ail Ryfel Byd’. Roedd milwyr, llongwyr a chriw awyrennau Wrecsam ym merw’r frwydr bob tro yr oedd y wlad hon yn rhyfela yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

12.06.08

Llai o Werthu Alcohol i Rai Dan Oed yn Wrecsam

Mae gwerthiant alcohol i unigolion dan oed bron wedi haneru yn Wrecsam yn dilyn menter lwyddiannus i leihau gwerthiant o’r fath.

11.06.08

Cynllun Garddio a Gynorthwyir i Denantiaid

Gall tenantiaid tai Cyngor Wrecsam fod yn gymwys o gael cynnal a chadw eu gerddi yn dilyn adolygiad o’r Cynllun Garddio a Gynorthwyir a gytunwyd arno gan y Cyngor.

10.06.08

Wythnos Genedlaethol Gofalwyr 9 - 15 Mehefin

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Gofalwyr. A oeddech chi’n gwybod bod dros 14,000 o bobl yn Wrecsam yn disgrifio’u hunain fel gofalwyr?

09.06.08

Datblygu gwasanaethau gofal dyddiol – cyfle i fynegi’ch barn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i edrych ar sut i wella ei wasanaethau gofal dyddiol er budd mwy o bobl. Er ei fod yn her, rhaid adnabod dulliau newydd o weithio i sicrhau y gall gymaint o bobl ag sy’n bosibl dderbyn y math hwn o wasanaeth.

02.06.08

Pencampwriaeth Iau'r Byd - Yr Etifeddiaeth Barhaol

Mae dros 400 o blant ysgol cynradd o Wrecsam yn cymryd rhan mewn dathliad o rygbi wrth arwain at y dwrnamaint byd-eang mwyaf y flwyddyn.

30.05.08

Mae tocynnau ar gael o hyd i wylio sêr rygbi yfory

Mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer gêm agoriadol twrnament rygbi rhyngwladol dan 20 oed ddydd Gwener nesaf, Mehefin 6ed.

28.05.08

Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid ar gyfer Teithwyr Trenau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch o gyhoeddi bod sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid wedi’u gosod yng ngorsafoedd trenau Rhiwabon a’r Waun.

22.05.08

Bwydo’r Meddwl yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni

Mae Ysgol Uwchradd Rhosnesni mewn partneriaeth â Gwasanaeth Arlwyo Prydau Ysgol Wrecsam yn profi menter i gynorthwyo lefelau canolbwyntio disgyblion yn ystod cyfnod arholiadau blynyddoedd olaf yr ysgol.

16.05.08

Wyneb Newydd yng Nghyngor Wrecsam

Mae Marie LeBacq wedi dechrau yn ei swydd fel Prif Swyddog Diogelu a Chefnogi gyda Chyngor Wrecsam.

15.05.08

Darnau blasus o ddysg ar y fwydlen yng ngorllewin Wrecsam

Mae OEDOLION yn ardal gorllewin Wrecsam yn cael eu hannog i gymryd y camau cyntaf ar daith bwysig i ddysgu fel rhan o Wythnos Addysg i Oedolion (Mai 17-24 2008).

13.05.08

Pencampwr Olympaidd yn ymweld â Wrecsam

Bydd enillydd medal aur Olympaidd a Chadeirydd Pwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd a Para-olympaidd Llundain, Sebastian Coe, yn ymweld â Wrecsam ar 13eg Mai i gyfarfod a thasglu Wrecsam ar gyfer Gemau 2012 Llundain. Bydd hefyd yn cyflwyno Rhaglen Addysg Llundain 2012 sydd gerllaw.

08.05.08

Dathlu Diwrnod Ewrop yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Bydd materion Ewropeaidd ar yr agenda i ddwy o ysgolion Wrecsam sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau i nodi Diwrnod Ewrop (Dydd Gwener, 9 Mai) – union 51 mlynedd ers creu'r Undeb Ewropeaidd.

06.05.08

Arwr Pêl-droed yng Nghymru yn agor Mis Amgueddfeydd ac Orielau

Agorodd Ian Rush MBE, un o arwyr mwyaf pêl-droed Cymru, y Mis Amgueddfeydd ac Orielau mewn steil heddiw (ddydd Iau 1 Mai) gydag ymddangosiad personol yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

02.05.08

Wythnos Ymwybyddiaeth Composte

Bydd Cyngor Wrecsam yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Compost 2008 (4ydd-10fed Mai) eleni gyda nifer o weithgareddau. Gwahoddir preswylwyr i ddod i nodi’r wythnos drwy ddod i’r 5ed Gweithgaredd Hyrwyddo Compostio Gartref gan gynnwys Compost Am Ddim.

01.05.08

Rygbi Gorau'r Byd i ddod i Wrecsam

Mae twrnamaint rhyngwladol i’r rhai dan 20 oed cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru ac mae’r tocynnau nawr ar werth. Peidiwch â cholli eich cyfle i weld sêr yfory!

01.05.08

Pêl-droed rhyngwladol dan-21 yn dod yn ôl i Wrecsam - Gwobrau pêl-droed ar gael!

Bydd pêl-droed rhyngwladol yn ôl yn y Cae Ras, Wrecsam ar 15 Mai gyda gêm yn erbyn Lloegr. Enillwch docynnau AM DDIM.

Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint