| Dyddiad |
Newyddion |
| 26.06.07 |
Agoriad Swyddogol Ysgol Bryn Tabor
Agorwyd Ysgol Bryn Tabor yn swyddogol heddiw gan nodi diwedd ad-drefniant darpariaeth addysg gynradd yn yr ardal. Arweiniwyd y seremoni agoriadol gan Gynghorydd Wrecsam ar Aelod Arweiniol dros Blant a Phobl Ifanc, Arwel Jones, ac roedd yn falch o weld pa mor dda oedd y staff a’r disgyblion wedi ymgartrefu yn eu cartref newydd. |
| 25.06.07 |
Arolwg o Stoc Dai’r Cyngor
Fel rhan o’r gwaith parhaus o reoli stoc dai’r Cyngor, mae Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Wrecsam ar fin cynnal arolwg o gyflwr ei stoc dai er mwyn nodi’r rhaglenni atgyweirio a chynnal a chadw y bydd angen eu cynnal er mwyn sicrhau bod y stoc dai’n cyrraedd safonau rhesymol. |
| 15.06.07 |
Wrecsam yn rhagori ar y targed o ailgylchu 30%
Mae Cynghorwyr Wrecsam yn dathlu blwyddyn lwyddiannus iawn arall gyda'r newyddion bod cyfraddau Wrecsam wedi cynyddu deg gwaith drosodd mewn 5 mlynedd i 30%. |
| 12.06.07 |
Wrecsam yn Parhau i Gosbi am Droseddau Amgylcheddol
Mae ymgyrch hynod dechnegol Cyngor Wrecsam i roi diwedd ar dipio a gadael sbwriel yn anghyfreithlon wedi bod yn llwyddiannus mewn erlyniad. Bu’r erlyniad yn llwyddiannus yn dilyn ymgyrch gwyliadwriaeth a ddefnyddiodd camerâu teledu cylch cyfyng bychain mewn lleoliad poblogaidd lle gadewir sbwriel yn anghyfreithlon. |
| 07.06.07 |
Gwelliannau i Fyd Dwr Wrecsam
Mae Cynulliad Cymru'n buddsoddi £30,000 yng nghyfleusterau newydd Canolfan Hamdden a Gweithgareddau'r Byd Dwr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. |
| 06.06.07 |
Diwrnod Gweithredu Amgylcheddol ym Mhlas Madoc
Mae'r frwydr i lanhau cymdogaethau Wrecsam yn parhau heddiw (6ed Mehefin) wrth i Ddiwrnod Gweithredu Amgylcheddol gael ei gynnal ym Mhlas Madoc. |
| 01.06.07 |
Cyfle i drafod materion addysg yn Wrecsam
Bydd rhieni ac athrawon o ardal Wrecsam yn cael cynnig cipolwg manwl ar sut y gall arolygu helpu i wella safonau addysg a hyfforddiant. Mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn cynnal cyfarfod yng Ngwesty Best Western Rossett Hall, Wrecsam, nos Fawrth 12 Mehefin. |
| 01.06.07 |
Cerrig Milltir Mawr i Brosiect Genesis
Mae Genesis Cymru Wales (Wrecsam), a ariennir gan gronfa ESF ac sy’n cefnogi rhieni i fynd ar gyrsiau hyfforddiant a dod o hyd i waith, wedi cyrraedd dwy garreg filltir bwysig y mis hwn. |
| 31.05.07 |
Cymunedau i gael budd o Blismyn Cefnogaeth Gymunedol
Mae cymunedau Wrecsam yn mynd i fanteisio o strydoedd glanach o heddiw ymlaen yn dilyn llofnodi protocol newydd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam. |
| 25.05.07 |
Artist yn dychwelyd i Barc Ponciau Banks
Mae'r cerfiwr cerrig Anthony Lysycia wedi dychwelyd i Barc Ponciau Banks ar gyfer cyfnod terfynol Prosiect Artist Preswyl y parc. Bydd yn creu cerfiadau cerrig mawr i ddathlu treftadaeth cyfoethog Rhosllannerchrugog a Phonciau. |
| 24.05.07 |
Ffliw Adar
Yn dilyn cadarnhad o’r Ffliw Adarol yng Nghonwy, hoffai Cyngor Wrecsam hysbysu trigolion ei fod mewn cysylltiad agos â Chonwy a’i fod yn cadw llygad ar ddatblygiadau. |
| 22.05.07 |
Gweithgareddau hanesyddol ar gyfer plant yn eich amgueddfeydd lleol.
Sefydlodd y Prydeinwyr eu trefedigaeth gyntaf yng ngogledd America yn 1607. Gall plant ddathlu'r Americanwyr Brodorol a oroesodd yn ein gweithgaredd Polion Totem a Bwyelli yng Nghanolfan Dreftadaeth y Bers. |
| 17.05.07 |
Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn dyfarnu £504,000 i adfywio Parc y Ponciau
Mae Parc y Ponciau, yr unig safle cyhoeddus mawr ym Mhonciau a Rhosllannerchrugog, wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer adfer y parc i’w hen ysblander yng nghyfnod y 1950au. Honno yw'r ddegawd sy'n atgoffa pobl o'r parc yn gyflawn a llawn bywyd. |
| 16.05.07 |
‘I DecIDe my IDentity’ – Agor arddangosfa dros dro newydd yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae arddangosfa newydd yn agor yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ddydd Iau 17 Mai o’r enw ‘I DecIDe my IDentity’. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith pobl ifanc lleol yn archwilio thema hunaniaeth a beth mae hyn yn ei olygu iddynt. |
| 14.05.07 |
Tîm Maethu Wrecsam yn ymuno ag ymgyrch genedlaethol
Mae angen 20 o ofalwyr maeth newydd ar frys yn ardal Wrecsam yn ôl ffigurau Gwasanaeth Maethu Plant a Phobl Ifanc Wrecsam. |
| 11.05.07 |
Shopmobility yn parhau i ddatblygu
Llwyddodd cynllun Shopmobility llwyddiannus yng nghanol tref Wrecsam i dorri ei record ei hun o ran y nifer a ddefnyddiodd y gwasanaeth y llynedd. Am y tro cyntaf erioed roedd y nifer yn uwch na 6000. |
| 09.05.07 |
Gwyl Werin - 11-13 Mai 2007 - Llwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines, Wrecsam
Daw’r Ŵyl Werin â blas o fywyd yr Almaen i Lwyn Isaf a Sgwâr y Frenhines, Wrecsam yn ystod y penwythnos 11-13 Mai. Gall ymwelwyr siopa yn y farchnad nwyddau cyfandirol a lleol, celf a chrefft cyn mynd i wylio’r adloniant yn y prif wersyll gwrw sydd â llwyfan a seddi i 600 o bobl. |
| 09.05.07 |
Cyngor Wrecsam yn arwyddo contract gwastraff MCP
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Waste Recycling Group wedi arwyddo contract gwastraff newydd sy'n anelu at leihau dibyniaeth ar safleoedd tirlenwi ymhellach a rhoi hwb i gyfraddau ailgylchu. |
| 04.05.07 |
Relay for Life Cymerwch ran yn yr hwyl!!
Mae Relay for Life yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir dros nos mewn cymunedau ledled y byd ac eleni, am y tro cyntaf, mae'n digwydd yn Wrecsam a dyma'r unig ddigwyddiad o'i fath a gynhelir yng ngogledd Cymru! Bydd y digwyddiad yn dechrau am 2pm ar 7 Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Que. |
| 04.05.07 |
Tocynnau Cymru Ar Werth Nawr (ENILLWCH GRYSAU WEDI EU LLOFNODI)!
Gwnewch yn siŵr y cewch eich tocyn i weld gêm ryngwladol Cymru yn erbyn Seland Newydd ar 26 Mai gan fod y Cae Ras yn disgwyl llond cae o dorf! |