skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cygnor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Mai 2006 - Mehefin 2006

Dyddiad Newyddion
28.06.06

Ymgeisio i’r Gronfa Deddfau Eglwysi Cymru

Fis Medi diwethaf, rhoddodd y Cyngor grantiau gwerth £8,541 o gronfa’r Deddfau Eglwysi Cymru. Rhoddwyd y grantiau hyn i 22 o gyrff a oedd yn chwilio am gymorth i dalu am gyfarpar neu brosiectau penodol, megis gwaith adnewyddu.

20.06.06

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi cadarnhau heddiw y bydd yn cynnig cyllid trwy fenthyciad byrdymor i gefnogi’r consortiwm sy’n cael ei arwain gan Mr Neville Dickens a Mr Geoff Moss, i danategu eu cynnig i brynu’r clwb a’r stadiwm a’i symud allan o ddwylo’r gweinyddwyr.

16.06.06

Prif Weithredwraig yn rhoi addewid i Un Wrecsam

Heddiw, daeth Prif Weithredwraig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Isobel Garner, yr unigolyn cyntaf i lofnodi Un Wrecsam – siarter swyddogol o berthyn a luniwyd i hyrwyddo heddwch a chytgord o fewn ein cymunedau.

14.06.06

Uned Cyfle i famau oedran ysgol yn derbyn marciau llawn mewn arolygiad

Yn ddiweddar, arolygwyd Cyfle Wrecsam (uned addysgol a ariennir gan yr AALl ar gyfer merched ysgol beichiog neu famau oedran ysgol) dan fframwaith newydd ESTYN.

08.06.06

Cyngerdd Canoloesol i nodi Pumcanmlwyddiant Twr San Silyn

Gyda chystadleuaeth Cwpan y Byd ond ychydig ddyddiau i ffwrdd, mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhybuddio dathlwyr i fwynhau’r pêl-droed ond i beidio ag yfed gormod o gwrw!

08.06.06

Ymgyrch Goryfed Achlysurol

Gyda chystadleuaeth Cwpan y Byd ond ychydig ddyddiau i ffwrdd, mae Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhybuddio dathlwyr i fwynhau'r pêl-droed ond i beidio ag yfed gormod o gwrw!

08.06.06

Adnodd newydd i athrawon CA 3 a 4

Mae canolfan adnoddau newydd i athrawon wedi agor yn Wrecsam gyda’r nod penodol o ddarparu deunyddiau sgiliau sylfaenol i athrawon i’w helpu i godi safonau addysgol ymhlith myfyrwyr TGAU.

08.06.06

Cynllun Gwarchod y Parciau'n dod i Wrecsam

Bydd cynllun newydd Gwarchod y Parciau, sydd â’r nod o fynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharciau Wrecsam, yn cael ei gyflwyno yn Y Parciau a Pharc Gwledig Dyfroedd Alun.

07.06.06

Efallai ein bod wedi cael gwanwyn gwlyb, ond peidiwch â chredu bod eich ty yn llaith!

Cynghorir y cyhoedd i fod yn wyliadwrus os oes contractwyr diogelu rhag lleithder yn cysylltu â nhw i gynnig cynnal arolygon am ddim.

06.06.06

Staff yr Is-adran Cyllid i Fyfyrwyr yn paratoi am haf prysur

Wrth i dymor yr haf ddechrau a meddyliau nifer o bobl droi at arholiadau ac yna’r gwyliau haf, mae Is-adran Cyllid i Fyfyrwyr Cyngor Wrecsam yn paratoi am ychydig fisoedd prysur iawn.

05.06.06

INFO i Bobl Ifanc - Diwrnod Agored - 6ed Mehefin

Mae INFO i Bobl Ifanc, canolfan gynghori ar gyfer pobl ifanc yn Wrecsam, yn dathlu ei wythfed blwyddyn yng nghanol y dref ar 6ed Mehefin trwy gynnal diwrnod agored.

02.06.06

Trafferthion â throlïau i Gyngor Wrecsam

Mae trolïau archfarchnadoedd sy’n cael eu gadael yn creu problemau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei ymdrech i gadw ein strydoedd a’n dyfrffyrdd yn glir.

02.06.06

Helfa’r Afon – Digwyddiad Ymwybyddiaeth Bioamrywiaeth

Mae digwyddiad cyffrous a diddorol yn cael ei gynnal ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ar 10fed Mehefin pan wahoddir pawb i ymweld â Helfa’r Afon a drefnir gan Grwp Bioamrywiaeth Wrecsam.

01.06.06

Peidiwch â chael eich cosbi yn ystod Cwpan y Byd

Lansiwyd ymgyrch newydd heddiw (dydd Iau 1 Mehefin ) i “ddangos cerdyn coch i droseddau treisgar” yn ystod cystadleuaeth Cwpan y Byd y mis hwn.

31.05.06

Marchnad Ffrengig yn dychwelyd i Sgwâr y Frenhines

Bydd y Farchnad Ffrengig yn ymweld â Wrecsam unwaith eto wrth iddi ddychwelyd i Sgwâr y Frenhines ddydd Gwener 9fed Mehefin a dydd Sadwrn 10fed Mehefin.

31.05.06

Ysgol Maes y Llan, Rhiwabon. – Ysgol dda â nodweddion rhagorol

Barnwyd bod ysgol Maes y Llan yn Rhiwabon yn “ysgol dda â nodweddion rhagorol” gan arolygwyr Estyn a aeth i ymweld â’r ysgol yn ddiweddar.

30.05.06

Cyfle i fynd yn agos at ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus

Bydd Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn cynnal dathliad arbennig ddydd Sul 4ydd Mehefin pan fydd adar ysglyfaethus ac ymlusgiaid o Warchodfa Ymlusgiaid ac Adar Ysglyfaethus Gogledd Cymru (NWRR) yn ymweld â’r parc.

26.05.06

Dewiniaid gwefan Wrecsam yn llwyddo eto!

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnig llwncdestun i dîm y we unwaith eto wedi i’w gwefan gael ei henwi'r wefan orau gan awdurdod lleol yng Nghymru am y 5ed tro yn olynol!

26.05.06

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Bronington

Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru, Bronington wedi cael llwyddiant mawr mewn dau arolygiad ysgol!

25.05.06

Grantiau Loteri i Gyrff Cymunedol Wrecsam

Bydd cyrff cymunedol yn Wrecsam yn cael mwy na £6750 diolch i’r rownd ddiweddaraf o grantiau’r Loteri Genedlaethol gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.

24.05.06

‘Brwydr y Bandiau - Y 7 Mawreddog’

Yn dilyn llwyddiant ‘Brwydr y Bandiau 6’ ym mis Ebrill pan ddaeth 250 o bobl ifanc i fwynhau gwylio’r band ifanc lleol Endeavour yn brwydro yn erbyn tri band arall i ennill y rhagbrawf, mae ‘Brwydr y Bandiau – Y 7 Mawreddog’ yn dychwelyd i Central Station ddydd Iau 1af Mehefin.

23.05.06

Diwrnod Hwyl i Ddathlu Agweddau o Fywyd Wrecsam

Mae diwrnod hwyl yn cael ei drefnu i adlewyrchu’r ystod eang o weithgareddau a chyrff sy’n helpu i greu cymuned Wrecsam fel rhan o’r fenter Siarter Un Wrecsam.

22.05.06

Cyfaill Gorau neu Gymydog Swnllyd?

Caiff y problemau a achosir gan gŵn sy’n cyfarth yn ein cymdogaethau eu hamlygu gan Gyngor Wrecsam ddydd Llun fel rhan o Wythnos Gweithredu Sŵn 2006 (22 – 26 Mai).

19.05.06

Cyngor Wrecsam i ddefnyddio TCC i Daclo Tipio Anghyfreithlon

Mae Cyngor Wrecsam wedi datgelu ei arf ddiweddaraf yn ei frwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon. Bydd unedau TCC yn cael eu defnyddio ledled y fwrdeistref sirol wrth i swyddogion ddod i adnabod y mannau lle mae sbwriel yn cael ei dipio.

18.05.06

Adnodd Ar-Lein Newydd i Lyfrgelloedd Wrecsam

Mae llyfrgelloedd Wrecsam yn ymuno â llyfrgelloedd eraill ledled Cymru i ddathlu lansiad gwefan wybodaeth newydd.

17.05.06

Diogelwyd i’r Dyfodol – Casgliad Bob Gray o Hynodion

Ni welwyd erioed gymaint o bethau’n cael eu dangos mewn lle mor fach - dyna un ffordd o ddisgrifio arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Wrecsam! Mae’r arddangosfa newydd yn cynnwys casgliad Mr Bob Gray, gwr busnes lleol adnabyddus, cyfaill i Amgueddfa Wrecsam a gwr sydd wedi bod yn casglu pethau cofiadwy trwy gydol ei oes.

16.05.06

Arddangosfa o Gelf Pobl Ifanc

Caiff celf a grëwyd gan bobl ifanc sydd wedi’u heithrio o ddarpariaeth brif ffrwd arferol oherwydd problemau digartrefedd neu gamddefnyddio sylweddau, ei harddangos yn gyhoeddus o 26ain Mai yng Nghanolfan Pobl Ifanc Fictoria yn Wrecsam.

15.05.06

Datganiad yn ymwneud â safle lagwn tar asid Llwyneinion

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam roi eglurhad am wybodaeth anghywir sy’n cylchredeg ynghylch safle lagwn tar asid Llwyneinion.

11.05.06

Hafod y Wern a Gwenfro - Ysgolion Babanod ac Iau

Mae aelodau’r Bwrdd Gweithredol wedi rhoi caniatâd i ddechrau cyhoeddi Cynigion Statudol yn ymwneud â chynigion i gyfuno ysgolion Hafod y Wern ac ysgolion Gwenfro.

10.05.06

Wythnos Gerdded Wrecsam 14 – 21 Mai 2006 - Hwyl a ffitrwydd ar drothwy’r drws

Wrth i’r haul ddechrau tywynnu mae trefnwyr y cynllun Cerdded Llwybr Iechyd lleol yn annog pobl i gymryd rhan yn Wythnos Gerdded Wrecsam.

10.05.06

Safle Dôl yr Eryrod wedi’i roi yn nwylo’r datblygwyr

Trosglwyddwyd safle Dôl yr Eryrod i’r datblygwyr Wilson Bowden Developments yn ffurfiol ddechrau’r mis hwn.

09.05.06

Carcharor rhyfel yn coffau trychineb glofaol trwy greu cerflun glo

Yn ddiweddar, cyflwynwyd cerflun glo i Faer Wrecsam i goffau trychineb Glofa Gresffordd, lle collodd 266 o ddynion eu bywydau.

09.05.06

Cosbau llym am ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth iddo fanteisio ar bwerau newydd sydd wedi dod i rym dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.

05.05.06

Injan Dân yn Brif Wobr yn Raffl y Maer

Mae Maer Wrecsam, y Cynghorydd Mike Edwards, yn cynnal raffl i roi hwb i’w gronfa elusennol ac yn ddiweddar bu’n casglu’r brif wobr ar gyfer ei raffl o siop degannau Childhood Days ar Stryt Siarl yn Wrecsam.

05.05.06

Wythnos Addysg Oedolion 2006

Unwaith eto, bydd Wrecsam yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau fel rhan o wyl ddysgu fwyaf y DU.

05.05.06

Wythnos Ymwybyddiaeth Compost

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam longyfarch yr holl breswylwyr sy’n defnyddio bin compost cartref ac sy’n rhoi gwastraff gerddi yn eu biniau gwyrdd fel rhan o gynllun Ailgylchu gyda Michael.

04.05.06

Arolygwyr yn canmol ysgol am ei nodweddion rhagorol

Ysgol Alexandra…. ‘Cymuned hapus a threfnus lle mae dysgu’n ffynnu’. Adroddiad yr Arolygwyr Ebrill 2006

03.05.06

Cyfraniad gan y Loteri Fawr yn helpu pobl ifanc Wrecsam

Bydd Prosiect Gwaith Ieuenctid mewn ysbyty yn derbyn grant enfawr o £977,333 gan y Gronfa Loteri Fawr.

02.05.06

Ysgol Coedpoeth yn agor ar amser ac o fewn y gyllideb osodedig

Agorodd ysgol newydd sbon ei drysau i ddisgyblion heddiw yn dilyn buddsoddiad sy’n werth miliynau o bunnau gan yr Awdurdod Lleol a Chynulliad Cymru trwy’r grant gwella adeiladau ysgolion.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint