| Dyddiad |
Newyddion |
| 22.06.05 |
Cyngerdd Live 8, rhybudd cynnar ynghylch cau meysydd parcio a ffyrdd
Bydd y cyngerdd Live 8 a ddangosir ar Sgwâr y Frenhines ar 2il Gorffennaf yn amharu ychydig ar feysydd parcio canol y dref. |
| 22.06.05 |
Wythnos Clytiau Go Iawn
Nappuccino mwyaf erioed Wrecsam!
Dydd Mercher, 22 Mehefin 2005 10am – 4pm. Neuadd Goffa, Bodhyfryd, Wrecsam
|
| 21.06.05 |
Gwahodd Ceisiadau am y Gronfa Deddfau Eglwysi Cymru
Fis Medi diwethaf, rhoddodd Cyngor Wrecsam cyfanswm o £8,155 mewn grantiau o’r Gronfa Deddfau Eglwysi Cymru. Rhoddwyd y grantiau hyn i 21 sefydliad i dalu am gyfarpar neu brosiectau penodol megis gwaith adnewyddu. |
| 20.06.05 |
Amrywiaeth yn y Sgwâr - Wythnos y Ffoaduriaid yn Wrecsam
Cynhelir Wythnos Ffoaduriaid Cymru yr wythnos nesaf (20 - 26ain Mehefin) a chynhelir digwyddiadau i ddathlu’r amrywiaeth gyfoethog sydd ymysg cymunedau ffoaduriaid ledled Cymru.
|
| 15.06.05 |
Cau Plas Madoc Dros Dro
Bydd Canolfan Hamdden Plas Madoc yn cau dros dro yn dilyn cyngor iechyd a diogelwch, wrth i gontractwyr ail-selio llawr y neuadd chwaraeon. |
| 08.06.05 |
Cyn safle’r bracty ar ei newydd wedd
Bydd canol tref Wrecsam yn cael budd o fuddsoddiad pellach sy’n werth £1.9 miliwn wrth i waith ar gyn safle’r bracty ar Stryt y Twtil ddod i ben. |
| 08.06.05 |
Wrecsam i ddangos Cyngerdd Live 8
Bydd cantorion byd enwog gan gynnwys Robbie Williams, Madonna, Syr Paul McCartney, Coldplay, Syr Elton John, Keane, Joss Stone ac REM yn ymddangos ar sgrin anferth ar Sgwâr y Frenhines ar 2il Gorffennaf ar ôl i’r darlledwyr gyhoeddi y bydd Wrecsam yn dangos cyngerdd Live 8 |
| 31.05.05 |
Y Maer newydd yn edrych ymlaen at flwyddyn llawn her
Y Cynghorydd Mike Edwards yw Maer newydd Wrecsam a'i wraig, Kay, fydd y Faeres dros y 12 mis nesaf. Yn ei araith i'r Cyngor Blynyddol mae'r Maer yn addo cyfnod cyffrous iawn i'r Fwrdeistref Sirol. Dethlir dau ddeucanmlwyddiant, sef Brwydr Trafalgar a chwblhad traphont ddwr Pontcysyllte gan Thomas Telford. |
| 27.05.05 |
Lansio Gwasanaeth Bws Wennol yr Ystad Ddiwydiannol
Bydd gweithwyr sy’n teithio i Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn gallu cymryd mantais o wasanaeth bws wennol newydd o ddydd Mawrth nesaf, 31ain Mai ymlaen. |
| 26.05.05 |
Y Cyngor yn cytuno ar Gyfarwyddyd Tai Fforddiadwy
Mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno ar nodyn cyfarwyddyd cynllunio newydd i helpu gyda’r broblem sirol o brinder tai fforddiadwy. |
| 24.05.05 |
Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus nesaf Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam am 1.30pm ddydd Gwener, 10 Mehefin 2005 yn Neuadd Canmlwyddiant Ceiriog, Llanarmon DC. |
| 19.05.05 |
Wrecsam yn ennill gwobr am y bedwaredd flwyddyn!
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dathlu heddiw ar ôl i'w wefan gael ei dyfarnu yn 'Wefan Llywodraeth Leol Orau Cymru' yng Nghynhadledd y Gymdeithas er Rhwydweithiau Gwybodaeth Cyhoeddus (SPIN)/SOCITM yn Loughborough. Dyma'r pedwerydd tro i dîm y we ennill y wobr mewn pum mlynedd yn dilyn arolwg blynyddol gan Gymdeithas Rheolwyr Technoleg Gwybodaeth (SOCITM)o holl wefannau llywodraethau lleol y DU.
|
| 18.05.05 |
Plant i gyflwyno neges heddwch ac ewyllys da
Arweinir Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru gan blant Cymru i blant y byd eleni gan ysgolion uwchradd Wrecsam mewn seremoni arbennig a gynhelir yn Neuadd y Dref ar 18fed Mai am 1.30pm.
|
| 13.05.05 |
Croeso Dinesig i’r Tlws LDV Vans
Bydd Maer Wrecsam yn cynnal Derbyniad Dinesig i Glwb Pêl-droed Wrecsam i ddathlu eu buddugoliaeth yn y gystadleuaeth am dlws LDV Vans. |
| 11.05.05 |
Prosiect Llwybr Cerdded Marchwiel
Mae Grwp Amgylcheddol Marchwiel (MEG) yn gysylltiedig â phrosiect newydd i wella’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn eu cymuned. |
| 06.05.05 |
Eich barn am gludiant
Mae'r Cyngor yn ceisio eich barn chi wrth baratoi i gyflwyno'r rhaglen gludiant yn y Fwrdeistref Sirol. |
| 03.05.05 |
Cynnig seremonïau enwi babanod
Bydd seremonïau enwi babanod ac adnewyddu llwon priodas yn un o ddau wasanaeth newydd a fydd ar gael gan Wasanaeth Cofrestru Wrecsam o ddydd Mawrth, 3 Mai. |