Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam unwaith eto'n trefnu man pwyso carafannau AM DDIM . Cwblheir y gwiriad ar y bont bwyso yn y Swyddfa Safonau Masnach, Ffordd Rhuthun, Wrecsam (ar yr un safle a'r Orsaf Ambiwlans) ar y dyddiad canlynol.
Mae tîm gwefan Wrecsam wedi dod i'r brig unwaith eto, gan ennill gwobr flynyddol y Gymdeithas ar gyfer Rhwydweithiau Gwybodaeth Gyhoeddus am y wefan llywodraeth leol orau yng Nghymru.