| Dyddiad |
Newyddion |
| 30.04.08 |
Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam
Cynhelir cyfarfod nesaf Fforwm Mynediad Lleol Wrecsam am 4.00 pm ddydd Iau, 8 Mai 2008 yng Nghanolfan Fenter Brymbo, Ffordd y Chwyth, Brymbo, Wrecsam, LL11 5BT. |
| 29.04.08 |
Gwasanaeth newydd ar gyfer dweud am gwn strae
Bydd Cyngor Wrecsam yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb am y gwasanaeth cwn strae oddi allan i oriau o ddydd 28 Ebrill gan gymryd lle’r gwasanaeth cwn strae oddi allan i oriau sy’n cael ei weithredu gan yr heddlu ar hyn o bryd. |
| 25.04.08 |
Mae Ysgol Fabanod y Waun yn Rhagorol ac mae Hynny'n Swyddogol
Mae pawb yn gwenu yn Ysgol Fabanod y Waun yn dilyn y newyddion ei bod wedi derbyn adroddiad Arolwg Estyn rhagorol. Arolygwyd saith agwedd a derbynion pob un Radd 1 “da gyda nodweddion rhagorol.” Barnwyd bod safon 61% yr addysgu hefyd yn radd 1sydd llawer uwch na chyfartaledd Cymru o 17%. |
| 18.04.08 |
Casgliad ar gyfer Cronfa Les Ymgyrchoedd Cyfredol y Fyddin yn Wrecsam
Roedd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Mrs Joan Lowe, yn falch o gyfarfod milwyr o 3ydd Bataliwn y Brenhinlu Cymreig er mwyn cynorthwyo i hysbysebu digwyddiad a drefnwyd gan Gronfa Les y Fyddin. |
| 17.04.08 |
Gweithredu Diwydiannol Undeb Cenedlaethol yr Athrawon 24ain Ebrill 2008
Mae gan ysgolion Wrecsam gyfle i ddod â heulwen i’w dosbarthiadau, diolch i gystadleuaeth newydd. Mae papur newydd lleol, y Wrexham Evening Leader wedi ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, SHARP a’r Bartneriaeth Carbon Isel i geisio cael ysgolion i leihau eu hôl troed carbon. |
| 16.04.08 |
Dyddiau heulog i un ysgol ffodus yn Wrecsam
Mae gan ysgolion Wrecsam gyfle i ddod â heulwen i’w dosbarthiadau, diolch i gystadleuaeth newydd. Mae papur newydd lleol, y Wrexham Evening Leader wedi ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, SHARP a’r Bartneriaeth Carbon Isel i geisio cael ysgolion i leihau eu hôl troed carbon. |
| 16.04.08 |
Wythnos Cewynnau Go Iawn 2008 (21 - 27 Ebrill)
Cewynnau go iawn - twt, iach a chysurus. Oes dewis arall? Mae mwy a mwy o rieni'n sylweddoli bod modd arbed gwastraff y teulu o'i hanner ac arbed cannoedd o bunnoedd yr un pryd trwy ddefnyddio cewynnau go iawn! |
| 08.04.08 |
Gwyl Gelfyddydau Wrecsam yn meithrin cysylltiadau â Lerpwl
Fel ei thema bydd Gwyl Gelfyddydau Wrecsam yn dathlu’r cysylltiadau rhwng gogledd Cymru a Lerpwl. Lerpwl yw Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008 a bydd ei chysylltiadau â Wrecsam yn cael eu dathlu trwy gyfrwng dramâu, cerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth a chelfyddydau gweledol. |
| 03.04.08 |
Lansio gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol fis Ebrill eleni
Bydd gwasanaeth trên uniongyrchol Wrecsam a Sir Amwythig i Lundain yn dechrau ddydd Llun 28 Ebrill, gan gynnig i deithwyr bum trên y diwrnod ym mhob cyfeiriad rhwng gorsafoedd o Wrecsam, drwy Sir Amwythig ac ymlaen i Orsaf Marylebone yn Llundain. |
| 01.04.08 |
Enillwch bâr o docynnau!
Bydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn chwarae yn Wrecsam ar 2ail Mai ar ddechrau Gŵyl Gelf Wrecsam 08 – y cyswllt â Lerpwl. Bydd y cyngerdd yn dechrau am 7.30 pm yn Neuadd William Aston NEWI, Ffordd yr Wydgrug, Wrecsam a gallwch ennill pâr o docynnau drwy ateb yn cwestiwn canlynol... |
| 31.03.08 |
Arolygiad Estyn o’r Rhwydwaith 14-19 yn Wrecsam
Mae canfyddiadau arolygiad Estyn i safon ac ansawdd y ddarpariaeth i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed yn Wrecsam wedi cael eu croesawu gan Gadeirydd y Rhwydwaith 14-19. |
| 27.03.08 |
Digwyddiad Chwarae’r Pasg yng Nghanol Tref Wrecsam
Bydd Chwarae Wrecsam yn cynnal digwyddiad chwarae’r Pasg ar Sgwâr y Frenhines o 12.00 canol dydd tan 4 pm ar 2ail Ebrill 2008. |
| 27.03.08 |
Ysgol cyfrwng Cymraeg yn cyrraedd y safon uchaf mewn arolwg
Mae disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dathlu ar ôl cyhoeddi adroddiad arolwg diweddar yr ysgol. |
| 25.03.08 |
Cyngerdd pop yn Llyfrgell Wrecsam
Ie wir, cyngerdd pop yn y llyfrgell! Bydd Llyfrgell Wrecsam yn croesawu ymweliad arbennig gan Royworld, grwp pop yr 80au, nos Sadwrn, 29 Mawrth am 8.00 o’r gloch. |
| 20.03.08 |
Fforwm Landlordiaid Wrecsam
Gwahoddir pob landlord yn y sector rhentu preifat i bwyllgor nesaf Fforwm Landlordiaid Wrecsam a gynhelir yn Theatr Nick Whitehead, NEWI ar 27ain Mawrth 2008 am 5.00 p.m. i ddechrau’n brydlon am 5.30 p.m. |
| 19.03.08 |
Pontcysyllte yn camu’n nes at gyrraedd Statws Treftadaeth y Byd
Mae Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte un cam yn nes yn ei ymgais i fod y trydydd safle a’r diweddaraf yng Nghymru i dderbyn statws Safle Treftadaeth y Byd. |
| 10.03.08 |
Milltir Bur Wrecsam - 16 Mawrth
Rhowch eich enw i wneud eich Sainsbury's Sport Relief Mile ar eich trac athletau lleol, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway. Beth am redeg Milltir Bur Wrecsam i godi arian i Sport Relief a rhoi cicdaniad i’ch trefn o gadw’n heini? |
| 07.03.08 |
Newidiadau i gasgliadau biniau dros y Pasg
Mae Cyngor Wrecsam yn cynghori trigolion y bydd casgliadau biniau’n newid dros wyliau’r Pasg ac yn annog pawb i wirio’r sticeri ar eu biniau er mwyn sicrhau nad ydynt yn methu unrhyw gasgliadau. |
| 07.03.08 |
Gwaith yn dechrau ar gyfleuster adnoddau newydd Wrecsam
Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu cyfleuster ailgylchu a chompostio o’r radd flaenaf ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. |
| 05.03.08 |
Cyllideb a Threth y Cyngor, Wrecsam 2008/09
Mae’r Cyngor wedi gosod ei gyllideb ar gyfer 2008/09. Mae’r gyllideb ychydig o dan £194 miliwn. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys ysgolion a gwasanaethau eraill i blant, gofal cymdeithasol i oedolion, tai, cludiant a chyfleusterau hamdden. |
| 05.03.08 |
Buddugoliaeth Ddwbl i Wrecsam yn y Gwobrwyo Cenedlaethol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dathlu ar ôl ennill dwy wobr yn seremoni Rhagoriaeth Cymru 2007 yng Nghaerdydd. |
| 03.03.08 |
Targed ailgylchu o 100% wedi’i gyrraedd
Mae Cyngor Wrecsam bellach wedi’i gorffen ymestyn y cynllun Ailgylchu gyda Michael i gynnwys y fwrdeistref sirol i gyd ac erbyn hyn dylai pob cartref fod â rhyw fath o gynllun ailgylchu oddi ar y pafin gan y cynllun Ailgylchu gyda Michael. |