skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cygnor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Newyddion Diweddaraf

Dyddiad Newyddion
27.04.07

‘Newid Oes, Newid Lle’

Arddangosfa newydd yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam i nodi pen-blwydd Bwrdeistref Wrecsam yn 150 oed.

25.04.07

Garddwyr yn Glasu Canol y Dref

Wrth i Wrecsam yn ei Blodau ddechrau blodeuo, mae canol y dref yn dechrau dangos gwedd newydd yn barod ar gyfer y beirniadu pwysig ym mis Gorffennaf.

23.04.07

Llyfrau am ddim i bob plentyn

Mae gan bob baban a phlentyn bach yn Wrecsam hawl i gael pecyn o lyfrau AM DDIM. Mae pob pecyn yn dod mewn bag cryf a deniadol ac yn cynnwys dau lyfr hyfryd – gan gynnwys llyfr dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg – ac awgrymiadau am rannu llyfrau gyda'ch plentyn.

23.04.07

Ffitrwydd Llai - Yn ôl yng nghanol y pentref!

Mae Clwb Lles Glowyr Llai wedi cyflogi swyddog datblygu ymarfer corff a chwaraeon a fydd yn addasu chwaraeon ac ymarfer corff yn unol ag anghenion y gymuned leol.

23.04.07

Twrnamaint Cenhedloedd Celtaidd Merched Dan 15 Oed

Twrnamaint Cenhedloedd Celtaidd Merched Dan 15 Oed Iwerddon yn cipio Cwpan Bob Docherty! Cynhaliwyd Twrnamaint Cenhedloedd Celtaidd Merched dan 15 Oed yn Wrecsam rhwng 11 a 13 Ebrill 2007.

18.04.07

Cyngor i dargedu gwerthiant alcohol i bobl ifanc dan oed

Mae pobl ifanc sy’n yfed alcohol dan oed yn cael eu targedu yn Wrecsam er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol.

17.04.07

Ysmygwyr yn cael eu rhybuddio i beidio â mynd yn erbyn deddfau sbwriel

Gofynnir i ysmygwyr yn Wrecsam wrthod y demtasiwn i ysmygu y tu allan a gollwng bonau eu sigarennau ar y stryd yn dilyn cyflwyniad y ddeddfwriaeth dim ysmygu a ddaeth i rym ar 2 Ebrill.

13.04.07

Gwefan 'Ardderchog' Wrecsam yn cael cysylltiad hyd yn oed yn well

Mae gwefan Wrecsam, wrecsam.gov.uk, wedi ennill gradd 'Ardderchog' ac fe'i canmolwyd yn adolygiad blynyddol y Gymdeithas Rheoli Technoleg Gwybodaeth (SOCITM) o holl wefannau awdurdodau lleol, sef Better Connected 2007.

11.04.07

Y Tai Fforddiadwy Cyntaf yn Wrecsam

Roedd gwraig o Wrecsam yn wen o glust i glust heddiw pan ddaeth yn berchen ar ei chartref cyntaf yn swyddogol o ganlyniad i bolisi tai fforddiadwy Cyngor Wrecsam.

30.03.07

Ymgyrch Gingerbread yn cael ei ymestyn yn ystod y tymor

Bydd ysgolion yn ardal Wrecsam yn gweld cynnydd mewn mesurau diogelwch wedi i gyllid gael ei dderbyn i ymestyn y fenter lwyddianus, Ymgyrch Gingerbread.

29.03.07

Gwybodaeth am ofal plant ar gael ar-lein

O 2 Ebrill ymlaen, bydd rhieni a gofalwyr sy’n chwilio am ofal plant yn gallu cael gwybodaeth ar-lein. Mae gan y Ganolfan Gwybodaeth am Blant gronfa ddata o’r holl wasanaethau gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd, cylchoedd chwarae, grwpiau ti a fi, clybiau y tu allan i’r ysgol a chynlluniau chwarae.

27.03.07

Gwyliau Adeg Tymor

Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn cyfrif. Mae’r plant sy’n bresennol yn yr ysgol yn gyson yn cael y canlyniadau gorau a gall cymryd gwyliau yng nghanol y tymor effeithio ar eu cyflawniadau addysgol. Gofynnir i rieni yn Wrecsam beidio â thynnu eu plant allan o’r ysgol ganol tymor er mwyn cael gwyliau ac mae Cyngor Wrecsam yn gobeithio y bydd ganddyn anogaeth i aros tan ddiwedd tymor nawr trwy weithio mewn partneriaeth â Global Travel yn Wrecsam.

27.03.07

Gwobr Dyfeisgarwch i’r Bartneriaeth Diogelwch y Ffyrdd

Mae’r sioe deithiol “Impact” yn ganlyniad i bartneriaeth agos rhwng Is-Adran Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Gwyliadwriaeth Wen Gwasanaeth Tân ac Achub Wrecsam. Mae’r sioe’n dangos y mathau o anafiadau y gall rhywun eu dioddef mewn damwain, hyd yn oed os nad yw cerbydau’n teithio’n gyflym iawn. Mae’n rhoi cyfle i’r swyddogion sy’n cyflwyno’r sioe roi cyngor am bob math o ddiogelwch yn y car.

27.03.07

Ffitrwydd Teulu

Yn chwilio am rywbeth i’w wneud gyda’r plant? Am gadw’n heini ond heb yr amser?

27.03.07

Manylion Casglu Sbwriel dros y Pasg

Wrth i wyliau’r Pasg nesáu, rydym yn atgoffa trigolion i wirio sticeri eu biniau gan y bydd y diwrnodau casglu sbwriel arferol yn newid.

26.03.07

Gweithgareddau yn eich Amgueddfeydd

Mae digonedd i’w wneud yn eich amgueddfeydd lleol yn ystod y gwyliau ysgol. Orielau, gweithgareddau a digwyddiadau arbennig i blant. Ffoniwch 01978 317 970 i warantu lle i’ch plentyn!

26.03.07

Oriau Newydd yn Rhiwabon

Sylwer o ddydd Llun, 31 Ebrill tan 31 Awst 2007, bydd oriau agor Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon yn newid.

23.03.07

Astudiaeth Rheilffyrdd Caer - Wrecsam - Amwythig

Bydd adroddiad swyddogol yn cael ei ryddhau ar 23 Mawrth 2007 sy’n ystyried gwelliannau posibl i’r rheilffordd rhwng Caer, Wrecsam ac Amwythig. Cynhyrchwyd yr adroddiad, a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, TAITH, Cyngor Sir Gaer, Cyngor Bwrdeistref Croesoswallt, Cyngor Sir Amwythig ac Arriva Trains Cymru, gan Scott Wilson Railways.

22.03.07

Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau

Gwahoddwyd Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau ysgolion cynradd Wrecsam i ddigwyddiad arbennig yn y Neuadd Goffa'r wythnos ddiwethaf i ddathlu blwyddyn lwyddianus iawn. Cyflwynodd y Maer, y Cynghorydd George James, dystysgrif i bob un o'r Swyddogion Diogelwch y Ffyrdd Iau i gydnabod eu haelodaeth â'r cynllun SDFfI. Daeth masgot y Tîm Diogelwch y Ffyrdd, sef ci defaid o'r enw Meg Meddwl, draw i roi cefnogaeth i'r bobl ifanc hefyd.

22.03.07

Wythnos Genedlaethol Rhannu'r Gofal 19 - 26 Mawrth 2007

Rhowch Ychydig o'ch Amser i Wneud Gwahaniaeth Mawr... Gall gofalu am blentyn ag anabledd neu gyflwr meddygol fod yn swydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, heb unrhyw seibiant yn aml. Golyga hyn nad oes gennych amser i chi'ch hun nac i'w roi i'ch plant eraill. Gofynnir i bobl Wrecsam ystyried rhoi 'ychydig o'u hamser i wneud gwahaniaeth mawr' i fywydau plant anabl a'u teuluoedd.

20.03.07

A oes angen cyllid arnoch ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff?

Mae'r GIST GYMUNEDOL yn gynllun gan Gyngor Chwaraeon Cymru a ariennir gan grant y Loteri Genedlaethol gyda'r bwriad o annog mwy o bobl i wneud ymarfer corff yn amlach. Y grant mwyaf a ddyfernir yw £1,000, fodd bynnag os ydych yn glwb mae gennych hawl i ddefnyddio £1,000 i ddatblygu'r clwb a gwneud cais am £1,000 arall ar gyfer mentrau ymarfer corff / iechyd yn eich clwb.

20.03.07

Theatr Diogelwch y Ffyrdd

Ymwelodd y cwmni theatr Walking Forward â disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Rhiwabon yr wythnos ddiwethaf er mwyn cyflwyno cynhyrchiad o’r enw 'The Price'iddynt, cymysgedd o gomedi afreolus a drama syfrdanol.

19.03.07

Wrecsam yn ymgeisydd yn y gystadleuaeth Cymru yn ei Blodau

Bydd tref Wrecsam yn cael ei thrawsnewid yr haf hwn wrth i gymunedau a busnesau ddod at ei gilydd i gystadlu yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau am y tro cyntaf erioed.

16.03.07

Arolygiad Estyn Llwyddiannus i Ysgol Uwchradd Rhosnesni

Parch, gonestrwydd a llwyddiant - mae arwyddair Ysgol Uwchradd Rhosnesni yn atseinio yn adroddiad arolwg Estyn ardderchog yr ysgol.

15.03.07

Peidiwch â Thorri’r Gyfraith ar 2il Ebrill

Wrth i’r dyddiad o 2 Ebrill nesáu a gwaharddiad Cymru ar ysmygu mewn mannau caeëdig a sylweddol gaeëdig yn dod i rym, mae gan Gydlynydd Dim Mwg Wrecsam, Kimberley Ozano, beth cyngor i eiddo sy’n rhydd o fwg eisoes ac sydd wedi bod felly ers rhai blynyddoedd.

13.03.07

Prifysgol y Plant – Cynhadledd Creu’r Cysylltiadau

Prifysgol y Plant Wrecsam fydd y cyntaf i gynnal Cynhadledd Ranbarthol gyntaf Prifysgol y Plant ddydd Mercher yng Ngwesty’r Ramada Plaza. Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd ag awdurdodau Cymru: Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Phowys er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cynllun.

12.03.07

Enillwch docynnau AM DDIM NAWR!

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC yn ailymweld â Neuadd William Aston Wrecsam am 7.30pm, 24 Mawrth i berfformio detholiad o gerddoriaeth cyffrous gan rai o gyfansoddwyr gorau’r byd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi cyfle i ci ennill un o 15 pâr o docynnau i’r cyngerdd gwych hwn.

08.03.07

Casgliadau dillad elusennol ac o ddrws i ddrws

Mae’r Safonau Masnach yn cynghori trigolion Wrecsam i wirio gyda’r Comisiwn Elusennau cyn rhoi dillad i’r hyn y credant sy’n elusen gofrestredig.

02.03.07

Somerfield - safle newydd Canolfan Ailgylchu Gymdogaethol

Nawr gall gartrefi yn ardal Johnstown fanteisio ar Ganolfan Ailgylchu Gymdogaethol newydd i'w helpu i ailgylchu hyd yn oed mwy o wastraff o'u cartrefi. Yn y maes parcio yn archfarchnad Somerfield, ceir cyfleusterau casglu papur, gwydr, caniau, poteli plastig a chardbord.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint