skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cygnor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Mawrth 2006 - Ebrill 2006

Dyddiad Newyddion
26.04.06

Cludiant yn y Fwrdeistref Sirol – Cadw Wrecsam i Fynd

Erbyn hyn, gall ymwelwyr a siopwyr yng nghanol tref Wrecsam ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio a gynigir gan Adran Gludiant Cyngor Wrecsam fel dewis arall i barcio yng nghanol y dref.

26.04.06

Dechrau Symud

Mae Tîm Hybu Iechyd Cyngor Wrecsam wedi cynhyrchu llyfryn newydd "Dechrau Symud" a gynlluniwyd yn benodol i helpu pobl hŷn fod yn fwy heini ar lefel sy'n addas i'w hanghenion.

26.04.06

Taflen Newydd i Fynd i’r Afael â Sibrydion

Mae Partneriaeth Strategaeth Gymunedol Wrecsam wedi cynhyrchu taflen gyda’r nod o gael gwared ar rai o’r mythau sy’n ymwneud ag ymfudwyr economaidd ac mae wedi’i dosbarthu i gartrefi ledled y fwrdeistref sirol.

26.04.06

Gwyl Gelfyddydau Wrecsam 2006

Bydd Gwyl Gelfyddydau Wrecsam ar stepen ein drws cyn bo hir! Mae Gwyl 2006 yn llawn dop â mwy na 70 o ddigwyddiadau rhwng 19 Mai a 5 Mehefin mewn sawl lleoliad ledled y Fwrdeistref Sirol.

25.04.06

Cyflwyniad i Hunangyflogaeth

Ydych chi’n ystyried bod yn hunangyflogedig ond yn ansicr lle i ddechrau? Mae’n bosibl y bydd gan Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Wrecsam yr union beth i chi.

25.04.06

Ffair Duduraidd i Ddathlu Pen-blwydd Twr San Silyn

Bydd Eglwys San Silyn yn dathlu pumcanmlwyddiant ers cwblhau’r twr enwog trwy gynnal Ffair Duduraidd ar dir yr eglwys ac ar hyd Stryt yr Eglwys ddydd Sadwrn 10fed Mehefin.

24.04.06

Arddangos clytiau ffasiynol yn ystod dengmlwyddiant yr Wythnos Clytiau Go Iawn

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymuno â dros 430 o awdurdodau lleol i ddathlu dengmlwyddiant yr Wythnos Clytiau Go Iawn o 24-30 Ebrill.

21.04.06

Derbyniadau Ysgolion Medi 2006

Mae Adran Addysg Cyngor Wrecsam yn chwilio am rieni sydd heb gofrestru eu plentyn mewn ysgol ar gyfer mis Medi 2006.

20.04.06

Ail-lansio’r cynllun Nightsafe

Daeth dalwyr trwyddedau, ynadon, swyddogion y Cyngor a chynrychiolwyr o’r diwydiant diogelwch a’r sector gwirfoddol at ei gilydd mewn cynhadledd yn Neuadd y Dref yn ddiweddar i ail-lansio’r fenter Nightsafe.

19.04.06

Seremoni Prifysgol y Plant

Rhoddwyd y clod uchaf posibl o fewn Prifysgol y Plant/Pobl Ifanc – yr uwch ddiploma – am y tro cyntaf yn Wrecsam heddiw – i ddisgybl 18 oed, Julian Knox, o Ysgol Woodlands, Wrecsam.

13.04.06

Pleidleisiwch Dros Draphont Ddŵr Pontcysyllte

Mae papur newydd y Western Mail yn cynnal cystadleuaeth i ddod o hyd i’r ymgeisydd sy’n haeddu cael ei enwi’n “Rhyfeddod Cymru”.

13.04.06

Y Tîm Gorfodaeth Tenantiaeth yn sicrhau dadfeddiant

Mae Tîm Gorfodaeth Tenantiaeth Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i ennill gorchymyn meddiannu i droi tenant allan a oedd yn ymddangos fel pe bai’n rhedeg puteindy yn ei thy cyngor.

11.04.06

Tri phrif swyddog yn arwain y Gwasanaeth newydd i Blant a Phobl Ifanc

Mae tri phrif swyddog wedi’u penodi i wasanaeth Plant a Phobl Ifanc newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

11.04.06

Arbed, Ailddefnyddio Ac Ailgylchu Yn Wrecsam Wrth Ddathlu'r Pasg Eleni

Mae Wrecsam yn cefnogi'r Cynllun Craff am Wastraff trwy annog pobl i feddwl am anrhegion gwahanol i roi i'w han-wy-liaid adeg y Pasg eleni er mwyn lleihau'r gwastraff ofnadwy sy'n dod o'r holl focsys wyau Pasg gwag.

06.04.06

Strategaeth Datblygu Stryd Fawr Rhiwabon - Ymgynghoriad Cyhoeddus 2006

Mae ymgynghorwyr a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn gweithio yn Rhiwabon i lunio strategaeth ddatblygu ar gyfer y pentref. Mae’r strategaeth gwella ynghylch gwella’r pentref ar gyfer y busnesau a’r trigolion ac mae eich safbwyntiau’n bwysig a byddant yn dylanwadu ar yr argymhellion terfynol.

06.04.06

Gyrrwr hur preifat didrwydded yn cael ei erlyn

Ar 16eg Mawrth 2006, bu i ynadon Wrecsam godi dirwyon a chostau ar ddyn o Wrecsam am yrru cerbyd hur preifat heb drwydded. Gorchmynnwyd Mr Alan Robert Tillyer o 7 Ffordd Almer, Borras, Wrecsam i dalu dirwyon a chostau a oedd yn dod i gyfanswm o £280.

06.04.06

Technoleg fan eitha’r grefft yn diogelu wardeiniaid cymdogaeth yn Wrecsam

Bydd ffonau symudol newydd fan eitha’r grefft a elwir yn system Cybertrak yn cael eu rhoi i holl wardeiniaid cymdogaeth y fwrdeistref sirol i helpu gyda’u diogelwch wrth iddynt batrolio eu hardaloedd.

05.04.06

Man Chwarae Newydd i Blant ym Mhonciau Banks

Gwahoddir plant i bicnic tedi-bêrs ym Mhonciau Banks ddydd Sadwrn, 8 Ebrill pan fydd man chwarae newydd yn cael ei agor yn swyddogol gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Mike Edwards.

03.04.06

Cyflwyno system unffordd ar Stryd y Craen yng Nghefn Mawr

Yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd i ymateb i bryderon trigolion a masnachwyr lleol, cytunwyd i adfer system unffordd ar Stryd y Craen o ddydd Llun 3ydd Ebrill am gyfnod prawf o bedair wythnos, gyda chyfyngiad lled o 2.4m (8’0”) ar gyfer cerbydau sy’n cludo nwyddau o gyfeiriad Acrefair yn unig.

03.04.06

Gwiriwch eich sticer bin- Mae’n Gwyl y Banc!

Wrth i’r Pasg agosáu mae trigolion yn cael eu hatgoffa i wirio eu sticeri ar eu biniau cyn i’r casgliadau sbwriel newid dros wyliau’r Pasg.

31.03.06

Cyngor Wrecsam yn cynnig ymagwedd newydd tuag at anabledd

Bydd digwyddiad a gynhelir yn y Neuadd Goffa ar 4ydd Ebrill yn trafod fersiwn ddrafft o “Strategaeth Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol i Bobl sydd â Phroblemau Corfforol a Synhwyraidd ac Anhwylderau Niwrolegol Hirdymor, gan gynnwys y Gymuned Fyddar Ddiwylliannol”.

31.03.06

Gwaith ysgolion ar ddatblygu cyfle cyfartal i bawb

Yng nghyfarfod mis Mawrth o CYSAG Wrecsa, (Pwyllgor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol), roedd aelodau’n falch o dderbyn adroddiad gan yr Ymgynghorydd AGr, Vicky Barlow, yn amlygu’r gwaith da a wneir yn ysgolion Wrecsam i hybu cyfle cyfartal.

30.03.06

Gwahardd parcio anghyfreithlon

Bydd Wrecsam yn mynd i’r afael â’r broblem barhaus o barcio anghyfreithlon o 3ydd Ebrill ymlaen pan fydd Swyddog Cefnogi’r Gymuned o’r Heddlu, a ariennir gan Gyngor Wrecsam, yn dechrau cerdded y strydoedd.

29.03.06

Sefydlu Fforwm Treftadaeth

Cynhelir cyfarfod cychwynnol i drafod sefydlu Fforwm Treftadaeth i Fwrdeistref Sirol Wrecsam yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Rhaglaw, Wrecsam ar 26 Ebrill 2006 i ddechrau am 7.00pm.

29.03.06

Toshack yn Wrecsam i Ddadorchuddio Plac

Bydd John Toshack, cyn seren Caerdydd, Lerpwl ac Abertawe, yn Wrecsam ar 2 Ebrill i ddadorchuddio plac arbennig yn y Cae Ras i ddathlu’r hyn y credwn i fod y ffilm gyntaf o gêm ryngwladol sydd wedi goroesi.

29.03.06

Ymgyrch baw cwn Dyfroedd Alun

Bydd Parc Gwledig Dyfroedd Alun yn cynnal ymgyrch yn ystod mis Ebrill i annog perchnogion cwn i fod yn gyfrifol ac i lanhau ar ôl eu cwn eu hunain. Bydd gwybodaeth am berchnogion cwn cyfrifol, rhawiau baw a’r gyfraith a baw cwn a'r perygl i iechyd ar gael o’r dderbynfa yn y ganolfan ymwelwyr.

29.03.06

Dyddiad casglu ychwanegol i’r cynllun Ailgylchu gyda Michael

Bydd biniau trigolion sy’n rhan o’r cynllun Ailgylchu gyda Michael ac a fethodd eu casgliadau sbwriel o ganlyniad i’r streic a gynhaliwyd ddoe (28ain Mawrth) yn cael eu casglu ddydd Sadwrn 1af Ebrill.

28.03.06

Cynghrair Masnach Deg Wrecsam Cystadleuaeth Ysgolion 2006

Gwahoddir ysgolion Wrecsam i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth i: Gynllunio logo ar gyfer Cynghrair Masnach Deg Wrecsam. Rhaid rhoi enw, oedran ac ysgol y disgyblion yn glir ar unrhyw gyflwyniadau.  Y dyddiad cau yw dydd Llun, 3 Ebrill 2006.

27.03.06

Tai lleol i bobl leol

Mae Adran Tai Cyngor Wrecsam wedi rhoi’r allweddi i 4 cartref teuluol a ailwampiwyd yn Rhostyllen yn ddiweddar ar ôl penderfynu eu hadnewyddu ar gyfer pobl leol.

27.03.06

Dyddiad Cau maes parcio Dôl yr Eryrod yn Newid

Bydd Cyngor Wrecsam yn trosglwyddo safle Dôl yr Eryrod yn swyddogol i’r datblygwyr, Wilson Bowden, ar ddiwedd mis Ebrill. Bydd gwaith yn dechrau’n fuan wedi hynny a bydd y maes parcio, a oedd i fod i gau ar 3ydd Ebrill, bellach yn cau i’r cyhoedd o ddydd Llun 24ain Ebrill.

23.03.06

Gweithredu Diwydiannol – dydd Mawrth 28 Mawrth 2006

Bydd tarfiad anochel ar wasanaethau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ddydd Mawrth 28 Mawrth 2006, o ganlyniad i streic genedlaethol gan weithwyr llywodraeth leol. Cymerir y camau i ymateb i’r newidiadau arfaethedig i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

23.03.06

Ffair yn dychwelyd at ei gwreiddiau hanesyddol

Bydd ffair draddodiadol Wrecsam yn mynd yn ôl at ei gwreiddiau ar 30ain Mawrth pan fydd yn agor yn ardal y farchnad anifeiliaid yng nghanol y dref.

22.03.06

Mae Hwyl Hurt y Pasg wedi cyrraedd!

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i ddifyrru’r plant yn ystod gwyliau’r Pasg?  Peidiwch â digalonni; mae pedwerydd rhifyn Hwyl Hurt y Pasg ar gael nawr, gan roi manylion am weithgareddau sydd ar gael i blant yn ystod gwyliau’r Pasg.

22.03.06

Gwiriad pwysau carafannau am ddim

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam unwaith eto’n trefnu gwiriad pwysau carafannau AM DDIM.

22.03.06

Y Cyngor yn ymgynghori â phobl leol ynghylch Cynllun Cydraddoldeb Hiliol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gofyn am farn pobl leol am faterion cydraddoldeb hiliol a chysylltiadau hiliol yn Wrecsam fel rhan o ymgynghoriad a fydd yn arwain eu Cynllun Cydraddoldeb Hiliol diwygiedig.

22.03.06

Gwerthoedd Fictoraidd: arddangosfa am fywyd yn Wrecsam yn Oes Fictoria

Trowch y cloc nôl dros gan mlynedd i oes ein cyndeidiau Fictoraidd yn yr arddangosfa ddiweddaraf yng Nghanolfan Treftadaeth y Bers.

21.03.06

Jewell yn dod i Wrecsam

Bydd gan hyfforddwyr Wrecsam rywbeth i edrych ymlaen ato ym mis Ebrill pan fydd rheolwr Wigan Athletic, Paul Jewell, yn NEWI ar y 23ain i siarad am sut bu iddo baratoi ei dîm ar gyfer gêm yn erbyn Chelsea.

20.03.06

Gwyrdd yw'r du newydd yn Wrecsam – byddwch yn ymwybodol o ffasiwn a’r amgylchedd

Ydych chi'n methu credu faint o barau o esgidiau sydd gennych na fyddwch fyth yn eu gwisgo bellach? Neu ydych chi'n gofyn i chi'ch hun pam fod gennych gymaint o fagiau llaw nad ydych prin yn eu defnyddio?

20.03.06

Croeso cynnes i’r Farchnad Ffrengig

Caiff y Farchnad Ffrengig groeso cynnes i Wrecsam pan ddychwel i Sgwâr y Frenhines ar 31ain Mawrth a 1af Ebrill.

20.03.06

Erlyniadau gan yr Awdurdod Addysg Lleol

Erlynwyd dwy fam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ddiweddar am fethu â sicrhau bod eu plant yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd, gan roi neges nerthol i rieni eraill.

17.03.06

B5425 Ffordd Rhosddu, Wrecsam – arwynebu’r ffordd gerbydau a’r droedffordd

Gan ddechrau ddydd Llun 20 Mawrth 2006, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cwblhau gwaith arwynebu ar y ffordd gerbydau a’r droedffordd ar hyd y B5425 Ffordd Rhosddu, Wrecsam, rhwng ei chyffordd â Lôn Price a’i chyffordd â Ffordd Grosvenor.

14.03.06

Dewch i gerdded!

Mae modd i bobl sy’n gweithio yn Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, ardal ysbyty Maelor, canol y dref a Ffordd Grosvenor gael budd o dair taflen Teithiau Trefol newydd sydd wedi’u cynhyrchu yn dilyn llwyddiant y daflen Teithiau Trefol gyntaf ar gyfer canol y dref.

14.03.06

Mwy o ddirwyon am droseddau posteri clybiau nos

Mae ymgyrch Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i oresgyn effeithiau posteri yn y rhanbarth a’r cyffiniau wedi arwain at erlyniad llwydianus arall.

13.03.06

Cau maes parcio Dôl yr Eryrod

Bydd maes parcio Dôl yr Eryrod yn cau ddydd Llun 3ydd Ebrill 2006 er mwyn galluogi gweithwyr i ddechrau ailddatblygu’r ardal.

10.03.06

Edrych ar yr Opsiynau – Digwyddiad ymgynghori ynghylch Ysgol Rhos

Gwahoddir preswylwyr sy’n pryderu neu sy’n cael eu heffeithio gan adeilad newydd ysgol Rhos, yn ogystal â rhieni Ysgol I.D. Hooson, i ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus ddydd Mercher nesaf (15.03.06) yng Nghapel Mawr, Heol yr Afon, Rhos rhwng 2.00pm a 7.30pm.

10.03.06

Cau maes parcio Cilgant San Siôr

Bydd maes parcio Cilgant San Siôr ar gau i’r cyhoedd o ddydd Sul 26ain Mawrth tan ddydd Sadwrn 9fed o Ebrill er mwyn paratoi a chynnal Ffair Bleser y Pasg

10.03.06

Lansio cynllun yn Wrecsam sy'n galluogi pobl ifanc i deithio ar fysiau am hanner y pris

O Ebrill 1 2006, bydd pobl ifanc yn y Gogledd-ddwyrain yn gallu teithio ar fysys yn yr ardal am hanner y pris arferol.

08.03.06

Wrecsam yn cefnogi'r Pythefnos Masnach Deg

Bydd Cynghrair Masnach Deg Wrecsam yn cefnogi menter genedlaethol y Pythefnos Masnach Deg trwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ar draws y fwrdeistref sirol rhwng y 6ed a'r 19eg o Fawrth.

07.03.06

Canterbury Tales

Cyd-gynhyrchiad rhwng Mappa Mundi, Theatr Mwldan a Creu Cymru. Yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Nos Fercher 8fed Mawrth 2006.

06.03.06

Rhamant Y Gwanwyn Gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru Y BBC

Bydd noson ramantus yn disgwyl mynychwyr cyngerdd yn Neuadd William Aston ym mis Mawrth.  Mae Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC yn ymweld â Wrecsam y gwanwyn hwn ar nos Sadwrn 18fed Mawrth.  Bydd eu rhaglen yn cynnwys Symffoni Gyntaf Rachmaninov, cerddoriaeth sydd wedi goresgyn amser gyda’i grym, ei hyfdra a’i gwreiddioldeb.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint