skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Archif Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


Ionawr - Chwefror 2008

Dyddiad Newyddion
29.02.08

£320,000 ar gyfer TGCh mewn Ysgolion Cynradd

Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi cwblhau cynllun prydlesu pwysig sy’n costio oddeutu £320,000, er mwyn hybu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn ysgolion cynradd.

29.02.08

Bydd Llyfrgell y Rhos yn ailagor ddydd Llun 3 Mawrth

Bydd Llyfrgell y Rhos yn ailagor ddydd Llun 3 Mawrth yn dilyn rhaglen ailwampio helaeth diolch i grant o £99,900 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

28.02.08

Dŵr Cymru  yn gwneud gwelliannau hanfodol yn Johnstown

Mae trigolion Johnstown yn mynd i fanteisio ar welliannau hanfodol pan fydd Dŵr Cymru yn dechrau gweithio ar un o’r ddau gynllun ar ddydd Mercher 5ydd Mawrth.

28.02.08

Gweinyddwyr Parcio yn barod am waith yn Wrecsam

Bydd Cyngor Wrecsam yn gyfrifol am reoli gorfodi parcio ledled y Fwrdeistref Sirol o ddydd Sadwrn 1af Mawrth ymlaen a bu i chwe chynorthwy-ydd parcio, fydd yn gyflogedig i gyflwyno tocynnau cosb benodol, ymddangos am y tro cyntaf heddiw.

27.02.08

Cwblhau’r Jig-so yn Nôl yr Eryrod

Codi’r darn dur olaf i greu cyrchfan siopa a hamdden Dôl yr Eryrod. Bydd aelodau o Wilson Bowden Developments ynghyd â’u partneriaid datblygu o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyfarfod ar safle Dôl yr Eryrod heddiw i ddathlu gosod darn olaf y jig-so yn ei le.

25.02.08

Ydych chi'n poeni am ein plant a'n pobl ifanc? Os ydych, rhowch eich barn

Mae pobl o bob oedran sy’n byw yn y fwrdeistref sirol yn cael eu hannog i roi eu barn er mwyn dylanwadu ar gynllun tair blynedd i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

21.02.08

Gwaith Adnewyddu Canolfan Gymunedol Llai bron ar ben

Mae’r gwaith i wella’r cyfleusterau yng Nghanolfan Gymunedol Llai bron iawn wedi ei gwblhau. Mae’r gwaith wedi cynnwys gosod ffenestri dwbl newydd, mynediad newydd i’r anabl gyda ramp i mewn i’r adeilad ac adleoli a gwneud y toiledau anabl yn fwy.

20.02.08

Logo newydd i ITeC Wrecsam

Dadorchuddiodd y Maer, y Cynghorydd Joan Lowe, logo newydd ITeC Wrecsam yn ddiweddar mewn seremoni a nodai ddechrau blwyddyn pen-blwydd ITeC Wrecsam yn 25 oed.

12.02.08

Arolwg diweddar yn dangos cynnydd ym modlonrwydd defnyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn Wrecsam.

Fel rhan o’r rhaglen gwella parhaus, ym mis Tachwedd 2007 anfonodd Adran Gofal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam 750 o holiaduron i bobl a oedd yn derbyn gwasanaethau gan yr Adran. Detholwyd defnyddwyr y gwasanaeth ar hap, seiliwyd yr holiaduron yn agos ar fformat a ddefnyddiwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac fe’i hanfonwyd allan yn ddwyieithog.

11.02.08

Partneriaeth yn cwtogi’n llym ar yfwyr dan oed

Yr wythnos hon mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi pwerau llym newydd gan yr heddlu i atal yfed dan oed ac wedi galw am fwy o ymglymiad gan rieni a’r diwydiant alcohol er mwyn mynd i’r afael â phobl ifanc yn eu harddegau sy’n camddefnyddio alcohol.

08.02.08

Achrediad MLA i Amgueddfa Wrecsam

Roedd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodri Glyn Thomas, yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam heddiw i gyflwyno Tystysgrif Achrediad MLA (Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai) i’r staff. Roedd hefyd yno i agor arddangosfa sy’n ysgogi’r meddwl, “Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth”, a fydd yn Wrecsam tan ddechrau Ebrill.

06.02.08

Gwybodaeth am Reilffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y We Fyd Eang

Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam lansio ei Is-Adran Rheilffordd digwygiedig ar ei wefan sydd wedi ennill gwobrau.

05.02.08

Llwyddiant pêl-droed i bobl ifanc o Cross Lanes

Mae cynghorydd lleol wedi sgorio gôl gyda phobl ifanc yn ei hardal trwy drefnu sesiynau pêl-droed iddynt yn Stadiwm Queensway.

28.01.08

Pêl-droed rhyngwladol yn dod yn ôl i Wrecsam

Bydd pêl-droed rhyngwladol yn ôl yn y Cae Ras, Wrecsam ar 6ed Chwefror gyda gêm yn erbyn Norwy.

24.01.08

Diwrnod Holocost y Byd

Bydd Llyfrgell Wrecsam yn nodi Diwrnod Holocost y Byd, Ionawr 27ain, gydag arddangosfa arbennig o ffotograffau a dynnwyd yng Ngwersyll Carcharorion Dachau yn ddiweddar.

23.01.08

Ysgol Gynradd Rhostyllen yn ennill yr achrediad cyntaf mewn Cydbwysedd Rhwng Gwaith a Bywyd

Mae ysgol bentref yn Wrecsam wedi ennill model Cydbwysedd Rhwng Gwaith a Bywyd Buddsoddwyr Mewn Pobl. Croesawodd Ysgol Gynradd Rhostyllen Janice Kerr, Aseswr Buddsoddwyr Mewn Pobl, i’r ysgol i gyflwyno’r wobr sy’n cydnabod bod yr ysgol wedi llunio cynllun sy’n rhoi cydbwysedd boddhaol i staff rhwng gwaith, bywyd a’r teulu.

21.01.08

Ydych chi’n gofalu am eich iechyd? Yna beth am ddweud eich dweud...

Gofynnir i bobl sy’n byw yn y Fwrdeistref Sirol am eu barn am y cynllun tair blynedd i wella iechyd, gofal cymdeithasol a lles trigolion Wrecsam.

21.01.08

Wrecsam yn chwilio am Ben-selsigen

Mae Wrecsam i gael ei selsigen ei hun yn dilyn lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i bencampwr ymysg holl selsig y fro.

17.01.08

Enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte wedi cyrraedd UNESCO yn ddiogel

Mae’r dogfennau ymestynnol ar gyfer enwebu Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd wedi’u danfon at UNESCO ym Mharis cyn y dyddiad cau.

14.01.08

Canmoliaeth i AALl Wrecsam yn arolwg diweddaraf Estyn

Mae dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn edrych yn ddisglair yn dilyn arolwg llawn o’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) – yr arolwg cyntaf o’i fath i gael ei gynnal yn Wrecsam.

11.01.08

Llwyddiant i’r ymgyrch Arhoswch Oedwch Meddyliwch

Ar ôl y Nadolig, wrth i deuluoedd ddechrau meddwl am wyliau, mae Cyngor Wrecsam yn gofyn i rieni Aros Oedi a Meddwl cyn neilltuo gwyliau a fydd yn golygu y bydd eu plant yn colli allan ar amser yn yr ysgol.

10.01.08

Llyfrgelloedd Wrecsam yn lansio ymgyrch genedlaethol i ddenu aelodau newydd

Am y tro cyntaf, mae’r aelodau llyfrgelloedd ar draws Wrecsam yn cael cymhelliant ychwanegol i ledaenu’r gair i’w ffrindiau a’u teulu mewn ymgyrch arloesol i’w lansio’r mis nesaf.

08.01.08

Llwyddiant i’r Llinell Dwyll

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â chynllun y Llinell Dwyll yn 2004. Mae’r cynllun wedi bod yn arf ataliol llwyddiannus gan ffurfio rhan bwysig o fesurau gwrthdwyll Wrecsam.

03.01.08

Arweinwyr Ffydd Lleol yn ymrwymo i Siarter o Berthyn ‘Un Wrecsam’

Derbyniodd Siarter o Berthyn ‘Un Wrecsam’ fwy o gefnogaeth gref yn ystod y digwyddiad Camelod a Charolau Nadolig yn eglwys Sant Silyn.


Archif Newyddion

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint