| Dyddiad |
Newyddion |
| 28.02.07 |
Dathliadau Dydd Gwyl Dewi yng nghanol tref Wrecsam
Dethlir Dydd Gwyl Dewi yng nghanol tref Wrecsam eleni trwy gynnal nifer o weithgareddau ar Sgwâr y Frenhines. Mae Adran Datblygiad Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi trefnu'r digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o ddiwrnod nawddsant Cymru sef dydd Iau 1af Mawrth.
|
| 27.02.07 |
Prosiect rheoli gwastraff ar fin symud ymlaen
B ydd cyfleusterau rheoli gwastraff yn Wrecsam yn symud i mewn i’r 21ain ganrif os bydd y Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo’r cynigion i ariannu cyfleuster ailgylchu sy’n werth miliynau o bunnoedd heddiw (dydd Mawrth 27 Chwefror). |
| 22.02.07 |
Wrecsam yn cefnogi Pythefnos Masnach Deg
Unwaith eto, bydd Clymblaid Masnach Deg Wrecsam yn cefnogi menter genedlaethol Pythefnos Masnach Deg trwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ledled y Fwrdeistref Sirol rhwng 26ain Chwefror ac 11eg Mawrth.
|
| 21.02.07 |
Prosiectau cerdded yn dathlu ar ôl sicrhau cyllid
Gall miloedd o bobl o bob cwr o Wrecsam a Sir y Fflint barhau i wella eu hiechyd wedi i'r Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi ei bod wedi rhoi £437,037 i Groundwork Wrecsam a Sir y Fflint i ddatblygu ymarfer corff a chyfleoedd cerdded ar draws y ddwy sir.
|
| 19.02.07 |
Ailgylchu gyda Michael yn cael ei estyn unwaith eto
Mae Cyngor Wrecsam yn bwriadu estyn ei gynllun ailgylchu o ymyl y ffordd – Ailgylchu gyda Michael – i 4,000 o gartrefi ychwanegol. Bydd biniau gwyrdd, blychau plastig a bagiau’n cael eu cludo i gartrefi dros y bythefnos nesaf gyda’r casgliad cyntaf yn dechrau ar 26 Chwefror.
|
| 19.02.07 |
Llygod Mawr yn Wrecsam
Mae cynnydd cenedlaethol yn nifer y llygod mawr a welir wedi annog Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Wrecsam i gynghori preswylwyr i osgoi denu llygod mawr i'w heiddo a phwy i gysylltu â nhw ar gyfer triniaethau os byddant yn penderfynu symud i mewn. |
| 15.02.07 |
Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud yn ystod yr hanner tymor?
Unwaith eto, bydd NOFIO AM DDIM ar gael yng nghanolfannau hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod gwyliau’r hanner tymor i blant 16 oed ac iau. |
| 06.02.07 |
Mae Starlab yn dod i barc gwledig ger chi!
Mae Starlab yn blanetariwm chwyddadwy mawr lle gallwch fwynhau sioe 30 munud am yr awyr yn y nos a phlanedau ein cyfundrefn heulol.
|
| 01.02.07 |
Cydlynydd Di-fwg Newydd i Wrecsam
Ar 2il Ebrill, cyflwynir y ddeddfwriaeth Dim Ysmygu yng Nghymru ac mae Cyngor Wrecsam wedi penodi Cydlynydd Di-fwg i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd, landlordiaid a pherchnogion busnes o’u cyfrifoldebau dan y ddeddf newydd.
|
| 29.01.07 |
Ras Serch Dyfroedd Alun Wedi'i Chanslo
Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, penderfynwyd canslo’r digwyddiad hwn. Ymddiheurwn os oeddech wedi bwriadu cymryd rhan ond gobeithiwn eich bod yn deall bod yn rhaid i ni wneud y penderfyniad hwn.
|
| 29.01.07 |
Rhybudd am fasnachwyr ffug yn dilyn y stormydd
Mae Swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru’n annog pobl sydd wedi dioddef yn dilyn y stormydd diweddar i fod yn ofalus o fyrgleriaid sy’n ceisio tynnu sylw a masnachwyr ffug manteisgar. |
| 24.01.07 |
Cynllunwyr Wrecsam ar y brig
Mae gan Adran Gynllunio Wrecsam reswm i wenu heddiw ar ôl i’r newyddion gael ei gyhoeddi’n swyddogol mai nhw yw’r adran gyflymaf yng Nghymru am benderfynu ar geisiadau cynllunio.
|
| 24.01.07 |
Erlyn Tacsi’n Rhybudd i Eraill
Ar 11 Ionawr 2007, erlynodd Ynadon Wrecsam gwmni tacsi o Wrecsam am ganiatáu i yrrwr heb drwydded nac yswiriant yrru ei gerbyd tacsi. |
| 17.01.07 |
Gwelliannau i'r palmant ar Ffordd Benjamin
Mae Cyngor Wrecsam wedi nodi gwella palmentydd y Fwrdeistref Sirol fel un o'i brif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn hon a heddiw gwelodd aelodau a swyddogion drostynt eu hunain y gwelliannau sy'n digwydd yng nghyfnod olaf y gwaith.
|
| 16.01.07 |
Datganiad am farwolaeth Victoria Swift
Datganiad I'r Wasg |
| 09.01.07 |
Pwyllgor Archwilio i dderbyn adroddiad am asbestos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cynhyrchu cynllun sy’n dangos sut y bydd yn ymdrin â deunyddiau asbestos yn ei stoc dai dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn dilyn cyflwyniad deddfwriaeth newydd. |
| 05.01.07 |
Lansio SwimFit yn y Byd Dwr
Os ewch i’r gampfa, bydd gennych hyfforddwr yn sefydlu rhaglen i chi, yn olrhain eich cynnydd ac yn darparu cyngor. Nawr gallwch gael yr un gwasanaeth yn y pwll! |
| 04.01.07 |
Band newydd yn perfformio yn Llyfrgell Wrecsam
Bydd Llyfrgell Wrecsam yn cynnal cyngerdd arbennig gan Mr Hudson and the Library ar nos Iau, 18fed Ionawr am 7.00 o’r gloch fel rhain o daith ar draws Prydain. Gwelwyd y band ar raglen Jools Holland yn ddiweddar a gwnaed ei sengl newydd, Too Late, Too Late, yn record boetha’r byd ar wefan Radio 1. |
| 04.01.07 |
Gwaredwch bwysau’r Nadolig AC atal talu’r ffi ymaelodi
Wedi rhoi pwysau diangen ymlaen y Nadolig hwn? Beth am ymaelodi ag un o ganolfannau hamdden a gweithgareddau’r Cyngor cyn 25 Ionawr ac arbed £25!
|
| 03.01.07 |
Cymru Gynnes - Y flwyddyn nesaf cewch chi wneud gwahaniaeth
Mae 12 mis wedi mynd heibio ers lansio cynllun Cymru Gynnes yn Wrecsam ac mae pobl hŷn sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol yn dal i gael eu hannog i gymryd mantais o'r cynllun.
|
| 02.01.07 |
Mwy O Ddewisiadau I Bobl Hÿn
Wrth i'r Cyngor edrych o'r newydd ar y modd y mae'n darparu gwasanaethau i bobl hŷn, mae wedi gwneud y mater yn un o'i brif flaenoriaethau ar gyfer 2007-2008. |