skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


06 Mai 2008

Arwr Pêl-droed yng Nghymru yn agor Mis Amgueddfeydd ac Orielau

Agorodd Ian Rush MBE, un o arwyr mwyaf pêl-droed Cymru, y Mis Amgueddfeydd ac Orielau mewn steil heddiw (ddydd Iau 1 Mai) gydag ymddangosiad personol yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Roedd cyn saethwr Cymru a Lerpwl yn y dref i helpu dathlu’r arddangosiadau arbennig sydd i’w gweld mewn amgueddfeydd ac orielau celf ledled Cymru drwy gydol mis Mai fel rhan o Fis Amgueddfeydd ac Orielau 2008.

Roedd Ian wrth ei fodd i weld rhai o’i hen grysau pêl-droed yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru yr amgueddfa.  Caiff y casgliad, sy’n cynnwys mwy na fil o eitemau yn cyfeirio at hanes pêl-droed Cymru, ei storio y tu mewn i Ganolfan Casgliad flaengar yr amgueddfa. Ar gyffyrddiad botwm gall ymwelwyr ddewis a wedyn weld eitemau o’r casgliad nad ydynt yn cael eu harddangos.

Mae Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn ymgyrch ar draws y Deyrnas Unedig ac a gefnogir yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe’i cynhelir rhwng 1 - 31 Mai ac mae thema eleni, syniadau ac arloesedd, yn galluogi amgueddfeydd ac orielau i ymchwilio talent ddyfeisgar frodorol Cymru. Bydd yr arddangosiadau arbennig yn ystod y mis yn amrywio o arddangosfa ar Robert Owen, un o brif arloeswyr Cymru a sefydlydd y mudiad Cydweithredol yng Nghymru, i’r Car Gilbern, yr unig gar i gael ei gynhyrchu’n llwyr yng Nghymru.
Dywedodd Ian Rush, a cafodd ei fagu yn y Fflint: “Rwy’n cofio dod i Amgueddfa Wrecsam yn hogyn ar drip ysgol a chael fy nghyfareddu gan hanes yr ardal.  Mae’n wych dod yn ôl ac edrych eto ar dreftadaeth y rhanbarth – heb sôn am weld fy nghrysau pêl-droed fy hunan yng Nghasgliad Pêl-droed Cymru!

“Mae Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn gyfle gwirioneddol wych i fanteisio ar y diwylliant lleol sydd ar gael ar garreg ein drws gan fod llwythi o weithgareddau arbennig yn cael eu cynnal drwy gydol y mis.”

Dengys y ffigurau diweddaraf y gwneir mwy na thair miliwn o ymweliadau i amgueddfeydd Cymru bob blwyddyn. Mae Mis Amgueddfeydd ac Orielau yn anelu i gynyddu nifer yr ymwelwyr i amgueddfeydd ac orielau ar draws y wlad, drwy gydol 2008 ac nid dim ond yn unig yn ystod mis Mai.

Dywedodd Alan Watkin, Prif Swyddog Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant Wrecsam: “Rydym yn falch iawn i gymryd rhan ym Mis Amgueddfeydd ac Orielau eto eleni. Cawsom lwyddiant mawr gyda’r digwyddiadau y gwnaethom eu cynnal y llynedd ac rydym yn gobeithio adeiladu ar hynny eleni.

“Mae’n Canolfan Casgliadau yn rhoi cyfle i’r cyhoedd i weld y nifer enfawr o eitemau a gedwir yn storfa’r amgueddfa nad ydynt i’w gweld fel arfer. Mae’n casgliad pêl-droed yn enghraifft clasurol o arloesi yn Wrecsam, oherwydd bu gan y dref rôl allweddol yn natblygiad cynnar pêl-droed yng Nghymru ac mae’n dal i fod yn gartref ysbrydol y gêm. Mae’n wych cael Ian Rush MBE yn ein hamgueddfa i weld ein casgliad – yn arbennig gan yr arferai wisgo peth o’r casgliad!”

Mae Rhodri Glyn Thomas y Gweinidog Treftadaeth hefyd yn cefnogi Mis Amgueddfeydd ac Orielau. Dywedodd: “Mae gan Gymru hanes a diwylliant eithriadol o gyfoethog. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y casgliadau amrywiol a gedwir mewn mwy na 140 amgueddfa ym mhob cwr o’r wlad. Mae thema eleni - syniadau ac arloesedd - yn neilltuol o addas. Cymru oedd cartref y locomotif rheilffordd stêm cyntaf, y darllediad radio cyntaf a’r arwydd hafal!”

I gael mwy o wybodaeth ar ddigwyddiadau ar draws Cymru yn ystod Mis Amgueddfeydd ac Orielau, ewch i www.mgm.org.uk

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint