skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


17 Mehefin 2008

Arddangosfa yn Llyfrgell Wrecsam ar Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Cynhelir arddangosfa yn Llyfrgell Wrecsam yr wythnos hon i nodi Wythnos Ffoaduriaid. Ynddi, mae’r ffotograffydd o Wrecsam, Chris Ryder, yn tanseilio sawl myth am ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac mae paneli megis Ffaith neu Ffug yn disgrifio’r prosesau a’r cyfyngiadau y mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu. Ydyn nhw’n neidio’r ciw tai? Sut gallan nhw fforddio ffonau symudol a siacedi lledr neis? Mae’r arddangosfa’n rhoi eglurhad.

Mae Chris Ryder, sy’n dod o Wrecsam, wedi teithio’r byd fel ffotograffydd ac mae o wedi ymweld ag Afghanistan, Bosnia a nifer o wledydd Affrica ar brosiectau’n gysylltiedig â gwrthdaro a newyn. Mae ei ffotograffau yn yr arddangosfa’n dangos nifer o gesys dillad a’u harwyddocâd ydy nad yw ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael cymryd mwy na dau gês neu fag yr un i lety’r Swyddfa Gartref.

Bydd yr arddangosfa yn Llyfrgell Wrecsam tan ddydd Sadwrn, 21ain Mehefin.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint