Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
30 Tachwedd 2007
Gwybod Eich Hawliau y Nadolig Hwn
Gyda’r Nadolig yn nesáu’n gyflym, mae Swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi crynhoi ychydig o gyngor tymhorol i’ch helpu osgoi problemau gyda siopa Nadolig.
Nwyddau diffygiol
Os yw pryniant yn ddiffygiol rhaid i chi ymdrin â’r broblem yn syth er mwyn amddiffyn eich hawliau fel prynwr. Gallech fod â hawl i ad-daliad, cyfnewid neu atgyweiriad yn ddibynnol ar faint y diffyg a pha mor fuan ar ôl y pryniant y mae’n dod i’r amlwg.
Ad-daliad/cyfnewid
Mae llawer o adwerthwyr yn cynnig ad-daliad o fewn 28 diwrnod cyn belled â bod gennych dderbynneb. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol nad yw masnachwyr yn gorfod cynnig hynny. Cofiwch hyn, yn arbennig wrth brynu o siopau bychan annibynnol. Mae’n syniad da bob amser i ofyn beth yw polisi’r gwerthwr cyn prynu. Os ydych am i dderbynnydd y pryniant gael y dewis o gyfnewid yr anrheg mae’n syniad da gofyn am dderbynneb rhodd i’w roi gyda’r anrheg.
Siopa o’r cartref
Mae siopa ar y we yn dod yn fwyfwy poblogaidd a gall fod yn ateb delfrydol i osgoi’r tyrfaoedd. Mae rhai bargeinion i’w cael ond nid yw siopa o’r cartref yn fêl i gyd.
Os ydych yn prynu ar y we, teledu lloeren, ffôn neu drwy’r post fel arfer bydd gennych beth amddiffyniad o dan Reoliadau Prynu o Bell. Ar gyfer y mwyafrif o nwyddau mae gennych gyfnod ailfeddwl o saith niwrnod pan gewch ddychwelyd nwyddau hyd yn oed os nad ydynt yn ddiffygiol. Dylech gofio os byddwch yn newid eich meddwl yn unig h.y. dydy’r nwyddau ddim yn ddiffygiol, y byddwch mae’n debyg yn gorfod talu’r costau dychwelyd. Dylech wirio telerau ac amodau’r gwerthwr cyn archebu. Hefyd, efallai na ellir dychwelyd pethau fel nwyddau darfodus ac eitemau a wnaed yn benodol ar eich cyfer.
Os prynwch o safle arwerthiant neu gan werthwr preifat yna “gofaled y prynwr” yw hi gan nad yw’r rheoliadau’n berthnasol i’r mathau hyn o werthiannau.
Credyd
Os ydych yn prynu nwyddau dros £100 fel arfer mae’n syniad da talu gyda’ch cerdyn credyd gan fod gan ddarparwr y credyd gyfrifoldeb cyfartal am unrhyw fater. Felly, os yw’r adwerthwr yn mynd allan o fusnes neu’n gwrthod datrys eich problem efallai y gallech hawlio gan y cwmni credyd. Fodd bynnag, cyn defnyddio credyd, dylech feddwl yn ofalus am y swm o log y bydd raid i chi ei dalu.
Dylid osgoi benthycwyr arian diegwyddor ar bob cyfrif - gall eu graddfa log fod yn afresymol o uchel ac, unwaith y byddwch yn eu crafangau, mae’n aml yn amhosibl dianc.
Ydych chi wedi ystyried ymuno ag Undeb Credyd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a lansiwyd yn ddiweddar? Am fwy o fanylion ffoniwch 01978 266843, ebost:info@wrexhamcu.co.uk neu ewch i www.wrexhamcu.co.uk neu ymweld â swyddfa’r Undeb Credyd yn 1 Arcêd y Gogledd, Stryt Caer, Wrecsam.
Nwyddau ffug
Tua thymor y Nadolig fel arfer mae cynnydd yn y masnachwyr teithiol sy’n gwerthu o gês dillad ar y stryd, yn y dafarn leol neu arwerthiant cist ceir. Gwyliwch am bersawrau, CDau, DVDau a watsiau. Mae dulliau modern yn gallu gwneud ffugio yn haws ac yn aml mae’n anodd dweud y gwahaniaeth ar yr olwg gyntaf yn unig. Fodd bynnag, mae’r safon yn aml yn siomedig ac nid yw’r eitemau yn para. Mae’r hyn a edrychai fel bargen yn gallu arwain at siom ar ddiwrnod Nadolig.
Diogelwch
Prynwch deganau o ffynonellau cyfrifol bob amser a sylwch ar unrhyw rybuddion oedran. Mae’r rhybuddion yno am reswm pwysig iawn. Mae darnau bach datgysylltiol gan lawer o deganau a gallant greu perygl tagu i blant bach 0-3 oed.
Os ydych angen mwy o gymorth neu gyngor cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr ar 08454 040506 neu www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk.
|