Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
24 Awst 2007
Diweddariad Am Glwy’r Traed A’r Genau
Ganol nos 23ain Awst 2007 cafodd cyfyngiadau Clwy’r Traed a’r Genau yng Nghymru eu llacio. Nid yw hyn yn golygu bod popeth yn dychwelyd i’r arfer â’r masnachu arferol fodd bynnag.
Mae gwyliadwriaeth a lefelau bioddiogelwch uchel yn parhau’n flaenoriaethau pwysig.
Mae mesurau rheoli newydd ar waith
- Caniateir symudiadau am unrhyw reswm o fewn yr un daliad hyd at radiws o 8 cilomedr.
- Caniateir symudiadau eraill, ond bydd cyfnod gwahardd o 20 diwrnod rhwng symud anifeiliaid.
- Gwaherddir casgliadau anifeiliaid, sioeau ac arwerthiannau oni bai bod yr anifeiliaid yn mynd i’r lladd-dy’n uniongyrchol.
Mae Trwyddedau Cyffredinol newydd wedi eu llunio. Mae copïau ar gael ar:- Wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru
Neu drwy gysylltu â :
- Swyddfa Iechyd Anifeiliaid Caernarfon: 01286 674144
- Iechyd Anifeiliaid Wrecsam: 01978 813774
|