skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


12 Medi 2007

Clwy’r Traed a’r Genau

Yn dilyn yr ymchwiliad i Glwy’r Traed a’r Genau posibl yn Egham ar ffin Surrey/Berkshire mae gwaharddiad cenedlaethol traws-Brydeinig ar symud moch, gwartheg, defaid ac anifeiliaid cnoi cil eraill wedi ei arosod. Ni chaniateir symud anifeiliaid drwy’r wlad gyfan ac eithrio dan amodau trwydded.

Mae rheolaeth mewn grym ar symud cyrff anifeiliaid ac mae holl gynulliadau anifeiliaid, cneifio a gweithgareddau dipio wedi eu cyfyngu. Rhaid hefyd, i bob fferm gynyddu lefelau bioddiogelwch. Does dim cynlluniau i osod gwaharddiad cyffredinol ar lwybrau cerdded ar hyn o bryd. Dywedodd Andy Lewis, Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd, “Mae gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynlluniau wrth gefn i ddelio â Chlwy’r Traed a’r Genau gan weithio’n agos gyda DEFRA fel rhan o gynlluniau wrth gefn y DU. Fe anogir ffermwyr i fod yn wyliadwrus ac i hysbysu’r Swyddfeydd Iechyd Anifeiliaid lleol o unrhyw arwyddion amheus yn eu hanifeiliaid. Mae manylion cysylltu fel a ganlyn:

Caernarfon 01286 674144
Caerfyrddin 01267 245400. Nos – 07000 780144
Caerdydd – 029 20 768500

Dywed cyngor oddi wrth yr Asiantaeth Amddiffyn Iechyd (AAI) nad yw Clwy’r Traed a’r Genau yn fygythiad iechyd uniongyrchol i’r cyhoedd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ystyried nad oes gan Clwy’r Traed a’r Genau unrhyw oblygiadau i’r gadwyn fwyd. Mae cyngor i ffermwyr ar nifer o wefannau’r Llywodraeth

www.wales.gov.uk/footandmouth
www.defra.gov.uk/news/latest/2007/animal-0803.htm
www.defra.gov.uk/footandmouth
www.direct.gov.uk/en/Nl1/Newsroom/DG_069654

Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Is-adran Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi sefydlu llinell gymorth leol 01978 813744 yn y Swyddfeydd Diogelu’r Cyhoedd yn Stryd Fawr, Rhiwabon i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i ffermwyr a busnesau lleol.

Hefyd mae gan DEFRA linell gymorth – 0845 9 335577

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint