Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
07 Awst 2007
Clwy’r Traed a’r Genau
Yn dilyn archwiliad o achos posib o Glwy’r Traed a’r Genau ger Guildford yn swydd Surrey, gosodwyd gwaharddiad cenedlaethol i symud moch, gwartheg, defaid ac anifeiliaid eraill sy’n cnoi cil. Ni ellir symud yr un anifail ar draws y wlad heb drwydded. Mae rheoliadau mewn grym ar symud ysgerbydau anifeiliaid a hel, cneifio a dipio anifeiliaid a rhaid i bob fferm dynhau eu bioddiogelwch. Nid oes cynlluniau am waharddiadau ar lwybrau troed ar hyn o bryd.
Dywedodd Andy Lewis, Prif Swyddog Tai a Diogelu’r Cyhoedd “Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gynlluniau wrth gefn i ymdrin â Chlwy’r Traed a’r Genau ac mae’n cydweithio’n agos â DEFRA, fel rhan o gynlluniau wrth gefn y DU. Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus ac i adrodd am unrhyw amheuon sydd ganddynt am eu hanifeiliaid i’w Swyddfeydd Lles Anifeiliaid.” Mae’r manylion fel a ganlyn:
Caernarfon – 01286 674144
Caerfyrddin – 01267 245400. Nos – 07000 780144
Caerdydd – 029 20 768500
Y cyngor gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd (HPA) yw nad yw Clwy’r Traed a’r Genau yn beryglus yn uniongyrchol i’r cyhoedd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ystyried nad oes unrhyw oblygiadau i’r gadwyn fwyd gan Glwy’r Traed a’r Genau.
Mae cyngor i ffermwyr ar nifer o wefannau’r llywodraeth
- www.cymru.gov.uk/clwyrtraedargenau
- www.defra.gov.uk/news/latest/2007/animal-0803.htm
- www.defra.gov.uk/footandmouth
Mae Tîm Lles Anifeiliaid Safonau Masnach Cyngor Wrecsam wedi sefydlu llinell gynghori lleol sef 01978 813744 yn swyddfeydd y Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd ar Stryd Fawr, Rhiwabon i ddarparu gwybodaeth gyfredol i ffermwyr a busnesau lleol.
Ceir hefyd llinell gymorth DEFRA – 0845 9 335577.
|