Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
17 Mehefin 2008
Arddangosfa newydd yn agor yn Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
‘Gwell Angau na Chywilydd: O’r Crimea i’r Ail Ryfel Byd’ .
Roedd milwyr, llongwyr a chriw awyrennau Wrecsam ym merw’r frwydr bob tro yr oedd y wlad hon yn rhyfela yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn nodi’r gwasanaeth anhunanol hwn yn ei harddangosfa newydd ‘Gwell Angau na Chywilydd’.
Mae’r arddangosfa yn adrodd hanes gwrthdrawiadau niferus Prydain drwy storïau newydd o flaen y gad a llythyrau a anfonwyd adref i roi safbwynt lleol i frwydrau mawr y gorffennol. Mae’r arddangosfa hefyd yn amlygu gorchestion gwrhydri a wnaed gan filwyr, llongwyr a chriw awyrennau lleol, rhai fel Luke O’Connor a enillodd y Groes Fictoria yn y Crimea ac Awyr-lefftenant David Lord, y dyfarnwyd Croes Fictoria iddo ar ôl ei farw oherwydd ei ddewrder yn Operation Market Garden yn yr Ail Ryfel Byd.


Dywedodd y Cynghorydd Bob Dutton, Aelod Arweiniol dros Gymunedau a Pherfformiad,:
"Mae’n wych gweld y rhan bwysig hon o dreftadaeth ein cymuned yn cael ei ddathlu yn yr arddangosfa ‘Gwell Angau na Chywilydd’.
Uchafbwyntiau’r arddangosfa:
-
Y tair medal rhyfelgyrch a enillwyd gan Uwch-sarsiant Edwin ‘Balaclava Ned’ Hughes, goroeswr olaf Charge of the Light Brigade, 1854.
-
Mae gwisg a phethau cofiadwy yn perthyn i Gapten Bernard Warburton-Lee o Whitewell ym Maelor. Dyfarnwyd Croes Fictoria i Gapten Warburton-Lee ar ôl ei farw oherwydd iddo arwain llynges fach o longau rhyfel i fyny’r ffiord i Narvik (Norwy), gan synnu’r llongau rhyfel Almaenig yn yr harbwr ac ennill buddugoliaeth i godi calon yn gynnar ym 1940.
-
Ffon Byrma – y ffon a ddefnyddiai Brigadydd Gwydyr-Jones yn Byrma yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ymladd yn erbyn byddin Japan.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys rhan lle gall ymwelwyr goffáu/dathlu gwasanaeth cyfeillion, câr neu hynafiaid yn ystod gwrthdrawiadau a fu a’r rhai sydd yn y lluoedd yn awr.

Ar gyfer ymwelwyr iau mae cyfle i afael mewn gwrthrychau perthynol i’r Ail Ryfel Byd a gweithgaredd oriel ‘Milwyr tegan’.
Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa: Jonathon Gammond, Swyddog Mynediad a Dehongliad ar 01978 317 970
|