skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


09 Mehefin 2008

Datblygu gwasanaethau gofal dyddiol – cyfle i fynegi’ch barn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i edrych ar sut i wella ei wasanaethau gofal dyddiol er budd mwy o bobl.

Er ei fod yn her, rhaid adnabod dulliau newydd o weithio i sicrhau y gall gymaint o bobl ag sy’n bosibl dderbyn y math hwn o wasanaeth.

Mae gwaith eisoes wedi cael ei wneud o dan lygad gwyliadwrus Pwyllgor Craffu Materion Cymdeithasol, Iechyd a Tai a bydd aelodau’n derbyn diweddariad bob chwe mis ar y cynnydd cyn belled.

Mae’r pwyllgor yn cyfarfod eto ddydd Gwener, 11eg Mehefin am 2pm yn Ystafell Bwyllgor 3, Neuadd y Dref. Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol.

Mae cyd-gadeiryddion y Pwyllgor Craffu, y Cynghorwyr Ron Davies a George James yn awyddus i wybod sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo: " Gofynom i’r tîm gael golwg ar sut y gall y prosiect hwn symud ymlaen orau. Mae llawer o waith prosiect wedi cael ei wneud yn barod gyda digonedd o ymgynghori, grwpiau ffocws a sefydlu Bwrdd Prosiect.

"Y cam nesaf yw gweld sut y gall y gwasanaethau hyn gael eu newid er lles mwy o bobl ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Rydym yn hyderus y bydd dulliau mwy effeithiol ac effeithlon o weithio yn ennyn rhai o’r newidiadau hyn. "

Mae rhai o’r materion a drafodir yn y cyfarfod yn cynnwys: edrych ar anghenion gwasanaethau arbennig i bobl gyda dementia a phobl gydag anghenion synhwyraidd sylweddol; datblygu Cyfeiriadur Gwasanaeth Cymunedol; nodi mynegiant o ddiddordeb i bartneriaid amgenach i weithio ochr yn ochr â’r Cyngor i ddarparu gwasnaethau dyddiol yn y dyfodol; a sefydlu gweithgor yn cynnwys darparwyr mewnol ac allanol i nodi sut y mae angen datblygu gwasanaethau i’r dyfodol.

Mae copi o’r adroddiad llawn ar gael ar y rhyngrwyd drwy’r ddolen:
http://www.wrexham.gov.uk/english/MinutesNew/searchreturn.cfm?action=results

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint