Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
28 Mai 2008
  Sgriniau Gwybodaeth i Gwsmeriaid ar gyfer Teithwyr Trenau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn falch o gyhoeddi bod sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid wedi’u gosod yng ngorsafoedd trenau Rhiwabon a’r Waun.
Mae’r sgriniau ar y ddau blatfform yn dangos gwybodaeth fyw am amseroedd trenau ac yn ychwanegu at y system uchelseinydd cyhoeddus, gan roi gwybodaeth werthfawr i deithwyr am amseroedd cyrraedd a gadael. Ariannwyd y prosiect gan TAITH trwy ddefnyddio Grant Cludiant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Hefyd, cydnabyddir cefnogaeth Arriva Trains Wales a Network Rail am eu cymorth yn datblygu a gosod y cyfleusterau newydd.
Dywedodd Martin Wright, Prif Swyddog Cludiant a Rheoli Asedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o welliannau cyfredol i wasanaethau cludiant teithwyr yn y Fwrdeistref Sirol. Mae arolygon cenedlaethol yn dangos mai diogelwch a dibynadwyedd yw dau o’r prif ffactorau a ystyrir wrth ddefnyddio gwasanaethau cludiant teithwyr. Rydym yn falch ei bod wedi bod yn bosibl gwario Grant Cludiant i ddarparu mwy o gysur, i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan roi gwybod iddynt pryd yn union y bydd y gwasanaethau y dymunant eu defnyddio yn cyrraedd. Rydym wedi cyflwyno gwybodaeth amser go iawn i ddau lwybr bysiau, gyda thri arall wedi’u cynllunio ar gyfer eleni. Mae hyn yn brawf ychwanegol o ymroddiad y Cyngor i gynaladwyedd.”
Dywedodd David Bithell o Johnstown, Aelod Arweiniol ar gyfer Amgylchedd a Chludiant, y bydd gwybodaeth am amser go iawn o fudd sylweddol i deithwyr sy’n defnyddio rhwydwaith y rheilffordd sy’n cefnogi’r galw cynyddol am wasanaethau rheilffordd yn Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru. Rwy’n falch hefyd fod gwasanaeth bws Wrecsam a Llangollen yn galw yng Ngorsaf Reilffordd Rhiwabon ac y bydd hyn yn rhoi cyswllt rhwng gwasanaethau trên a bysiau i deithwyr.
Mae’r Sgriniau Gwybodaeth i Deithwyr yn dangos gwybodaeth yr amserlen a’r amser go iawn am y tri neu bedwar gwasanaeth nesaf i gyfeiriad y daith, gan rolio i lawr i ddangos y gorsafoedd y bydd y gwasanaeth nesaf yn aros ynddynt ynghyd â’r gyrchfan a gweithredwr y trên.
|