skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


10 Mehefin 2008

Wythnos Genedlaethol Gofalwyr 9 - 15 Mehefin

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Gofalwyr. A oeddech chi’n gwybod bod dros 14,000 o bobl yn Wrecsam yn disgrifio’u hunain fel gofalwyr?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am gydnabod y rôl hollbwysig hon drwy gynnig cefnogaeth i ofalwyr i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles, eu cyflogaeth, eu cyfleoedd dysgu a hamdden yn cael eu cynnal drwy gynnig mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru wedi trefnu digwyddiadau yn ystod yr wythnos yng nghanol tref Wrecsam a’r cyffiniau. Gwahoddir gofalwyr i’w mynychu er mwyn tynnu sylw pobl ac i gael gwybodaeth a chyngor a fydd o gymorth.

O 9 - 11 Mehefin bydd bwrdd gwybodaeth yng nghyntedd Llyfrgell Wrecsam. Ar fore’r 10fed Mehefin bydd cyfnod Galw Heibio i Ofalwyr ym Mharc Technoleg, Rhodfa Ellice ac ar 11eg Mehefin bydd bore coffi a thaith gerdded i ofalwyr yn y ganolfan gymunedol ac yn Y Parciau. Cefnogir y digwyddiad hwn ar y cyd gan AVOW.

Yn ystod yr wythnos bydd Superdrug yn cynnig talebau prisiau is i ofalwyr, yn ddilys i’w defnyddio o 9fed i 30ain Mehefin 2008.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint