Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk
03 Gorffennaf 2008
Newidiadau Mawr i Ddyddiau Casglu Biniau Wrecsam
Mae newidiadau mawr i wasanaeth casglu biniau Wrecsam yn dechrau ar 4ydd Awst.
Mae aelodau’r Bwrdd Gweithredol wedi cytuno i’r newidiadau a fydd yn golygu bod diwrnod casglu biniau 60% o gartrefi yn newid.
Yn ystod yr wythnosau nesaf caiff trigolion galendrau a sticeri bin yn nodi’r diwrnod casglu newydd. Cyfathrebir y newidiadau drwy’r cyfryngau lleol ac o fewn y cymunedau.
I sicrhau newid hwylus gofynnir i bob cartref roi eu gwastraff cyffredinol, (bin du neu las) ynghyd â’u blychau a’u bagiau ailgylchu allan erbyn 7.30am yn ystod wythnos Awst 4ydd. Caiff yr wythnos ganlynol ei dangos ar y calendr.
Bu’r adolygiad yn angenrheidiol er mwyn gwella effeithiolrwydd ac ymateb i alwadau datblygiadau tai newydd. Mae’r rowndiau presennol yn gweithredu i’w cynhwysedd llawn gyda fawr iawn o le ar gyfer eu hymestyn.
Trwy fwyhau effeithiolrwydd y rowndiau gall y Cyngor leihau'r milltiroedd cyffredinol a wneir bob dydd, gan arbed 1,000 o filltiroedd y pythefnos a lleihau ôl troed carbon yr awdurdod.
Dywedodd Cyng. David Bithell, Aelod Arweiniol ar gyfer Amgylchedd a Chludiant:
"Rwy’n hapus i gefnogi’r cynigion hyn a fydd yn arwain at wasanaeth gwell a mwy effeithiol ar gyfer trigolion. Rwy’n gwerthfawrogi y gallai’r newidiadau fod yn anghyfleus i rai cartrefi yn ystod y cyfnod trawsnewid a gofynnaf i bawb gadw llygad am yr amlen a fydd yn cyrraedd cyn hir yn rhoi manylion y trefniadau newydd a’r calendr newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio y bydd gwastraff cyffredinol pob cartref yn cael ei gasglu yn ystod yr wythnos yn dechrau 4ydd Awst i sicrhau y bydd y bin hwn yn cael ei wacáu i bawb yn ystod y ddwy wythnos."
Dywedodd Prif Swyddog yr Amgylchedd, John Bradbury:
"Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y trosglwyddo hwn a diolch i chi am hynny. Os cewch drafferthion gyda’ch casgliadau yna cysylltwch â Strydoedd o Fri ar 01978 29 89 89; efallai y bydd yn haws cael ymateb yn ystod y prynhawniau gan ein bod yn disgwyl nifer fawr o alwadau."
|