skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


11 Mehefin 2008

Cynllun Garddio a Gynorthwyir i Denantiaid

Gall tenantiaid tai Cyngor Wrecsam fod yn gymwys o gael cynnal a chadw eu gerddi yn dilyn adolygiad o’r Cynllun Garddio a Gynorthwyir a gytunwyd arno gan y Cyngor.

Gall tenantiaid sy’n derbyn y Lwfans Byw i’r Anabl (Elfen Gofal neu Symudedd), Lwfans Gweini, Lwfans Gweini Cysgon neu Lwfans Symudedd sydd heb berthnasau yn byw yn y fwrdeistref Sirol neu denantiaid sy’n rhan o’r Cynllun Bathodyn Glas sydd heb berthnasau yn y fwrdeistref wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun.

Nid yw unigolion anabl ifanc yn cael eu heithrio gan nad oes oedran pendant i’r cynllun.

Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried barn y tenantiaid ac yn dilyn hyn bydd y cynllun bellach yn cynnwys 2 doriad gwrych a 5 toriad i’r lawnt drwy gydol y flwyddyn.

Sherratt Landcape Contractors Ltd fydd yn cwblhau’r gwaith ar ran Cyngor Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, yr Aelod Arweiniol dros Tai a Chynllunio:

"Mae’r Cynllun Garddio a Gynorthwyir o gymorth mawr i denantiaid sydd heb unrhyw fodd arall o ofalu am eu gerddi a buaswn yn annog unrhyw un sy’n tybio eu bod yn gymwys i gysylltu â’u Swyddfa Tai lleol.”

Am ymholiadau eraill am y cynllun ffoniwch 01978 315328.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint