skip navigation    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Newyddion y Cyngor

 
Mae'r dudalen hon yn ddatganiad i'r wasg a gyhoeddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur y Cynnwys: pressoffice@wrexham.gov.uk


15 Mai 2008

Darnau blasus o ddysg ar y fwydlen yng ngorllewin Wrecsam

Mae OEDOLION yn ardal gorllewin Wrecsam yn cael eu hannog i gymryd y camau cyntaf ar daith bwysig i ddysgu fel rhan o Wythnos Addysg i Oedolion (Mai 17-24).

Trefnir sesiynau blasu mewn Tai Chi, Dawnsio Jas, Trin Dwylo a Thrin Traed, Adweitheg, Gwneud Gemwaith, Olrhain eich Coeden Deuluol, Cynnal a Chadw Cyfrifiadur, Basgedi Crog, Siopa ar y rhyngrwyd, Bolddawnsio, Crefftau Siwgr, Hanes Lleol, Trefnu blodau, Peintio wynebau, Cyflwyniad i adeiladu, Caligraffeg, Tylino’r Pen yn y dull Indiaidd, Bocsmarfer a llyfrau Cofrodd Mini mewn nifer o leoliadau yn ardal gorllewin Wrecsam yn ystod yr wythnos.  Bydd hyn yn rhan o ŵyl addysg i oedolion sy’n para wythnos ac yn cael ei chydlynu gan NIACE Dysgu Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phartneriaeth Gorllewin Wrecsam. 

Dywedodd trefnydd y digwyddiad Mrs Toni Godolphin o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae rhaglen y digwyddiadau’n amrywiol iawn gyda rhywbeth i bawb yn y gymuned roi cynnig arno.  Dewch a rhowch gynnig ar rywbeth newydd!”

Mae Wythnos Addysg i Oedolion yn ŵyl bwysig o ddysgu er mwyn annog mwy o bobl i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu.  Mae hefyd yn ddathliad o’r nifer cynyddol o oedolion yng Nghymru sydd wedi cyfoethogi’u bywydau ac wedi gwella’u disgwyliadau drwy addysg a hyfforddiant.

Diolch i’r digwyddiadau a’r sesiynau blasu a drefnwyd yn ystod Wythnos Addysg i Oedolion 2007 daeth dros 17,000 o bobl i dros 860 o ddigwyddiadau.

Dywedodd Kay Smith o NIACE Dysgu Cymru: “Mae digwyddiadau lleol yn dangos i bobl sut y gall dysgu fod yn hwyl, yn hyblyg a sut y gall agor byd newydd o bosibiliadau. 

“Yr unig ffordd y gall pobl ddod i wybod beth all dysgu ei wneud iddyn nhw yw rhoi cynnig arni ac mae Wythnos Addysg i Oedolion yn rhoi’r cyfle perffaith i oedolion wneud hynny.”

Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael neu i neilltuo lle ffoniwch  Toni Godolphin ar 01978 367935 neu e-bostiwch toni.godolphin@wrexham.gov.uk

I gael cyngor rhad ac am ddim am addysg i oedolion ffoniwch learn direct am ddim ar 0800 100 900

Wythnos Addysg i Oedolion 2008

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Wythnos Addysg i Oedolion 2008 - Fersiwn PDF 1.5Mb 

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 
English
 
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 

 
 


CBSW
Hawlfraint