|
Mae’r canlynol yn rhoi canllaw cryno i’r defodau y dylid cadw atynt pan fydd y Maer yn bresennol mewn digwyddiad. Er nad yw hwn yn cwmpasu pob posibilrwydd a allai ddigwydd, bydd yn rhoi manylion sylfaenol i westeiwyr i’w galluogi nhw, eu gwahoddedigion a’r Maer i ymlacio a mwynhau digwyddiadau heb ormod o ffurfioldeb a ffwdan.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach yn codi o’r nodiadau hyn, ffoniwch Swyddog Cefnogi’r Cyngor/Cefnogaeth Ddinesig ar 01978 292276 neu e-bostiwch mayoralty@wrexham.gov.uk
Blaenoriaeth
Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, dylai’r Maer gael blaenoriaeth o fewn y Fwrdeistref Sirol. Yr unig enghraifft lle na chedwir at y flaenoriaeth hon yw pan fyddai’n effeithio’n niweidiol ar uchelfraint brenhinol. Mae hyn yn berthnasol nid yn unig i aelodau o’r teulu brenhinol ond hefyd i’r Arglwydd Raglaw, fel cynrychiolydd y Frenhines yn y Fwrdeistref Sirol.
Wrth eistedd, byddai’r Maer yn disgwyl cael ei osod ar yr ochr dde nesaf at y Cadeirydd neu unigolyn arall sy’n llywyddu. Dylai’r Faeres eistedd ar yr ochr dde nesaf at y Maer neu ar yr ochr chwith nesaf at y Cadeirydd.
Dylid rhoi’r un flaenoriaeth i’r Dirprwy Faer pan fydd yn dirprwyo ar ran y Maer.
Rôl y Dirprwy Faer yw cefnogi’r Maer, felly dylid anfon gwahoddiadau yn uniongyrchol at y Maer yn hytrach na’r Dirprwy Faer. Os na fydd y Maer yn gallu bod yn bresennol, yna bydd yn trefnu trwy gytundeb bod y Dirprwy Faer yn bresennol yn ei le/lle.
Fel yr amlinellwyd uchod, os bydd aelod o’r teulu brenhinol neu’r Arglwydd Raglaw yn bresennol, byddent yn eistedd ar yr ochr dde nesaf at y cadeirydd â’r Maer yn eistedd ar yr ochr chwith.
Dylid cadw at y flaenoriaeth hon nid yn unig wrth eistedd ond hefyd wrth groesawu gwahoddedigion a gwneud cyflwyniadau.
I osgoi dryswch sy’n codi ambell waith, o fewn y Fwrdeistref Sirol, mae’r Maer yn cael blaenoriaeth dros weinidogion y Llywodraeth, ASau ac ACau.
Y Faeres
Dylid gwahodd y Faeres i bob digwyddiad gyda’r Maer, oni bai y gwneir cais penodol yn nodi’n wahanol.
Teitl
Wrth ysgrifennu at y Maer, dylid cyfeirio’r llythyr at Anrhydeddus Faer Wrecsam, Y Cynghorydd (ei enw).
Byddai’r llythyr yn agor â ‘Annwyl Mr Faer’ a daw i ben ag ‘Yn gywir’.
Wyneb yn wyneb, dylid galw’r Maer yn Mr Faer a’r Faeres yn Fadam Faeres.
Presenoldeb Mewn Digwyddiadau
Bydd y Maer yn mynychu digwyddiadau oddeutu 5 munud cyn yr amser a nodwyd. Byddai uwch gynrychiolydd y sefydliad yn cyfarfod â’r Maer ac yn ei hebrwng i’w (l)leoliad priodol.
Os oes gofyn i’r Maer roi araith, byddai angen darparu manylion cefndirol y digwyddiad. Os oes gofyn i’r Maer ymateb i lwncdestun neu gyfeirio at unrhyw fater penodol yn ei (h)araith ac ati, dylid tynnu sylw at hyn cyn y digwyddiad.
Os oes rhaglen ar gyfer y digwyddiad, dylai’r Maer ei derbyn o leiaf 2 ddiwrnod cyn y digwyddiad.
Dylid hysbysu’r Maer a’r Faeres o unrhyw gôd gwisg y dylent gadw ato ar gyfer digwyddiad.
Bydd gan y Maer Was gydag ef sy’n ei gludo/chludo i’w ddigwyddiadau. Lle bo hynny’n bosibl, bydd y Maer yn cael ei (g)ollwng wrth brif fynedfa’r lleoliad ac felly byddai o gymorth pe bai lle parcio yn cael ei gadw ar ei gyfer/chyfer mor agos ag sy’n bosibl at y brif fynedfa. Fel rheol, byddai disgwyl i le gael ei gadw ar gyfer cerbyd y Maer. Ar rai achlysuron, bydd Gwas y Maer yn gadael y Maer ac yn dychwelyd yn nes at ddiwedd y digwyddiad, ond ar achlysuron eraill ni fydd hyn yn ymarferol a bydd yn aros yn y lleoliad.
|