|
Mae'r ddogfen hon yn gosod allan polisi'r Cyngor am orfodi cosbau ar unigolion a mudiadau tu allan i'r Cyngor sy'n cyflawni twyll budd-dal yn ei erbyn.
Mae'r polisi'n unol â Strategaeth Gwrthdwyll a Llwgrwobryo y Cyngor sy'n datgan "Bydd y Cyngor yn ceisio erlyn neu gosbi tramgwyddwyr twyll a llwgrwobrwyo sy'n ymwneud â budd-daliadau".
Dylid deall bod y Cyngor (holl aelodau etholedig ac unrhyw weithwyr neu asiantau sy'n gweithio ar ei ran) yn cefnogi'r polisi hwn yn llawn a bydd yn ei weithredu. Gall unrhyw unigolion neu fudiadau sy'n cyflawni twyll budd-dal yn erbyn y Cyngor ddisgwyl cael eu cosbi'n briodol.
I gydnabod amcanion strategol y Cyngor a'i statws fel stiward cyfrifol o arian cyhoeddus ac, o ystyried pryderon y cyhoedd am dwyll, yn enwedig y broblem genedlaethol o dwyll budd-dal, anela'r polisi hwn at ddod o hyd i dwyll yn effeithiol a'i atal. Mae ei nodau penodol fel a ganlyn:
- sicrhau y cosbir twyll trwy gosbau effeithiol
- helpu i ddewis y cosbau mwyaf priodol
- sicrhau y gweithredir y cosbau'n llwyddiannus
- mwyhau effaith ataliol cosbau llwyddiannus
- helpu i gael iawndal digonol lle mae gofyn
- cynnal a magu hyder a pharch y cyhoedd yn y Cyngor trwy helpu i sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei wneud
yn ôl i'r brig
Polisi Cosbau Twyll Budd-daliadau
Mae'r dogfen ar gael i'w llawrlwytho'n y ffurf canlynol:
Polisi Cosbau Twyll Budd-daliadau - fersiwn MS Word 134Kb 
Polisi Cosbau Twyll Budd-daliadau - fersiwn PDF 101Kb 
Polisi Cosbau Twyll Budd-daliadau - fersiwn Testun Plaen 220Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|