|
Ynghyd ag achosi colled ariannol, mae'r Cyngor yn cydnabod bod twyll yn effeithio'n ddrwg ar wasanaethau ac yn difrodi enw'r Cyngor a chyrff cyhoeddus yn gyffredinol a hyder pobl ynddynt.
Golyga statws y Cyngor fel y cyflogwr mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol, â mwy na 6,000 o weithwyr a gwariant net blynyddol o fwy na £160m a'i berthynas ariannol â phob cartref a busnes, fod potensial sylweddol am dwyll a llwgrwobrwyo. Mae'r sefyllfa'n anoddach oherwydd y cymhlethdodau ychwanegol sy'n deillio o'r anogaeth i fod yn fwyfwy dyfeisgar ym maes caffael gwasanaethau a defnyddio technolegau newydd.
Mae strategaeth gwrthdwyll a llwgrwobrwyo effeithiol yn allweddol mewn helpu'r Cyngor i gyfeirio a rheoli ei fusnes yn agored, yn union ac yn atebol. Mae'r Cyngor yn ymroddedig felly i strategaeth a gynlluniwyd i:-
- atal,
- bod yn rhwystr,
- hybu datgeliad,
- adnabod ffordd glir ar gyfer ymchwiliad a gweithrediadau adfer.
Strategaeth Gwrthdwyll a Llwgrwobrwyo
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformatau isod:
Strategaeth Gwrthdwyll a Llwgrwobrwyo - fersiwn Word 84Kb 
Strategaeth Gwrthdwyll a Llwgrwobrwyo - fersiwn PDF 117Kb 
Strategaeth Gwrthdwyll a Llwgrwobrwyo - fersiwn Testun Plaen 120Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|