Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor - Rhaglen Waith Gynlluniedig

Cyhoeddir y Blaenraglen Waith bob mis i roi rhybudd ymlaen llaw am benderfyniadau sy'n debygol o gael eu gwneud gan y Cyngor a'r Bwrdd Gweithredol yn ystod y pedwar mis nesaf. Nid yw'r rhestr o eitemau sy'n gynwysedig yn y Blaenraglen Waith yn drwyadl gan na fydd pob eitem y bydd angen penderfynu arni yn wybyddus mor bell ymlaen llaw â hynny.

Mae'r Blaenraglen Waith yn galluogi Aelodau'r Cyngor a'r cyhoedd i weld pa benderfyniadau sydd ar y gweill, pwy fydd yn eu cymryd, pa bryd y maent yn debygol o gael eu gwneud a pha ymgynghoriad fydd yn digwydd. Mae'r Blaenraglen Waith hefyd yn nodi swyddogion cyswllt ac Aelodau Arweiniol y Bwrdd Gweithredol y gellir cysylltu â nhw i gael gwybodaeth bellach am unrhyw eitem benodol a restrir yn y Rhaglen.

Gwneir y mwyafrif o benderfyniadau gan y Bwrdd Gweithredol ond gwneir penderfyniadau hefyd gan y Cyngor llawn.

Aelodau'r Bwrdd Gweithredol yw:

Fel arfer mae'r Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar brynhawn ddydd Mawrth am 2.00pm yn Neuadd y Dref, Wrecsam. Mae cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol ar agor i'r cyhoedd, ac eithrio yn ystod trafod eitemau lle mae gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei ddatgelu. Gwneir adroddiad ysgrifenedig am bob penderfyniad, a bydd yr adroddiad hwnnw ar gael ar gyfer ei archwilio gan y cyhoedd (yn amodol ar rai eitemau eithriedig) ar wefan y Cyngor o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod lle y disgwylir gwneud y penderfyniad.

Mae amserlen cyhoeddi'r Blaenraglen Waith am y flwyddyn i ddod fel a ganlyn:

Y cyfnod y mae'r Blaen Gynllun yn berthnasol iddo Dyddiad cyhoeddi'r Blaen Gynllun
01/05/2013 - 30/09/2013 01/04/2013
01/06/2013 - 31/10/2013 01/05/2013
01/07/2013 - 30/11/2013 01/06/2013
01/08/2013 - 31/12/2013 01/07/2013
01/09/2013 - 31/01/2014 01/08/2013
01/10/2013 - 28/02/2014 01/09/2013

Cliciwch yma i weld y Blaenraglen Waith >>

NEU Chwilio am eitem gan ddefnyddio gair allweddol ...

yn ôl i'r brig