Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Arolwg Cyllid Ewropeaidd

 

Mae nifer o wahanol fathau o Gyllid Ewropeaidd ar gael ar gyfer ystod o ddibenion ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Adnabyddir mwyafrif y cronfeydd sydd ar gael gan yr Undeb Ewropeaidd fel Cronfeydd Strwythurol. Mae'r cronfeydd hyn yn darparu cymorth grant ar gyfer prosiectau sy'n gweithio tuag at adfywiad economaidd y Fwrdeistref. Y tair cronfa strwythurol a fydd o fantais i Fwrdeistref Wrecsam yw:

Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF)

Amcan ERDF yw lleihau anghydbwysedd rhanbarthol a chynorthwyo prosiectau sydd angen buddsoddiad cyfalafol o ran adeiladau newydd a chyfleusterau cymunedol ayb.

Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF)

Mae'r gronfa hon yn bennaf ar gyfer buddsoddi mewn pobl gyda'r nod o wella sgiliau a gwybodaeth unigolion er mwyn iddynt feddu ar well cyfle i gael gwaith neu waith mwy medrus . Mae hefyd yn ymdrin â chyfle cyfartal a hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Bydd felly yn ariannu cyrsiau hyfforddi, rhaglenni sgiliau sylfaenol ayb.

Cronfa Gwarantau ac Arweiniad Amaethyddol Ewropeaidd (EAGGF)

Mae'r gronfa hon ar gael i gefnogi, cynnyrch, prosesau, datblygiad a marchnadoedd amaethyddol. Un o'r themâu yn Wrecsam yw gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol a diwylliannol.
 
English
 

Cyswllt i

Hafan Ewropeaidd
Cyllid Ewropeaidd yn Wrecsam
Rhaglenni Cyllid
Newyddlen Wrecsam yn Ewrop
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint