Proses ymgynghori
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar fin llunio Cynllun Cyfartaledd Anabledd ac rydym yn edrych am gymorth gennych chi.
Gwahoddir y sawl â diddordeb i gyfrannu at y broses ymgynghori. Yn benodol, hoffem glywed gan bobl anabl a mudiadau gwirfoddol a chymuned sy’n cynrychioli lles pobl anabl.
Byddwn yn dechrau’r broses ymgynghori ym mis Mehefin a chyhoeddir y cynllun ynghyd â chynllun darparu tair blynedd ym mis Rhagfyr 2006.
Cydraddoldeb Anabledd - Dweud eich Dweud
Mae’r holiadur hwn wedi’i lunio i gasglu safbwyntiau a phrofiadau pobl anabl, ac fe’i defnyddir i wneud gwasanaethau iechyd a gwasanaethau’r cyngor yn fwy hygyrch ac ymatebol i anghenion pobl ag anableddau yn eich ardal chi.
Rydym am i bobl anabl gymryd rhan a gweithio gyda ni i ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Anabledd sy’n sicrhau bod anghenion y bobl leol yn cael eu diwallu’n briodol. Defnyddir eich atebion i’r holiadur hwn i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn helpu i nodi’r prif faterion a blaenoriaethau ar gyfer pobl anabl leol.
Cynllun Cydraddoldeb Anabledd Adroddiad Arolygu 2006 / 2007
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cynllun Cydraddoldeb Anabledd Adroddiad Arolygu 2006 / 2007 - Fersiwn PDF 1.3Mb 
Cydraddoldeb Anabledd - Dweud eich Dweud
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Cydraddoldeb Anabledd - Dweud eich Dweud - Fersiwn PDF 190Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.
Cysylltiadau
Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam
Ydych chi’n dymuno cymryd rhan?
I gyfrannu at y broses ymgynghori neu i gyflwyno sylwadau ar y Cynllun cyn ei gyhoeddi, gallwch gysylltu â Celia Gibson Rheolwr Cydraddoldeb, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar 01978 292808. |