Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Pleidleisio Trwy Ddirprwy

 

Pwy all wneud cais am bleidlais trwy ddirpwry?

Ni allwch wneud cais am bleidlais hirdymor trwy ddirprwy heb fod â rheswm penodol fel anabledd neu trwy fod dramor.

I bleidleisio trwy ddirprwy mewn dim ond un etholiad, rhaid i chi fod â rheswm, er enghraifft y byddwch ar wyliau neu i ffwrdd oherwydd gwaith.

Os ydych yn mynd yn analluog neu’n sâl yn ddirybudd, gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy am resymau meddygol hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais.

Mae perthynas / cyfaill wedi mynd yn analluog / sâl yn ddirybudd. Allaf i bleidleisio ar ei ran / rhan?

Gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy mewn argyfwng am resymau meddygol hyd at 5pm ar ddiwrnod y bleidlais.

Sut mae cael pleidlais ddirprwy?

Gallwch wneud cais am ddirprwy newydd hyd at 6 diwrnod gwaith cyn etholiad a gallwch newid pleidlais bresennol trwy ddirprwy ar unrhyw adeg hyd at 11 diwrnod gwaith cyn diwrnod y bleidlais. Os ydych yn mynd yn analluog neu’n sâl yn ddirybudd, gallwch wneud cais i bleidleisio trwy ddirprwy am resymau meddygol hyd at ddiwrnod y bleidlais. Rhaid derbyn holl geisiadau cyn 5pm ar ddiwrnod y bleidlais.

Pwy all fod yn ddirprwy i mi?

Gall pawb sy’n gymwys i bleidleisio eu hunain yn yr etholiad fod yn ddirprwy i chi. Fodd bynnag, ni allwch fod yn ddirprwy i fwy na dau o bobl nad ydynt yn aelodau o’ch teulu agos.

Gall eich dirprwy wneud cais i bleidleisio drwy’r post ar eich rhan.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol.

Cefais fy ngwneud yn ddirprwy dros rywun. Beth sydd angen i mi wneud?

Mae’n hawdd iawn pleidleisio fel dirprwy rhywun. Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio dirprwy arbennig gyda manylion lle ddylech fynd i bleidleisio. Os na allwch fynd i’r man pleidleisio gallwch bleidleisio drwy’r post. Rhaid i chi wneud cais am bleidlais drwy’r post fel hyn cyn 5pm ar 16 Ebrill 2008 (11 diwrnod gwaith cyn diwrnod pleidleisio). Cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael gwybod sut i wneud hyn.

Os ydych yn mynd i’r man pleidleisio, dywedwch wrth y staff yno eich bod yn pleidleisio fel dirprwy a byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud. Peidiwch ag anghofio mynd â’ch cerdyn pleidleisio dirprwy – bydd hyn yn ei gwneud yn haws i staff y man pleidleisio gael hyd i’r papur pleidleisio cywir.

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi wneud cais?

  • Rhaid i’ch dirprwy fynd i’ch man pleidleisio lleol i bleidleisio. Os na all eich dirprwy fynd i’r man pleidleisio, gall wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post. Gall eich dirprwy wneud cais i wneud hyn hyd at 11 diwrnod cyn diwrnod etholiad. Bydd eich dirprwy’n derbyn cerdyn pleidleisio dirprwy, fydd yn dweud ymhle a phryd i bleidleisio.
  • Rhaid i chi ddweud wrth eich dirprwy sut ydych eisiau pleidleisio, er enghraifft, i ba ymgeisydd neu i ba blaid.
  • Os byddwch yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, gallwch ddal i bleidleisio’n bersonol cyn belled â bod eich dirprwy heb wneud hynny eisoes nac wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post ar eich rhan.
 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Amserlen y Digwyddiadau
Gwybodaeth am Ymgeiswyr ac Asiantau
Cofrestru i Bleidleisio
Pleidleiswyr yn y Lluoedd Arfog
Etholiadau sy'n Digwydd yn Eich Ardal
Pleidleisio
Pleidleisio Drwy'r Post
Pleidleisio Trwy Ddirprwy
Canlyniadau'r Etholiad
Mynegai Etholiada Lleol y Fwrdeistref Sirol 2008
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint