Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Pleidleisio

 

Sut allaf i gael gwybod ymhle mae fy ngorsaf bleidleisio?

Bydd lleoliad eich gorsaf bleidleisio ar y cerdyn pleidleisio fydd yn cael ei anfon atoch cyn diwrnod y bleidlais. Fel arall, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael gwybod.

Sut mae llenwi’r papur pleidleisio?

Bydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu gan y clerc pleidleisio yn eich gorsaf bleidleisio.
Os ydych wedi dewis pleidleisio drwy’r post, bydd y wybodaeth hon yn eich pecyn pleidleisio.

Beth yw’r oriau pleidleisio yn yr etholiadau nesaf?

Yr oriau pleidleisio yw rhwng 7am a 10pm ar gyfer holl etholiadau. Cofiwch edrych ar y cerdyn pleidleisio fydd yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad i weld nad yw’r amseroedd hyn wedi newid.

Pam na dderbyniais i fy ngherdyn pleidleisio? 

Gallwch ddal i bleidleisio hyd yn oed os nad oes gennych gerdyn pleidleisio, cyn belled a’ch bod ar y gofrestr etholwyr. Dylech gadarnhau gyda’r gwasanaethau etholiadol eich bod ar y gofrestr etholwyr a dweud nad ydych wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio.

Allaf i gael help / lifft i’r orsaf bleidleisio?

Os ydych yn anabl ac angen cymorth i gyrraedd yr orsaf bleidleisio, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael gwybod pa gymorth sydd i’w gael. Gallwch hefyd ofyn am gael rhywun gyda chi pan fyddwch yn pleidleisio.

A yw fy nghorsaf bleidleisio’n hygyrch?

Gwnawn ein gorau i ddefnyddio adeiladau hygyrch fel gorsafoedd pleidleisio ond, ar waethaf ein hymdrechion gorau, nid oes modd gwneud hyn bob amser mewn rhai ardaloedd. Mae cyfleusterau parcio yn neu o gwmpas y rhan fwyaf o orsafoedd pleidleisio, gyda man parcio neilltuol i bobl anabl.

Ar ôl pob etholiad bydd ein staff pleidleisio’n dweud wrthym am hygyrchedd adeiladau ond, os ydych yn pryderu ynghylch defnyddio unrhyw adeilad arbennig, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ar gyfer ein hadolygiad nesaf o’n mannau pleidleisio.

 
English
 

Cysylltiadau Defnyddiol

Amserlen y Digwyddiadau
Gwybodaeth am Ymgeiswyr ac Asiantau
Cofrestru i Bleidleisio
Pleidleiswyr yn y Lluoedd Arfog
Etholiadau sy'n Digwydd yn Eich Ardal
Pleidleisio
Pleidleisio Drwy'r Post
Pleidleisio Trwy Ddirprwy
Canlyniadau'r Etholiad
Mynegai Etholiada Lleol y Fwrdeistref Sirol 2008
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint