Beth yw’r gofrestr etholwyr?
Rhestr o enwau a chyfeiriadau pawb a gofrestrwyd i bleidleisio yw’r gofrestr etholwyr. Rydym yn cynnal y gofrestr etholwyr ar gyfer ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio?
Er mwyn pleidleisio, rhaid i chi fod ar y gofrestr etholwyr. Os ydych wedi llenwi’r ffurflen gofrestru flynyddol a ddaeth drwy eich drws rhwng Medi a Thachwedd 2007 dylech fod ar y gofrestr.
Os ydych wedi symud tŷ yna dylech gofrestru eto. Caiff y gofrestr etholwyr ei diweddaru bob mis rhwng Rhagfyr a Medi.
I weld a ydych ar y gofrestr, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol. Os nad ydych ar y gofrestr bydd angen i chi lenwi a dychwelyd ffurflen gofrestru atom erbyn 5pm ar 16 Ebrill i allu pleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 1 Mai 2008.
Sut mae cofrestru i bleidleisio?
Yn ystod Awst neu Fedi dylech fod wedi derbyn ffurflen flynyddol sy’n gofyn am etholwyr. Rhaid i chi sicrhau bod enwau pawb cymwys sy’n byw yn eich cyfeiriad ar y ffurflen a chroesi allan unrhyw un na ddylai fod arni. I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â’r gwasanaethau etholiadol.
Caiff y gofrestr etholwyr ei diweddaru bob mis rhwng Rhagfyr a Medi. Os ydych yn symud tŷ yna dylech gofrestru eto.
Allaf i gofrestru i bleidleisio dros y ffôn?
Na, ond gallwch alw’r gwasanaethau etholiadol i ofyn iddynt anfon ffurflen gofrestru atoch.
Oes raid i mi fynd i rywle i gofrestru i bleidleisio?
Nac oes. Mae angen i chi lenwi ffurflen gofrestru etholiadol a’i dychwelyd i’r Gwasanaethau Etholiadol, Tŷ Dewi Sant, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1NF. I bleidleisio yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2008 mae angen dychwelyd y ffurflen wedi’i llenwi erbyn 16 Ebrill 2008.
Pam fod angen i mi gofrestru?
Mae angen i chi fod ar y gofrestr etholwyr i bleidleisio yn holl etholiadau a refferenda’r DU. Yn Wrecsam, mae gennym etholiadau lleol i ddewis cynghorwyr lleol ar 1 Mai 2008. I bleidleisio yn yr etholiadau hyn, mae angen dychwelyd y ffurflen wedi’i llenwi erbyn 16 Ebrill. Nid ydych yn cael eich cofrestru’n awtomatig hyd yn oed os ydych yn talu treth y cyngor. Os nad ydych ar y gofrestr gall effeithio ar eich statws credyd hefyd.
Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio?
Gallwch gofrestru i bleidleisio os ydych:
- yn 16 oed neu drosodd (ond ni allwch bleidleisio nes byddwch yn 18 oed)
- yn ddinesydd y DU, Gweriniaeth Iwerddon neu’r Gymanwlad
- yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y DU
- yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Brydeinig Dramor yn byw yn y DU
Rwy’n fyfyriwr ac yn ansicr ble ddylwn i gofrestru i bleidleisio.
Mae gan fyfyrwyr hawl i gofrestru yng nghyfeiriad eu cartref a chyfeiriad eu prifysgol. Er ei bod yn drosedd pleidleisio mwy nag unwaith mewn etholiad cenedlaethol, gallwch bleidleisio mewn etholiadau lleol ar gyfer y ddau gyfeiriad, ond iddynt beidio â bod yn yr un ardal.
Rwy’n 16/17. Allaf i gofrestru i bleidleisio?
Gallwch. Gallwch gofrestru i bleidleisio, ond ni chewch bleidleisio nes byddwch yn 18. Os yw eich pen-blwydd yn 18 yn union cyn etholiad mae’n syniad da cofrestru heddiw er mwyn i chi allu pleidleisio ar Ddiwrnod yr Etholiad. Mae’r etholiadau nesaf ar 1 Mai 2008. Cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol i gael ffurflen.
Pryd gaf i gofrestru i bleidleisio?
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cofrestru rhwng Medi a Thachwedd bob blwyddyn pan fyddwn yn anfon ffurflen gofrestru i’ch cartref. Enw hyn yw’r ‘canfasio blynyddol’. Fodd bynnag, gallwch hefyd gofrestru drwy gydol y flwyddyn gan fod y gofrestr yn cael ei diweddaru bob mis. Mae hyn yn ddefnyddiol os byddwch yn symud cartref ac eisiau cofrestru yn eich cyfeiriad newydd.
I wneud cais am ffurflen, cysylltwch â’r gwasanaethau etholiadol
Ydw i’n cofrestru unwaith neu bob blwyddyn?
Dylech gofrestru rhwng Awst a Thachwedd bob blwyddyn pan fyddwn yn anfon ffurflen gofrestru i’ch cartref. Enw hyn yw’r ‘canfasio blynyddol’. Gallwch gofrestru ar adegau eraill y flwyddyn trwy lenwi ffurflen gofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â’r gwasanaethau etholiadol.
Beth sydd i’w wneud os symudaf i fyw?
Os ydych wedi llenwi a dychwelyd ffurflen gofrestru flynyddol ers i chi symud i’ch cartref newydd, nid oes angen i chi gofrestru eto. Os nad ydych, mae angen i chi wneud cais am ffurflen gofrestru a’i dychwelyd i’r gwasanaethau etholiadol.
Os byddwch yn symud yn ystod y canfasio blynyddol yna dylech lenwi’r ffurflen gofrestru flynyddol i adlewyrchu eich cyfeiriad ar 15 Hydref. Os byddwch yn symud ar ôl i chi lenwi’r ffurflen gofrestru flynyddol yna gallwch wneud cais am ffurflen i newid ein cofnodion o ganlyniad.
Ar ôl cofrestru, sut mae pleidleisio?
Ymwelwch â’n tudalen bleidleisio i weld sut y gallwch bleidleisio.
Sut mae cysylltu â Gwasanaethau Etholiadol?
Gallwch gysylltu â ni trwy un o’r ffyrdd canlynol:
Ffôn: 01978 292020
E-bost: electoral@wrecsam.gov.uk neu
trwy ysgrifennu at y Gwasanaethau Etholiadol, Tŷ Dewi Sant, Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1NF
Beth yw’r gofrestr olygedig?
Mae dau fersiwn o’r gofrestr etholwyr – y fersiwn llawn a’r fersiwn golygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata.
Bydd eich enw a chyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr lawn ond gallwch ddewis ar eich ffurflen gofrestru a ydych am ymddangos ar y gofrestr olygedig.
A fydd fy manylion yn ymddangos ar y gofrestr etholwyr?
Yr unig fanylion sy’n ymddangos ar y gofrestr yw enw, cyfeiriad a marciwr sy’n penderfynu ym mha etholiadau y gallwch bleidleisio. Os ydych dan 18, bydd dyddiad eich pen-blwydd yn 18 yn cael ei ddangos hefyd.
A fydd fy manylion yn cael eu defnyddio ar gyfer unrhyw beth heblaw etholiadau?
Mae dau fersiwn o’r gofrestr etholwyr – y fersiwn llawn a’r fersiwn golygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata.
Bydd eich enw a chyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr lawn ond gallwch ddewis ar eich ffurflen gofrestru a ydych am ymddangos ar y gofrestr olygedig.
Rwy’n pryderu os bydd fy enw’n ymddangos ar y gofrestr; allaf i gofrestru’n ddienw?
Mae Deddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006 yn rhoi’r gallu i gofrestru’n ddienw. Fe all pawb nad ydynt yn dymuno cael eu henw ar y gofrestr wneud cais i’w Swyddog Cofrestru Etholiadol i gael cofrestru’n ddienw, er y byddai rheswm da yn gorfod cael ei roi am hyn. Byddai ar geiswyr angen tystiolaeth ddogfennol o Orchymyn Llys neu ardystiad pobl arbennig i gefnogi eu cais.
Os cofrestrwyd chi’n ddienw, yn lle bod eich enw a chyfeiriad yn ymddangos ar y gofrestr etholwyr bydd cod yn cael ei ychwanegu at ddiwedd adran y gofrestr ar gyfer eich dosbarth etholiadol. Yn lle eich cynnwys ar y ffurflen gofrestru flynyddol, bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu â chi ar wahân ac yn y fath ffordd na fydd yn dadlennu eich bod wedi cofrestru’n ddienw. Dylech dderbyn cardiau pleidleisio fel arfer.
Dylai pawb sydd â phryderon ynghylch cael eu henw ar y gofrestr etholwyr gysylltu â’r gwasanaethau etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Allaf i chwilio’r gofrestr etholwyr ar-lein?
Caiff cofrestru etholiadol ei wneud yn lleol gan swyddfa leol cofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gofrestr etholwyr ganolog swyddogol y mae modd ei chwilio ar-lein.
Fodd bynnag, mae dau fersiwn o’r gofrestr etholwyr – y fersiwn llawn a’r fersiwn golygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata. Mae modd chwilio’r gofrestr olygedig trwy ddefnyddio sefydliadau masnachol ar-lein, ond nid oes modd chwilio’r gofrestr lawn fel hyn, am nad yw’r cofrestri llawn ar gael ond i’w gweld fel copi caled ym mhob swyddfa leol cofrestru etholiadol.
Allaf i ddefnyddio’r gofrestr etholwyr i chwilio am berthynas neu gyfaill coll?
Gallai fod yn anodd cael hyd i gyfaill neu berthynas coll ar y gofrestr etholwyr gan fod cofrestru etholiadol yn cael ei wneud yn lleol gan swyddfa leol cofrestru etholiadol ar gyfer pob ardal ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gofrestr etholwyr ganolog swyddogol y mae modd ei chwilio.
Os ydych eisiau edrych ar y gofrestr i chwilio am gyfaill neu berthynas coll, mae dau fersiwn o’r gofrestr etholwyr – y fersiwn llawn a’r fersiwn golygedig. Caiff y gofrestr lawn ei defnyddio’n unig ar gyfer etholiadau, atal a datgelu trosedd a chadarnhau ceisiadau am gredyd. Mae’r gofrestr olygedig ar gael i’w gwerthu’n gyffredinol ac mae modd ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau masnachol fel marchnata. Mae modd chwilio’r gofrestr olygedig trwy ddefnyddio sefydliadau masnachol ar-lein, ond nid oes modd chwilio’r gofrestr lawn fel hyn, am nad yw’r cofrestri llawn ar gael ond i’w gweld fel copi caled yn y swyddfa Gwasanaethau Etholiadol.
A yw Gweision y Goron, cyflogeion y Cyngor Prydeinig ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd dramor yn gallu pleidleisio?
Mae Gweision y Goron, cyflogeion y Cyngor Prydeinig ac aelodau’r Lluoedd Arfog sydd dramor yn gallu pleidleisio ymhob etholiad. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru a’i hanfon i’r gwasanaethau etholiadol. Yna gallwch ddewis pleidleisio drwy’r post neu trwy ddirprwy. Dim ond wythnos cyn etholiad y bydd pleidleisiau drwy’r post yn cael eu hanfon. Bydd angen i chi ystyried a yw hyn yn rhoi digon o amser i chi lenwi a dychwelyd eich ffurflen atom. Gall fod yn well i chi benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan.
|