|
Caiff Etholiadau Cynghorau Lleol eu cynnal bob 4 blynedd. Bydd etholiad nesaf holl Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn digwydd ar ddydd Iau 1 Mai 2008. Bydd etholiadau’n cael eu cynnal hefyd ar yr un diwrnod ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn Wrecsam.
Bydd Rhybudd Etholiad yn cael ei gyhoeddi ar 17 Mawrth a hyn sy’n nodi dechrau proses yr etholiad. Bydd copïau o holl rybuddion pwysig yr etholiad yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.
Etholiadau Cyngor y Fwrdeistref Sirol
Rhybudd Etholiad
Pwy all sefyll fel Ymgeisydd Bwrdeistref Sirol?
Rydych yn ymgeisydd cymwys yn gyfreithiol:
- Os ydych yn 18 oed o leiaf ac
- Os ydych ar gofrestr etholwyr ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’ch cartref (am y 12 mis diwethaf o leiaf) yn y Fwrdeistref Sirol NEU
- Os ydych yn gweithio yn y Fwrdeistref Sirol (ac wedi gwneud hynny am y 12 mis diwethaf) NEU
- Os ydych yn berchen eiddo yn y Fwrdeistref Sirol (ac wedi bod felly am y 12 mis diwethaf)
Ni fyddech yn gymwys i fod yn ymgeisydd:
- Os ydych yn fethdalwr neu
- Os ydych wedi cael euogfarn troseddol yn y pum mlynedd diwethaf pryd y dedfrydwyd chi i dri mis neu fwy yn y carchar neu
- Os ydych yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (gan gynnwys fel athro neu athrawes) neu os oes gennych swydd sy’n gyfyngedig yn wleidyddol
Cael Eich Enwebu
Mae angen enwebu ymgeisydd mewn etholiad ac mae angen datgan bod yr ymgeisydd yn cytuno â’r enwebiad.
Mae modd enwebu ymgeiswyr trwy blaid wleidyddol ond gallant sefyll yn eu rhinwedd eu hunain fel ymgeiswyr annibynnol. Yn ôl y gyfraith rhaid cyflwyno holl ffurflenni Enwebu cyn HANNER DYDD ar 4 Ebrill.
Mae’r Swyddog Canlyniadau’n annog holl ddarpar Ymgeiswyr i gyflwyno eu papurau Enwebu cyflawn mor gynnar ag y gallant er mwyn gallu cywiro unrhyw wallau mewn pryd. Mae rhestr o’r diwrnodau ac amseroedd pan fydd Ymgeiswyr yn gallu cyflwyno eu ffurflenni Enwebu yma:
- Bydd etholiad yn digwydd os bydd mwy o enwebiadau na seddau gwag. Fel arall bydd ymgeiswyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad.
Mae’r ffurflenni angenrheidiol a rhagor o gyfarwyddyd i’w cael oddi wrth y Gwasanaethau Etholiadol. Sefydlwyd rhif ffôn arbennig, 01978 292076, yn benodol fel bod Ymgeiswyr ac Asiantau’n gallu cysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Canllawiau'r Comisiwn Etholiadol i Ymgeiswyr (cyswllt allanol)
Y Cyfrif
Bydd y pleidleisiau a fwriwyd yn cael eu gwirio ar ddiwedd y pleidleisio. Mae gwirio’n golygu gweld bod nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio perthnasol yn cyfateb i nifer y papurau a roddwyd allan mewn gorsaf bleidleisio arbennig. Bydd pleidleisiau’n cael eu cyfrif ar y diwrnod canlynol (2 Mai). Os cewch eich ethol byddwch yn cael gwybodaeth, ymhlith pethau eraill, am lofnodi eich datganiad derbyn swydd. Dyma rywbeth y byddwch yn GORFOD ei wneud cyn y gallwch weithredu fel cynghorydd.
Rhybudd Etholiad
Mae’r 'Rhybudd Etholiad' ar gyfer Etholiadau Cyngor y Fwrdeistref Sirol ar gael i’w lawrlwytho ar y ffurf ganlynol:
Rhybudd Etholiad - Cyngor y Fwrdeistref - fformat PDF 34Kb 
Etholiadau'r Cynghorau Cymuned
Rhybudd Etholiad
Pwy sy’n gallu sefyll fel Ymgeisydd Cyngor Cymuned?
I gymhwyso fel ymgeisydd rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol ar ddiwrnod eich enwebu ac ar ddiwrnod y bleidlais. Rhaid i chi:
- fod wedi cyrraedd 18 oed o leiaf a
- bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymhwysol y Gymanwlad, neu’n ddinesydd unrhyw aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd
Rhaid i un o leiaf o’r pedwar cymhwyster canlynol fod yn berthnasol i chi hefyd ar ddiwrnod eich enwebu ac ar ddiwrnod y bleidlais:
- bod yn gofrestredig fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor cymuned lle’r ydych eisiau sefyll, neu
- fod wedi meddiannu fel perchennog neu denant unrhyw dir neu eiddo yn ardal y gymuned neu gyngor yn ystod y 12 mis cyfan cyn diwrnod eich yn enwebu, neu
- fod â’ch prif neu unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn ardal y cyngor cymuned, neu
- fod wedi byw yn ardal y cyngor cymuned (neu o fewn 4.8 cilometr iddo) yn ystod y 12 mis cyfan diwethaf
Ni fyddwch yn gymwys fel ymgeisydd:
- os ydych yn fethdalwr neu
- os cawsoch euogfarn troseddol yn y pum mlynedd diwethaf pryd y dedfrydwyd chi i dri mis neu fwy yn y carchar.
- os cawsoch eich gwahardd fel arall.
Canllawiau Atodol y Comisiwn Etholiadol i Ymgeiswyr Cynghorau Cymuned (cyswllt allanol)
Cael Eich Enwebu
Bydd y Rhybudd Etholiad yn cael ei gyhoeddi ar 17 Mawrth a hyn sy’n nodi dechrau proses yr etholiad.
Mae angen enwebu ymgeisydd mewn etholiad ac mae angen datgan bod yr ymgeisydd yn cytuno â’r enwebiad.
Mae modd enwebu ymgeiswyr trwy blaid wleidyddol ond gallant sefyll yn eu rhinwedd eu hunain fel ymgeiswyr annibynnol. Yn ôl y gyfraith rhaid cyflwyno holl ffurflenni Enwebu cyn HANNER DYDD ar 4 Ebrill.
Mae’r Swyddog Canlyniadau’n annog holl ddarpar Ymgeiswyr i gyflwyno eu papurau Enwebu cyflawn mor gynnar ag y gallant er mwyn gallu cywiro unrhyw wallau mewn pryd. Mae rhestr o’r diwrnodau ac amseroedd pan fydd Ymgeiswyr yn gallu cyflwyno eu ffurflenni Enwebu yma:
- Bydd etholiad yn digwydd os bydd mwy o enwebiadau na seddau gwag. Fel arall bydd ymgeiswyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad.
Mae’r ffurflenni angenrheidiol a rhagor o gyfarwyddyd i’w cael oddi wrth y Gwasanaethau Etholiadol. Sefydlwyd rhif ffôn arbennig, 01978 292076, yn benodol fel bod Ymgeiswyr ac Asiantau’n gallu cysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Rhybudd Etholiad
Mae’r 'Rhybudd Etholiad' ar gyfer Etholiadau Cyngor y Fwrdeistref Sirol ar gael i’w lawrlwytho ar y ffurf ganlynol:
Rhybudd Etholiad - Theoliadau'r Cynghorau Cymuned - fformat PDF 40Kb 
Amserlen ar gyfer Cyflwyno Papurau Enwebu Ymgeiswyr
| Dyddiad |
Amser |
| Dydd Llun 17 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mawrth 18 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mercher 19 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Iau 20 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mawrth 25 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mercher 26 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Iau 27 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Gwener 28 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2008 |
10.00am - 1.00pm |
| Dydd Llun 31 Mawrth 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mawrth 1 Ebrill 2008 |
9.00am - 5.00pm |
| Dydd Mercher 2 Ebrill 2008 |
9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Iau 3 Ebrill 2008 |
9.00am - 5.00pm* |
| Dydd Gwener 4 Ebrill 2008 |
9.00am - 12.00 canol dydd (terfyn amser) |
* Ben bore ac yn hwyr fin nos oddi allan i'r amseroedd hyn, trwy drefniant yn unig ar y dyddiadau penodol hyn. Cysylltwch â llinell gymorth ymgeiswyr ar 01978 292076 i gael y manylion.
|