Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Strategaeth Y Gwasanaeth Teleofal ar gyfer Wrecsam

 

Crynodeb Gweithredol

Mae gwasanaethau teleofal yn cefnogi annibyniaeth pobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi trwy reoli o bell y peryglon a'r gweithgareddau sy'n cael eu perfformio a'u monitro yn amgylchedd y cartref.  Gan hynny, mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae wrth annog pobl i ddewis lleoliad eu gofal ac i ddewis "aros yn eu hunfan" os mai dyna yw eu dymuniad.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cefnogi'r angen i ddefnyddio technoleg er mwyn darparu gofal iechyd a chymdeithasol yn fwy effeithlon.  Mae'n cydnabod yr angen i ysgogi'r system er mwyn helpu i ailddyfeisio darpariaeth y gwasanaethau gofal.  Mae Grant Cyfalaf Teleofal Cymru'n darparu cyfanswm o £8.92 miliwn ar gyfer prynu synwyryddion ac offer teleofal ledled Cymru.  Cyfran Wrecsam o'r grant hwn yw £374,189 sy'n cwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2008 a'i fwriad yw rhoi cefnogaeth i dros 400 o bobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi gan ddefnyddio gwasanaeth teleofal.

Mae gwasanaeth teleofal newydd arfaethedig Wrecsam yn seiliedig ar rwydwaith mewnol ac adnoddau sydd eisoes ar gael trwy wasanaeth Galwad Gofal Wrecsam.  Bydd hefyd yn manteisio ar arbenigedd y staff Therapi Galwedigaethol sydd wedi darparu eitemau technoleg gynorthwyol electronig i bobl â dementia am sawl blwyddyn er mwyn eu galluogi i aros yn ddiogel yn eu cartrefi yn hytrach na gorfod symud i sefydliad gofal yn rhy gynnar.

Cynigir y gwasanaeth newydd ar ddwy lefel:

  1. Pecyn Diogelwch Cartref i bobl sydd â lefelau peryglon ac anghenion heb eu diwallu a ddisgrifir fel rhai isel i ganolig.  Mae'n cefnogi unrhyw unigolyn sy'n agored i niwed ac sydd mewn perygl o golli eu hannibyniaeth.
  2. Pecyn teleofal wedi'i asesu'n llawn a'i addasu ar gyfer pobl sydd efallai mewn sefyllfa argyfyngus neu ar fin cyrraedd sefyllfa debyg.  Gallai teleofal fod yn rhan o gynllun gofal sydd wedi'i lunio i osgoi gofal sydd heb ei drefnu mewn ysbyty i'r bobl hyn neu gallai eu hatal rhag mynd i gartref preswyl neu nyrsio yn ddiangen.  Gallai hefyd gefnogi annibyniaeth pobl ag anawsterau dysgu a grwpiau eraill sy'n agored i niwed.  Caiff y gwasanaeth llawn ei dargedu at bobl â dementia, y rhai hynny sydd mewn perygl o syrthio, pobl hŷn fregus sydd newydd adael yr ysbyty a grwpiau eraill a nodir gan y grŵp ymgynghorol o fudd-ddeiliaid.  Gellir helpu pobl ag anableddau corfforol, synhwyrol neu ddysgu i gyflawni eu potensial i fyw'n annibynnol trwy ddefnyddio technoleg estynedig.

Defnyddir y Grant Cyfalaf Teleofal i brynu'r offer sydd eu hangen yng nghartrefi defnyddwyr y gwasanaeth a phrynu adnoddau technegol a meddalwedd ychwanegol i gefnogi datblygiad y gwasanaeth.  Caiff polisi taliadau newydd ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth teleofal yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd ag agendâu cenedlaethol a rhanbarthol.  Bydd yn amodol ar gytundeb rhwng y partneriaid a bydd pob un yn darparu cefnogaeth ariannol a chefnogaeth arall sy'n cyd-fynd â lefel y budd i'w gwasanaethau.  Cydnabyddir yr angen am gydlyniant gwasanaethau ac ymatebion lleol.

Strategaeth Y Gwasanaeth Teleofal ar gyfer Wrecsam

Strategaeth Y Gwasanaeth Teleofal ar gyfer Wrecsam - fersiwn PDF 545Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

 
English
 

Cyswllt i

Dogfennau Allweddol y Cyngor
Gwybodaeth Cysylltwch y Cyngor
Gwasanaethau Lleol y Cyngor

Ymateb Gwefan
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint