|
Nod
y Siarter hon yw nodi, mewn modd cynhwysfawr, y safonau mae Adran Diogelu’r
Cyhoedd yn ymdrechu i’w cyflawni. Mae gan bob rhan o’n gwasanaeth
safonau penodol ynghlwm wrthynt, a gallwch ddisgwyl i ni gwrdd â’r
safonau hynny. Mae hyn yn ychwanegol at eich hawl i ddisgwyl i ni fod
yn gwrtais ac yn effeithiol bob amser.
Mae datganiad cenhadol yr Adran yn crynhoi ein hamcanion:
Nod Adran Diogelu’r Cyhoedd yw gwella buddiannau prynwyr,
iechyd, diogelwch a lles trigolion, ymwelwyr a chymuned fusnes y Fwrdeistref
Sirol, ac i ddiogelu a gwella ansawdd ein hamgylchedd.
I’n helpu i wneud hyn rydym yn:
-
gweithio o fewn y fframwaith cyfreithiol ac yn gweithredu’r
ddeddf yn deg
-
gwneud y gwasanaeth yn hygyrch
-
parhau i ymateb i anghenion cwsmeriaid
-
ymdrin â chwsmeriaid yn onest ac yn deg
-
gweithio mewn partneriaeth â grwpiau sy’n cynrychioli
ein cwsmeriaid
-
defnyddio’r adnoddau sydd ar gael er lles pennaf ein cwsmeriaid
-
hyfforddi a datblygu ein staff i sicrhau eu bod yn effeithiol
-
ymdrin â’n staff a’n cwsmeriaid yn gyfartal beth
bynnag fo’u hil, lliw, cenedl, cefndir ethnig, rhyw, statws
priodasol, anabledd neu oed.

Siarter Diogelu'r Cyhoedd
Mae'r dogfennau ar gael ar y ffurfiau canlynol:
Siarter Diogelu'r Cyhoedd - Fersiwn Word 1.7Mb 
Siarter Diogelu'r Cyhoedd - Fersiwn PDF 287Kb 

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
|